2-4pm | Dydd Iau 16 Ionawr | Athrofa Gwyddorau Bywyd 2, Prifysgol Abertawe
Rydyn ni'n eich gwahodd chi i'n digwyddiad cyntaf i aelodau ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae'r digwyddiad rhwydweithio hwn yn gyfle gwych i ymgysylltu â chyd-aelodau, cyfnewid syniadau, ac archwilio cydweithrediadau newydd. P'un a ydych chi'n fusnes technoleg newydd, yn academydd, yn ddarparwr gofal iechyd, neu'n eiriolwr yn y sectorau chwaraeon ac iechyd, mae eich mewnwelediadau a'ch profiadau yn amhrisiadwy i'n cymuned.
Yma, gallech chi gysylltu ag unigolion o'r un anian sy'n rhannu brwdfrydedd dros arloesi yn y diwydiannau technoleg chwaraeon a thechnoleg meddygol, ac sy'n awyddus i gydweithio ac arloesi.
Bydd cyfle hefyd i gwrdd â thîm y rhwydwaith a rhoi gwybod i ni am eich syniadau. Gallwn fynd â'r wybodaeth hon at aelodau a darpar aelodau eraill i ysbrydoli prosiectau neu fentrau newydd.
Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer aelodau'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon ac Iechyd. Os hoffech ymuno, gallwch wneud yma: NISH.uk/membership i fod yn rhan o'n cymuned.

