Bydd Prifysgol Abertawe'n datblygu'r amgylchedd ymchwil ac arloesi cyntaf yn y byd sy'n defnyddio isadeiledd 5G i wella iechyd a lles y boblogaeth, wrth i gyllid gwerth £2.58m gael ei ddyfarnu i brosiect a fydd yn creu “labordy byw” yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe.
Bydd y “labordy byw” hwn yn helpu i arloesi dyfeisiau digidol gwreiddiol, ar gyfer iechyd, lles a chwaraeon, drwy ddatblygu synwyryddion a dyfeisiau newydd a all wella ansawdd bywyd pobl, monitro lles corfforol a meddyliol, gwella perfformiad a lleihau'r baich ar y GIG.
Disgwylir hefyd i'r prosiect ddenu byd diwydiant, buddsoddiad a swyddi i'r rhanbarth drwy'r cyfle i rannu lleoliad ag isadeiledd clinigol, cyfleusterau chwaraeon a lles ac arbenigedd academaidd.
Wedi'i chefnogi gan gyllid grant gwerth mwy nag £1.5 m gan Raglen Isadeiledd Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, ac mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, bydd Prifysgol Abertawe yn gweithio gyda Vodafone i ddarparu gwely profi 5G a fydd yn rhychwantu dau gampws y Brifysgol, ysbytai Singleton a Threforys, a rhannau o'r ddinas.
Meddai'r Athro Keith Lloyd sy'n arwain y prosiect:
“Mae Prifysgol Abertawe yn falch iawn o gael y cyfle i ddatblygu’r gwely profi arloesi unigryw hwn. Rydym yn ddiolchgar i Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe am ein galluogi i ddarparu adnodd sylweddol i’r rhanbarth ac i Gymru. Rydym hefyd yn hynod werthfawrogol o'r gefnogaeth y mae ein partner technoleg, Vodafone, yn ei gyfrannu i'r prosiect ac i Gyngor Abertawe a'n partneriaid GIG.
“Ein huchelgais yw y bydd yr amgylchedd ymchwil ac arloesi yr ydym yn ei greu yn sicrhau buddion gwirioneddol i’r gymuned leol yn ogystal ag i’r GIG a chwaraeon.”
“Mae gan Vodafone berthynas hirsefydlog â'r rhanbarth sy'n seiliedig ar werthoedd cyffredin a gweledigaeth i greu cymdeithas ddigidol gynhwysol, gynaliadwy. Mae'n bwysig bod pawb yn elwa o gysylltedd gwell ac rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i archwilio opsiynau gydag Abertawe i helpu'r Brifysgol i wireddu ei huchelgeisiau digidol a chyflwyno buddion go iawn i'r gymuned leol a byd diwydiant.”
Meddai Nick Gliddon, Cyfarwyddwr Busnes DU Vodafone:
“Rydym bob amser yn hapus gyda graddfa uchelgais a chapasiti Prifysgol Abertawe i gefnogi arloesedd ac rydym wrth ein bodd y bydd yn datblygu “labordy byw” sy’n harneisio pŵer 5G. Mae'r labordy yn cynnig y cyfle i arbrofi gyda thechnolegau cenhedlaeth nesaf a dod â syniadau yn fyw a allai chwyldroi'r ffordd yr ydym yn gwneud busnes ac yn darparu gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig ym maes gofal iechyd. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gydag Abertawe ar gyfleoedd i'w helpu i gyflawni eu huchelgeisiau digidol a sicrhau buddion gwirioneddol i'r gymuned leol a diwydiant."
Mae'r prosiect arloesi 5G wedi cael ei ddatblygu gan brosiect NNIISH, sy'n adeiladu ar gryfderau Prifysgol Abertawe yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd, yr Adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, a Banc Data SAIL mewn partneriaeth ag ecosystem ranbarthol y GIG.
Un o amcanion allweddol NNIISH yw arwain y broses o ddatblygu diwydiant technoleg chwaraeon o bwys byd-eang ac adeiladu ar y gwaith i arloesi technoleg iechyd a thechnoleg feddygol yn y rhanbarth.
Meddai'r Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-Bwyllgor Rhanbarth Dinas Bae Abertawe:
“Rydyn ni wrth ein boddau'n ariannu prosiect a fydd yn trawsnewid y mentrau arloesol rydyn ni’n gyfarwydd â nhw ym meysydd iechyd, lles a gwyddor chwaraeon. Yn ogystal â chryfhau darpariaethau gofal iechyd y sector cyhoeddus i'n cymuned leol, bydd yn gaffaeliad gwerthfawr i Gymru gyfan.
“Dyma adeg gyffrous i dechnoleg ddigidol ac rydyn ni'n falch o fod wrth wraidd y datblygiadau hynny. Bydd y cyfleuster hwn yn elwa o gysylltedd digidol o'r radd flaenaf, felly rwy'n hyderus y bydd y cyfleoedd sy'n deillio o hyn yn sicrhau lle blaenllaw i'r ddinas yn y diwydiant.
“Rydyn ni'n ymrwymedig i droi Abertawe'n ddinas glyfar sy'n rhan o ranbarth gwirioneddol ddigidol ac mae'r buddsoddiad hwn yn gam cadarnhaol tuag at wireddu'r nod hwnnw.”

