Yn y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon ac Iechyd, rydym yn credu yng ngrym cydweithio i ysgogi datblygiadau arloesol yng ngofal iechyd, meddygyniaeth a thechnoleg chwaraeon. Rydym wedi ein hariannu gan Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'n pweru gan Prifysgol Abertawe, mae'r sefydliad yn ganolbwynt deinamig lle mae bydoedd technoleg chwaraeon, technoleg feddygol a gofal iechyd yn dod ynghyd, gan feithrin amgylchedd delfrydol ar gyfer arloesedd a chyfleoedd i dyfu.
Trwy sefydlu cymuned amrywiol ac amlddisgyblaethol o randdeiliaid - o fusnesau bach a chanolig lleol a busnesau newydd i gorfforaethau rhyngwladol - rydym yn creu ecosystem fywiog lle mae entrepreneuriaid ac arweinwyr diwydiant yn cydweithio, yn rhannu mewnwelediadau, ac yn ysgogi newid.
Rydym hefyd yn cynnig swyddfeydd modern i'w llogi ar ein campws ym Mhrifysgol Abertawe, gan ddarparu busnesau o fewn ein rhwydwaith gyda chyfle unigryw i weithio wrth wraidd arloesedd a bod yn rhan o'r amgylchedd cydweithredol hon.
CENHADAETH
Arwain y gwaith o integreiddio chwaraeon, iechyd, a thechnoleg, gan greu ecosystem ddeinamig sy’n sbarduno arloesedd ac yn meithrin poblogaeth iachach, yn y rhanbarth a thu hwnt.
GWELEDIGAETH
Rydym yn cysylltu rhanddeiliaid technoleg chwaraeon a thechnoleg feddygol i gyflymu datblygiad atebion arloesol. Trwy baretneriaethau, ymchwil ac ymrwymiad i wella canlyniadau iechyd, ein nod yw grymuso arloeswyr, denu buddsoddiad, a gwella iechyd y boblogaeth.
CWRDD Â'R TÎM

Yr Athro Keith Lloyd
Cyfarwyddwr

Clare Henson
Rheolwr Prosiect

Alun Wyn Jones
Cynghorydd Strategol

MEGAN CHICK
Rheolwr Cyfathrebu

Sara Merrells
Swyddog Prosiect

Heidi Rehwald
Rheolwr Datblygu Busnes

