Mae Cymorth i Dyfu: Rheolaeth yn gwrs arwain a rheoli unigryw i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau arwain, a'ch busnes.
Wedi'i ddarparu gan ysgolion busnes achrededig Siartr Busnesau Bach ledled y DU, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, mae’r cwrs ymarferol hwn yn defnyddio cyfuniad o sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb gan arbenigwyr. Bydd eich mentor yn eich cefnogi trwy gydol 12 wythnos, gan eich helpu i gymhwyso'r dysgu yn uniongyrchol i'ch busnes, ac i gwblhau Cynllun Gweithredu Twf wedi'i deilwra i gyflawni eich nodau arweinyddiaeth a busnes. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i rwydweithio gyda chyfoedion a dysgu ganddynt.
Wedi'i ariannu 90% gan y llywodraeth, mae'r cwrs yn costio £750. Mae Cymorth i Dyfu: Rheolaeth yn fuddsoddiad bach a all chwarae rhan fawr wrth sicrhau dyfodol eich busnes. Os oes aelodau o'ch rhwydwaith wedi'u lleoli yng Nghastell-nedd Port Talbot, gofynnwch iddynt gysylltu â threfnwyr y cwrs isod cyn gwneud cais.
Mae'r cwrs yn cynnwys 12 modiwl, 10 awr o fentora 1-2-1 a sesiynau rhwydweithio cyfoedion. Wedi'i gynllunio i'w gwblhau ochr yn ochr â gwaith llawn-amser, cyflwynir y cwrs mewn 50 awr dros 12 wythnos.
Bydd y rhaglen Cymorth i Dyfu gyntaf yn cael ei chynnal o fis Ionawr tan ddiwedd mis Mawrth. Mae rhagor o wybodaeth am ddyddiadau a dull cyflwyno pob sesiwn ar gael yma – Prifysgol Abertawe – Yr Ysgol Reolaeth | Siartr Busnesau Bach.
I fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen hon, rhaid i gyfranogwyr:
- Weithio i Fenter bach neu ganolig sydd wedi'i seilio yn y DU
- Gyflogi rhwng 5 a 249 o weithwyr
- Fod yn aelod o'r uwch dîm reoli gyda phobl yn adrodd yn uniongyrchol iddynt

