Mae Dr Nalda Wainwright, Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a sylfaenydd MiniMovers Ltd, yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei gwaith ym maes datblygiad corfforol plentyndod cynnar a dysgu awyr agored. Mae ei hymchwil wedi’i gyhoeddi a’i gyflwyno’n fyd-eang, gan ganolbwyntio ar gefnogi gweithwyr proffesiynol i feithrin datblygiad corfforol plant.
Ym mis Rhagfyr 2023, daeth Dr Wainwright at Agor Innovation ym Mhrifysgol Abertawe gyda chwestiynau am Eiddo Deallusol (IP) yn ymwneud â datblygu ap newydd a gynlluniwyd i ehangu MiniMovers. Er bod ganddi ddealltwriaeth sylfaenol o eiddo deallusol, roedd angen trafodaethau manwl i ymdrin ag agweddau megis diogelu hawlfraint a datblygu contractau. Mynychodd Agor y cyfarfod cwmpasu cychwynnol i roi arweiniad cynhwysfawr ar y pynciau hyn.
Nodwyd bod hefyd angen cymorth marchnata ar MiniMovers. Gan gydnabod cyfyngiadau ariannol y busnes, cynigiodd Agor ateb yn ymwneud â lleoliad myfyriwr marchnata. Erbyn Mehefin 2024, roedd myfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi ymuno â MiniMovers i gynorthwyo gydag ymdrechion marchnata, yn enwedig ar gyfer digwyddiadau fel Eisteddfod yr Urdd a Sioe Frenhinol Cymru.
O ganlyniad i'r cydweithrediad hwn, mae MiniMovers wedi datblygu dealltwriaeth cliriach o sut i integreiddio ystyriaethau Eiddo Deallusol i'w contractau cyn allanoli gwaith. Mae'r busnes hefyd wedi ymuno â rhwydwaith sy'n cynnig lleoliadau gwaith i fyfyrwyr, gan sicrhau bod cymorth parhaol gan garfannau yn y dyfodol. Mae Dr Wainwright o hyd mewn cyswllt ag Agor ar gyfer cydweithrediad a chyfleoedd yn y dyfodol.
Tynnodd Dr Nalda Wainwright sylw at effaith gadarnhaol y partneriaeth, gan nodi, “Mae Ellie wedi bod yn ychwanegiad gwych i'r busnes dros yr haf ac rwy'n gobeithio bod hi wedi elwa o' r profiad. Byddem wrth ein bodd yn cael myfyriwr yn y dyfodol os gallwn gynnig lleoliad gwaith da iddynt."
Myfyriodd Hafwen Lewis, Swyddog Arloesedd yn Agor Innovation, ar y cydweithio: “ Dangosodd Dr. Nalda Wainwright barodrwydd cryf i ymgysylltu â chymorth a dyfnhau ei dealltwriaeth o’r Eiddo Deallusol a gynhyrchir ganddi hi ac unrhyw gydweithredwyr dan gontract. Trwy drafodaethau ar y camau a gymerwyd eisoes a chynlluniau strategol ar gyfer y dyfodol, roeddem yn gallu darparu arweiniad i sicrhau bod perchnogaeth eiddo deallusol yn cael ei neilltuo'n glir, gan hwyluso dosbarthiad breindal teg i'r holl gyfranwyr.
Yn ystod ein cyfarfod cwmpasu cychwynnol, daeth yn amlwg y gellid gwella ymdrechion marchnata MiniMovers. O ganlyniad, rydym wedi lleoli myfyriwr yn llwyddiannus gyda MiniMovers i ddarparu cymorth wedi'i dargedu yn y maes hwn. Mae Dr. Wainwright, Athro Cyswllt mewn Sefydliad Addysg Uwch arall (SAU) a Chyfarwyddwr MiniMovers, wedi meithrin cydweithrediad hynod gynhyrchiol rhwng y cwmni a'r myfyriwr, gan arwain at ganlyniadau arwyddocaol i'r ddwy ochr. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda MiniMovers, ac edrychwn ymlaen at gefnogi eu hymdrechion yn y dyfodol.”
Mae’r cydweithrediad hwn yn dangos sut y gall partneriaethau strategol rhwng y byd academaidd a diwydiant o fewn y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd Chwaraeon ac Iechyd ysgogi arloesedd, gwella twf busnes, a darparu cyfleoedd dysgu drwy brofiad gwerthfawr i fyfyrwyr.




