Mae’r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd Chwaraeon ac Iechyd yn noddwr swyddogol gwobrau mawreddog y Grŵp Technoleg Chwaraeon ar gyfer 2025.
Rydyn ni'n falch i gyhoeddi ein bod ni'n noddi Gwobrau Technoleg Chwaraeon 2025 fel rhan o bartneriaeth aml-flwyddyn gyda'r sefydliad arloesol mewn technoleg chwaraeon.
Mae'r gwobrau'n dathlu arloesedd a rhagoriaeth mewn technoleg chwaraeon, gwyddoniaeth, peirianneg a gweithgynhyrchu o bedwar ban byd. Ni yw noddwr swyddogol panel beirniadu y gwobrau ar gyfer 2025, grŵp o unigolion uchel eu parch sy’n rhychwantu gweledigaethwyr technoleg, arweinwyr chwaraeon, ac athletwyr elitaidd o sbectrwm eang o chwaraeon. Bydd gennym hefyd dri chynrychiolydd o’r rhwydwaith ar y panel beirniadu:
Alun Wyn Jones, Cynghorydd Strategol NNIISH
Alun yw’r chwaraewr sydd wedi’i gapio fwyaf yn hanes rygbi’r byd, ar ôl chwarae 158 gêm i Gymru a 12 i’r Llewod yn ystod ei yrfa 20 mlynedd. Mae bellach yn cynghori’r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd Chwaraeon ac Iechyd, lle mae’n rhannu ei bersbectif ar weithio o fewn ac arwain timau, yn cynnig cipolwg ar yrru perfformiad ac yn nodi tueddiadau sy’n dod i’r amlwg yn y sectorau chwaraeon a thechnoleg iechyd.
–
Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe a Phennaeth NNIISH
Keith yw Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac mae'n academydd clinigol sy'n ymrwymedig i gefnogi blaengaredd mewn iechyd a gofal cymdeithasol a blaengaredd mewn gwasanaethau. Cyn cael ei benodi i'w swydd bresennol, bu'n Bennaeth NISCHR (Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru bellach) - corff Llywodraeth Cymru â chyfrifoldeb am bolisi, strategaeth ac ariannu ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
–
Yr Athro Liam Kilduff, Darlithydd mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Abertawe a Phennaeth Athrofa Gwyddor Perfformio Cymru
Mae Liam yn athro gwyddor perfformiad, ac mae’n cadeirio grŵp llywio ymchwil a bwrdd rheoli strategol Athrofa Gwyddoniaeth Perfformiad Cymru (WIPS). Mae WIPS yn cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â phartneriaid academaidd sy’n cynnal prosiectau gwyddor perfformiad cymhwysol amlddisgyblaethol sy’n arwain y byd ac sy’n gwella perfformiad athletwyr a busnesau Cymru. Cyn hynny bu’n gyfarwyddwr ymchwil ar gyfer Chwaraeon Cymhwysol, Canolfan Ymchwil Ymarfer Corff a Meddygaeth a helpodd i ddatblygu strategaeth ymchwil ac arloesi Chwaraeon ar draws y Brifysgol.
Yn academaidd, mae wedi cyhoeddi mwy na 200 o bapurau a adolygwyd gan gymheiriaid ac wedi sicrhau dros £4.5 miliwn o incwm ymchwil.
Mae’n cydweithio â nifer o dimau chwaraeon cenedlaethol a rhyngwladol sy’n ymwneud â gwyddor perfformiad ac yn fwy diweddar mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau technoleg chwaraeon sydd wedi’u hymgorffori ym mharatoadau athletwyr ar gyfer twrnameintiau chwaraeon mawr.
–
Mae'r Gwobrau Technoleg Chwaraeon yn cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau cwmnïau, timau ac unigolion ar draws y sector chwaraeon. Mae'r gwobrau'n dod â'r meddyliau gorau a disgleiriaf mewn chwaraeon a thechnoleg ynghyd i anrhydeddu'r datblygiadau arloesol sy'n trawsnewid y diwydiant.
Eleni, mae'r gwobrau wedi cyhoeddi'r Arena Arloesi: canolbwynt rhithwir, byd-eang ar y groesffordd rhwng chwaraeon, technoleg, gwyddoniaeth, peirianneg a dylunio. Dyma lle mae technolegau aflonyddgar yn cael eu harddangos, eu craffu a'u dathlu.
Dywedodd Rebecca Hopkins, Prif Swyddog Gweithredol y Grwp Gwobrau Technoleg Chwaraeon, ar y bartneriaeth: “Rydym yn hynod gyffrous i groesawu Prifysgol Abertawe ac NNIISH fel Partner Swyddogol ein panel beirniadu. Ein beirniaid yw rhai o'r enwau mwyaf adnabyddus a mwyaf dylanwadol ym myd chwaraeon a gwyddom y byddant yn mwynhau'r mewnwelediadau ychwanegol y mae'r bartneriaeth hon yn eu darparu. Mae’r Gwobrau’n adnabyddus am sylwi ar ragoriaeth yn gynnar mewn cwmnïau a chynhyrchion, trwy gyfuno rhagoriaeth academaidd ac arbenigedd diwydiant, rydym yn gobeithio dyrchafu ein gwaith hyd yn oed ymhellach.”
Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe“Mae’r bartneriaeth hon gyda’r Gwobrau Technoleg Chwaraeon yn cyd-fynd yn berffaith â’n hymrwymiad i wthio ffiniau arloesedd chwaraeon i’n holl aelodau. Drwy noddi’r panel beirniadu, rydym yn cefnogi cydnabyddiaeth o ragoriaeth y diwydiant ac hefyd yn rhoi cyfleoedd heb eu hail i’n rhwydwaith ymgysylltu â’r datblygiadau technolegol diweddaraf yn y maes. Rydym yn gyffrous i gyfrannu ein mewnwelediadau academaidd a’n hymchwil i’r llwyfan uchel ei barch hwn, ac edrychwn ymlaen at gydweithrediad ffrwythlon.”
Rydym yn edrych ymlaen at weld gwaith y bobl a’r brandiau yn gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl yn y sector technoleg chwaraeon. Mae’r gwobrau bellach ar agor ar gyfer ceisiadau, gyda’r seremoni yn cael ei chynnal yn Llundain ar 23 Ebrill 2025.

