Astudiaeth Achos: Defnyddio golau uwchfioled i ddiheintio ystafelloedd deintyddion

Mae angen i bractisau deintyddol a gwasanaethau gofal iechyd eraill sterileiddio eu meddygfeydd ar ôl pob claf oherwydd y risg o groes-heintio. Datblygwyd dull o gyflymu’r broses hon gan wyddonwyr yng Nghanolfan Technoleg Gofal Iechyd Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â Phractis Deintyddol Cambria.

Mae rhai practisau deintyddol yn cynhyrchu defnynnau bach o anadl cleifion (aerosolau) sy'n ffynonellau posibl o heintiau. Oherwydd na ellid gohirio gweithdrefnau brys, roedd yn hanfodol datblygu arferion sterileiddio i atal trosglwyddo afiechydon fel COVID-19.

Roedd Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe yn falch o gefnogi Practis Deintyddol Cambria yn Abertawe i ddatblygu ffyrdd newydd o ddefnyddio golau uwchfioled (UV) i sterileiddio ystafelloedd ymgynghori, gan sicrhau diogelwch cleifion a staff.

Helpodd yr ateb syml, cost-effeithiol hwn i gynyddu nifer y cleifion y gellid eu trin. Roedd hefyd yn golygu llacio'r canllawiau a gallai'r practis ganiatáu triniaethau deintyddol nad ydynt yn rhai brys.

Mae potensial i’r dull hwn gael ei ddefnyddio mewn lleoliadau gofal iechyd eraill fel meddygfeydd, a hyd yn oed mewn ysgolion.

Mae’r cydweithrediad hwn i’w weld yn Arddangosfa Gwyddoniaeth Oriel yng Nghanol Dinas Abertawe. Mae'r arddangosda yn rhad ac am ddim ac ar agor ddydd Sadwrn a dydd Sul 10am-4pm. Fel arall, gallwch fynd ar daith rithwir o amgylch yr arddangosfa o gysur eich cartref.

Discover more from The National Institute for Sport & Health

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading