Mae gan Brifysgol Abertawe nifer o gyrsiau ar gael i bobl sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y meysydd chwaraeon, technoleg neu feddygol. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd hyn isod.

Rheoli Uwch (Chwaraeon Busnes ac Arweinyddiaeth)

Mae'r cwrs arloesol MSc Rheolaeth Uwch (Chwaraeon Busnes ac Arweinyddiaeth) wedi'i ddatblygu'n benodol ar gyfer chwarawyr proffesiynol ac athletwyr.

Datblygwyd y cwrs i gefnogi uwch-arweinwyr ac arweinwyr y dyfodol mewn sefydliadau chwaraeon, wrth hefyd fod yn hynod berthnasol i athletwyr sydd am amrywio eu set o sgiliau (oddi ar y cae), gyda sgiliau ac ymagweddau y gellir eu rhoi ar waith yn eu sefydliad neu eu menter entrepreneuraidd.

Mae'r rhaglen wedi'i dylunio ar gyfer unigolion sy'n:

  • Gweithio mewn sefydliadau chwaraeon, sy'n chwilio am gymhwyster rheoli neu arwain ffurfiol i fynd â'u gyrfa i'r lefel nesaf.
  • Athletwyr proffesiynol neu led-broffesiynol, sy'n meddwl am ddatblygu eu sgiliau rheoli ac entrepreneuraidd, yn barod ar gyfer bywyd ar ôl ymddeol o chwaraeon proffesiynol.
  • Ceisio adeiladu gyrfa yn y sector chwaraeon.

Wedi'i haddysgu dros ddwy flynedd, mae'r MSc hon wedi'i chreu er mwyn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau hanfodol wrth feithrin ffordd o feddwl sy'n canolbwyntio ar reoli. Mae'r addysgu'n seiliedig ar ddamcaniaeth reoli sylfaenol gydnabyddedig, a ddefnyddir mewn ffordd sy'n benodol i'r sector chwaraeon.

Gan gynnig cyfuniad unigryw o gysyniadau damcaniaethol a chymhwysiad ymarferol, mae'r rhaglen yn cynnig modiwlau chwaraeon sy'n dod â damcaniaeth yn fyw gan ddefnyddio astudiaethau achos go iawn i ddangos sut caiff y ddamcaniaeth hon ei chymhwyso, wrth gynnig nifer o gyfleoedd i feithrin sgiliau rheoli ymarferol.

Mae llwybr chwaraeon ein rhaglen Rheoli Uwch yn cynnig dysgu hygyrch, hyblyg a chyfunol sy'n diwallu anghenion cymhleth posib gweithwyr chwaraeon proffesiynol, er mwyn i'r dysgu gael ei adeiladu o amgylch ymrwymiadau proffesiynol presennol.

Rheoli Uwch (Technolegau Gofal Iechyd)

Cynlluniwyd y radd MSc Rheoli Uwch (Technolegau Gofal Iechyd) i fodloni'r galw cynyddol byd-eang am sgiliau arweinyddiaeth, arloesi a rheoli strategol yn y sectorau gwyddorau bywyd a biotechnoleg.

Bydd ein rhaglen yn eich galluogi i feithrin yr arbenigedd sydd ei angen i ymdrin â llwybrau arloesi cymhleth, o ddarganfod ac ymchwil i ddatblygu cynhyrchion a'u rheoleiddio tuag at y cam masnacheiddio.

Fe'i bwriedir ar gyfer gweithwyr proffesiynol ac arweinwyr y dyfodol sy'n awyddus i droi datblygiadau gwyddonol a thechnolegol yn atebion cynaliadwy a moesegol sy’n gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.

Mae'r rhaglen yn rhan allweddol o'n portffolio Rheoli Uwch, sy'n cynnig cyfres o lwybrau arbenigol i ddysgwyr sy'n dymuno arwain newid, arloesi a gwella sydd oll yn berthnasol ar draws sefydliadau cymhleth, perfformiad uchel a dibynadwy iawn, busnesau bach a chanolig, yn ogystal â bod yn berthnasol i unigolion ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol ac entrepreneuriaeth.

Mae'r portffolio ar agor i weithwyr proffesiynol o sectorau amrywiol gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, chwaraeon, y gwyddorau bywyd a bio-beirianneg, gan eich galluogi i ddatblygu'r galluoedd rheoli ac arweinyddiaeth uwch sydd eu hangen i greu gwerth cynaliadwy a chyflawni canlyniadau trawsnewidiol.

    Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant

    Mae ein rhaglen radd Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant, BA (Hons) yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol fel creawdwr a chyfathrebwr cynnwys chwaraeon proffesiynol ar draws y cyfryngau cyfathrebu chwaraeon cyfoes.

    Bydd y cwrs ymarferol iawn hwn yn caniatáu i chi astudio pynciau fel newyddiaduraeth chwaraeon, sylwebaeth chwaraeon, a hyrwyddo chwaraeon. Trwy astudio cysyniadau damcaniaethol fel cefnogwyr, newyddiaduraeth chwaraeon, hunaniaeth genedlaethol a naratifau chwaraeon, bydd myfyrwyr yn gweld sut mae ein diddordeb parhaus mewn chwaraeon wedi ffurfio’r ffordd rydym yn gweld y byd.

    Newidiadau i’r ffordd rydym yn gwylio chwaraeon wedi amharu’n sylweddol ar y model cyfryngau traddodiadol (papurau newyddion, darllediadau teledu, radio), ac mae llawer o sefydliadau chwaraeon bellach yn dewis cyfathrebu’n uniongyrchol â chefnogwyr. Nid yw’n ddigon mwyach i wybod sut i ysgrifennu adroddiad ar gêm, neu gyfweld â’r enillydd buddugoliaethus a’r cystadleuwr a drechwyd.

    Gyda hyn i gyd mewn golwg, datblygwyd y cwrs hwn i sicrhau y byddwch yn graddio fel creawdwr cynnwys chwaraeon galluog a chymwys, sy’n meddu ar sgiliau newyddiadurol, ac sy’n fedrus wrth greu a hyrwyddo cynnwys amlgyfrwng sy’n canolbwyntio ar chwaraeon, o bodlediadau i adroddiadau ar gemau ac o sylwebaeth chwaraeon i strategaethau cyfathrebu chwaraeon hyrwyddol.

    Therapi Galwedigaethol

    Mae ein cwrs Therapi Galwedigaethol yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi lansio gyrfa werth chweil yn y proffesiwn amrywiol a hanfodol hwn.

    Occupational therapists work to empower people to develop, maintain or improve a diverse range of activities that are relevant and meaningful in their daily lives, from basic self-care at home to work-related activities, hobbies and more.  Throughout this integrated course, you will learn the skills to help people overcome difficulties caused by illness, disability, accidents or ageing.  This could involve the use of aids and adaptations, modifying tasks or developing new skills.  

    The course follows a spiral design based around 5 key curriculum themes to help you develop the knowledge, skills, understanding and confidence required to be eligible to apply to the Health and Care Professions Council (HCPC) to become a registered occupational therapist:

    • Cysyniadau Galwedigaethol ar gyfer Llesiant ac Ymarfer
    • Gwella Therapi Galwedigaethol
    • Lleoliadau Ymarfer
    • Proffesiynoldeb ac Arweinyddiaeth
    • Ymchwil, Ymholiad a Digideiddio
    Gwyddor Perfformiad Chwaraeon Uwch

    Mae'r radd MSc hon mewn Gwyddor Perfformiad Chwaraeon Uwch wedi datblygu enw da am baratoi myfyrwyr yn llwyddiannus am gyflogaeth mewn chwaraeon perfformiad uchel neu eu datblygu at raddau ymchwil doethurol (PhD).

    Yn y bôn, mae'r rhaglen hon yn galluogi myfyrwyr i feithrin yr wybodaeth ddamcaniaethol a'r sgiliau ymarferol ar draws meysydd gwyddor perfformiad. Bydd myfyrwyr yn datblygu cymwyseddau craidd ar draws meysydd gwyddor data gymhwysol, gwyddor hyfforddi, gwyddor adfer, strategaethau ar ddiwrnod cystadlu a chynllunio perfformiad.

    Yn unigryw i'r radd hon, mae'n cynnwys lleoliad gwaith 12 mis gydag un o'n partneriaid yn y sector diwydiannol mewn pêl-droed elît, rygbi, nofio, tenis a dadansoddeg data cymhwysol. Mae'r profiadau lleoliadau gwaith amhrisiadwy hyn yn gwella rhagolygon cyflogadwyedd ein myfyrwyr, gan baratoi ein graddedigion i ddilyn eu llwybr gyrfa dymunol.

