Ysgoloriaeth PhD Llawn: Dysgu Trochi ar gyfer Chwaraeon Perfformiad

Mae Prifysgol Abertawe yn chwilio am ymgeiswyr i ymgymryd ag ysgoloriaeth PhD i ymchwilio i ddatblygu, gwerthuso a chymhwyso amgylcheddau dysgu trochi ar gyfer chwaraeon perfformiad.

Mae'r prosiect newydd cyffrous hwn yn gydweithrediad ffurfiol rhwng Canolfan Efelychu a Dysgu Trochi arloesol Prifysgol Abertawe (SUSIM) a'r Adran Chwaraeon a Gwyddoniaeth Ymarfer Corff.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r ddau grŵp hyn wedi datblygu cydweithrediadau rhyngddisgyblaethol ac wedi cynnal prosiectau peilot mewn cymwysiadau chwaraeon penodol. Bydd y prosiect PhD hwn nawr yn cyflymu’r broses hon drwy arwain yn ffurfiol y gwaith o archwilio cyfleoedd hyfyw ar gyfer cymhwyso amgylcheddau dysgu trochi i fynd i’r afael â chwestiynau perfformiad allweddol mewn chwaraeon.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gydag ystod o bartneriaid chwaraeon perfformiad uchel presennol a newydd y grŵp ymchwil Chwaraeon Elitaidd a Phroffesiynol i nodi meysydd lle mae gan ddysgu trochi y potensial i gael effaith gadarnhaol ar eu perfformiad trwy amrywiaeth o wahanol ddulliau (er enghraifft cymwysiadau hyfforddi, ymgyfarwyddo ag amgylchedd cystadleuaeth, delweddu data).

Yna bydd astudiaethau empirig yn cael eu cynllunio a'u cynnal i asesu effeithiolrwydd cymwysiadau posibl detholedig. Gellir defnyddio’r ddwy agwedd flaenorol hyn ar y prosiect hefyd i helpu i lywio’r gwaith o ddylunio labordy trochi chwaraeon-benodol o fewn Prosiect Campuses Bargen Ddinesig newydd Bae Abertawe yn Lôn Sgeti, Abertawe.

Bydd yr ysgoloriaeth yn dechrau ym mis Hydref 2024.

Discover more from The National Institute for Sport & Health

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading