Mae aelodaeth NISH yn cynnig mynediad at rwydwaith ehangach o bobl sy'n gweithio yn y meysydd chwaraeon, iechyd a thechnoleg.
Mae ein haelodau yn cynnwys cwmnïau newydd a bach, busnesau mwy o faint, ymchwilwyr, sefydliadau gofal iechyd a chwaraeon. Mae aelodaeth yn rhoi cyfleoedd i chi gwrdd ag aelodau eraill, cymryd rhan mewn digwyddiadau NISH a chysylltu ag arbenigedd ym Mhrifysgol Abertawe a'n rhwydwaith ehangach.
Rydym ni hefyd yn cynnig swyddfeydd a desgiau ar ein safle ym Mhrifysgol Abertawe. Os ydych chi'n gweithio yn y sector technoleg chwaraeon, technoleg iechyd, arloesedd neu lesiant, ac yn chwilio am rywle i weithio, gadewch i ni wybod: Ffurflen Ymholiadau am Ofod Swyddfa.
AELODAETH

Aelodaeth i'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon ac Iechyd am £120/flwyddyn
- Gwahoddiadau i fynychu neu gyflwyno yn nigwyddiadau a gweithdai
- Diweddariadau unigryw trwy ein restr bostio
- Hyrwyddiadau trwy ein sianeli
- Mynediad at gyfeiriadur o'n haelodau ac opsiynau cydweithio
- Cysylltiadau â mentrau a sefydliadau tebyg
DESG BOETH

Mynediad at ddesg yn Abertawe am £120/mis heb TAW
- Holl fanteision Aelodaeth
- 80awr/mis desg boeth gan gynnwys:
- Wifi cryf
- Ystafelloedd cyfarfod a digwyddiadau
- Lleoliad prydferth wrth y môr
- Storfeydd diogel
- Llefydd i storio beiciau
- Cyfagos at dimoedd meddygol ac academyddion
- 1 awr o Gaerdydd

DESG BENODEDIG

Eich desg eich hunain yn un o'n safleoedd o £220/mis heb TAW
- Holl fanteision Aelodaeth
- Desg benodedig gan gynnwys:
- Wifi cryf
- Ystafelloedd cyfarfod a digwyddiadau
- Lleoliad prydferth wrth y môr
- Storfeydd diogel
- Llefydd i storio beiciau
- Cyfagos at dimoedd meddygol ac academyddion
- 1 awr o Gaerdydd
- Gwahoddiadau at ddigwyddiadau dathlu unigryw
- Cymorth wrth ysgrifennu ceisiadau am grantiau ar gyfer cydweithredu
- Mynediad at arbenigedd academyddion ym Mhrifysgol Abertawe
- Mynediad at gymorth menter a masnacheiddio Prifysgol Abertawe
- Mynediad at arbenigwyr yn y sector (AD, Cyllid, Busnes, Marchnata a Thechnoleg)
- Cyfleoedd i ymgeisio am arian ar y cyd
- Mynediad at labordai, offer a chyfleusterau (ffi ychwanegol)
- Cymorth gyda lleoliadau myfyrwyr a swyddfeydd i raddedigion
- Cyfleoedd i gydweithio

SWYDDFA

O £13 fesul troedfedd sgwâr (heb gynnwys TAW a thâl gwasanaeth)
- Holl fanteision Aelodaeth
- Swyddfa benodedig gan gynnwys:
- Wifi cryf
- Ystafelloedd cyfarfod a digwyddiadau
- Lleoliad prydferth wrth y môr
- Storfeydd diogel
- Llefydd i storio beiciau
- Cyfagos at dimoedd meddygol ac academyddion
- 1 awr o Gaerdydd
- Gwahoddiadau at ddigwyddiadau dathlu unigryw
- Cymorth wrth ysgrifennu ceisiadau am grantiau ar gyfer cydweithredu
- Mynediad at arbenigedd academyddion ym Mhrifysgol Abertawe
- Mynediad at gymorth menter a masnacheiddio Prifysgol Abertawe
- Mynediad at arbenigwyr yn y sector (AD, Cyllid, Busnes, Marchnata a Thechnoleg)
- Cyfleoedd i ymgeisio am arian ar y cyd
- Mynediad at labordai, offer a chyfleusterau (ffi ychwanegol)
- Cymorth gyda lleoliadau myfyrwyr a swyddfeydd i raddedigion
- Cyfleoedd i gydweithio

CYMERADWYAETH
“Mae Vodafone Business wrth ei fodd i fod yn rhan o’r ecosystem campws bywiog hwn sy’n cefnogi ymchwilwyr blaenllaw a busnesau newydd arloesol sy’n gyrru datblygiadau mewn iechyd, technoleg a menter. Mae’r amgylchedd cydweithredol yn meithrin creadigrwydd ac yn galluogi arloesedd a all ddarparu manteision gwirioneddol i’r busnes a’r gymuned.”
Vodafone Business
"Mae gweithio gyda NISH a bod ar y campws o fudd mawr i'r tîm yn Imersifi. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd gydag academyddion ac yn cael y cyfle i arddangos ein technoleg i gynulleidfa ehangach. Mae hefyd yn gwneud y dechnoleg yn fwy hygyrch i fyfyrwyr, felly gallwn ddatblygu a defnyddio profiadau addysgol i gyrsiau yn fwy effeithlon."
Joe Charman, Cyd-sylfaenydd Imersifi
“Mae'r campws yn lleoliad delfrydol ar gyfer CanSense, gan ein galluogi i ffynnu o’r cyfleoedd i gydweithredu yn y Brifysgol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe sydd wedi’i gydleoli ar Gampws Singleton. Mae’r tîm Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi hefyd wedi ein helpu’n aruthrol drwy gyflwyniadau i gyrff cyllido a chleientiaid rhyngwladol y dyfodol.”
Yr Athro Dean Harris, Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Clinigol Cansense