    Ffisioleg Ymarfer Corff Glinigol

    There has never been a more exciting time to study an MSc in Clinical Exercise Physiology. As the NHS and other healthcare providers are put under an increasing burden from long-term health conditions related to physical inactivity, the demand for graduates with skills in clinical exercise science and physiology is growing.

    Bydd y cwrs meistr amser llawn hwn, sy'n para blwyddyn, yn eich galluogi i feithrin yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth hollbwysig sy'n deillio o ymchwil, ynghyd â'r amrywiaeth eang o sgiliau cymhwysol ac ymarferol y bydd eu hangen i weithio gyda chleifion i optimeiddio iechyd, gweithrediad corfforol ac ansawdd bywyd drwy weithgarwch corfforol ac ymarfer corff.

    Bydd gan yr MSc bwyslais ymarferol cryf a bydd yn datblygu eich cymwyseddau ymarferol mewn amrywiaeth eang o fesuriadau ffisiolegol a ffenoteipaidd sy'n ymwneud â ffisioleg ymarfer corff glinigol. Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn dysgu sut i gynllunio, cynnal a dehongli amrywiaeth o asesiadau iechyd a ffitrwydd sy'n benodol i glefydau, yn ogystal â chynllunio a darparu ymyriadau gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac yn cefnogi cleifion i hyrwyddo newid ystyrlon yn eu hymddygiad, er mwyn optimeiddio'r broses o atal a thrin amrywiaeth o gyflyrau iechyd cymhleth a'u rheoli yn y tymor hir.

    Byddwch chi hefyd yn cwblhau modiwl lleoliad gwaith clinigol i ennill profiad pwysig a oruchwylir wrth gymhwyso eich sgiliau mewn lleoliadau go iawn.

    Seicoleg Chwaraeon

    Oherwydd ei gyfuniad o ymchwil, damcaniaeth a mewnwelediadau ymarferol, mae’r MSc Seicoleg Chwaraeon yn gwrs cynhwysfawr a deinamig sydd wedi'i lunio i'ch galluogi chi i ennill yr wybodaeth graidd, y sgiliau ymarferol a'r gallu y mae eu hangen arnoch chi i fod yn ymarferwyr gwyddonol, sy'n canolbwyntio ar foeseg, dulliau empirig a damcaniaethau, ym maes seicoleg chwaraeon.

    Bydd myfyrwyr yn ymwneud ag amrywiaeth o bynciau ar draws wyth cymhwysedd craidd seicoleg, yn amrywio o seicoleg gymdeithasol a gwybyddol i seicoleg ddatblygiadol. Rhoddir pwyslais cryf ar roi arweiniad i fyfyrwyr ynghyd â chipolwg ar weithio fel ymarferydd cymhwysol yn y maes hwn.

    Hyfforddi a Pherfformiadau Chwaraeon

    Mae Prifysgol Abertawe yn gweithio gyda Coleg Gwyr i ddarparu rhaglen Hyfforddi a Pherfformiadau Chwaraeon BA (Hons).

    Archwiliwch fyd deinamig hyfforddiant a pherfformiad chwaraeon ar ein rhaglen BA, sy’n meithrin dealltwriaeth ddofn o dechnegau datblygu athletaidd a hyfforddi strategol. Ymchwiliwch i seicoleg chwaraeon, moeseg, lles, technoleg a dadansoddi perfformiad, cael profiad ymarferol o ddylunio rhaglenni hyfforddi effeithiol.  

    Mae ein cwricwlwm yn integreiddio'r ymchwil a'r tueddiadau diwydiant diweddaraf, gan eich grymuso â'r sgiliau i wneud y gorau o berfformiad athletwyr.  

    Cymerwch ran mewn sesiynau ymarferol, sesiynau a addysgir, a sefyllfaoedd hyfforddi go iawn, a hogi eich gallu i arwain ac ysbrydoli timau. 

    Gall y cwrs hwn arwain at yrfa lewyrchus fel hyfforddwr hyfedrus. Mae llawer yn mentro i’r diwydiant ffitrwydd a hamdden, neu’n gweithio gyda thimau chwaraeon academi a phroffesiynol.