Mae Uned Treialon Abertawe (STU) yn chwilio am gleifion, gofalwyr ac aelodau o'r cyhoedd sy'n ddelfrydol yn byw yn Ne Cymru i helpu dylunio treial clinigol.
Mae ymchwilwyr yn STU yn sefydlu astudiaeth i brofi system cotio gwrthficrobaidd a phuro aer mewn wardiau ysbytai i wella diogelwch cleifion. Gall heintiau a geir mewn ysbytai effeithio'n sylweddol ar gleifion trwy waethygu eu cyflyrau iechyd presennol ac ymestyn eu harhosiad.
Mae treialon cynnar yn Ysbyty Treforys yn awgrymu y gallai gosod gorchudd gwrthficrobaidd arbennig ar draws ward gyfan, ynghyd â phuronyddion aer sy'n helpu i dynnu bacteria o'r aer, fod wedi cyfrannu at ostyngiad mewn heintiau dros gyfnod o ddeg mis.
Er mwyn sicrhau bod y dull hwn yn effeithiol ac yn ddiogel, mae angen i ymchwilwyr nawr gynnal treial clinigol llawn. Y nod yw cadarnhau a all y dull hwn ostwng cyfraddau heintiau yn llwyddiannus a helpu cleifion i wella ar amser heb gymhlethdodau.
Pwy all Gymryd Rhan?
Nid oes angen unrhyw brofiad penodol, ond bydd y canlynol o fantais:
- Profiad personol o gael haint o ysbyty
- Diddordeb mewn gofal iechyd ac atal heintiau
Beth Fydd Rhaid i Mi ei Wneud?
Mae dwy ffordd i gymryd rhan:
Rol Un:
- Mynychu hyd at pump cyfarfod ar-lein (misol, 1.5 awr yr un)
- Ymuno â dau weithdy yn gorfforol yn Abertawe
- Cyfrannu at drafodaethau ar gynllun y treial a sut y gallai cleifion deimlo am yr astudiaeth
Rol Dau:
- Mynychu dau weithdy yn gorfforol i ddarparu adborth ar ddyluniad yr astudiaeth
Beth yw'r Manteision?
- Cydweithio ag ymchwilwyr a chynrychiolwyr cyhoeddus eraill
- Helpu llywio treial clinigol a all wella diogelwch yr ysbyty
- Darpar gyfleoedd i ymuno â'r grwp rheoli treial llawn os yw'r astudiaeth wedi'i hariannu
Y Cymorth sydd ar Gael
- Person cyswllt dynodedig ar gyfer hyfforddiant a chymorth anffurfiol, sydd ar gael cyn ac ar ôl cyfarfodydd
- Ad-daliad am gostau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol
- Taliad o £25.00 yr awr am gyfranogiad (gall unigolion sy'n derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth ofyn am gyfradd is)
Am ragor o fanylion, cyfeiriwch at y canllawiau. Os ydych yn derbyn budd-daliadau, gallwch hefyd gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogiad.

