Rydym yn falch o amlygu menter arloesol sy’n ceisio gwella gofal methiant y galon ledled Cymru. Dan arweiniad Dr Emma Rees a Dr Aimee Drane o Brifysgol Abertawe, mae rhaglen uchelgeisiol a gefnogir gan grant NHIR am flwyddyn, yn anelu at ddod â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ymchwilwyr, cleifion a llunwyr polisi ynghyd i sefydlu consensws ar arferion gorau a nodi cyfleoedd ledled Cymru ar gyfer ymchwil ac arloesi cydweithredol.
Bydd y rhaglen datblygu ymchwil hon yn asesu tirwedd bresennol gofal methiant y galon ledled Cymru. Drwy ddeall arferion presennol, gwerthuso ymyriadau llwyddiannus, a nodi cyfleoedd newydd ar gyfer arloesi ac ymchwil, bydd y fenter yn gwella capasiti a gallu rhyngddisgyblaethol mewn ymchwil ac arloesi, gan flaenoriaethu meysydd gwaith a fydd yn trawsnewid gofal cleifion yng Nghymru.
Agwedd allweddol ar y prosiect yw ymgysylltu â rhanddeiliaid, a bydd pob bwrdd iechyd ledled Cymru yn cael ei wahodd i rannu mewnwelediad i’w mentrau gofal methiant y galon parhaus mewn digwyddiad rhwydweithio. Bydd hwn yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o strategaethau, llwyddiannau a heriau cyfredol, a meysydd sydd angen eu datblygu ymhellach. Bydd gwasanaethau blaenllaw o Loegr hefyd yn cael eu gwahodd i gyfrannu arferion gorau ac ymchwil gyfredol, gan gynnig mewnwelediadau gwerthfawr i ddulliau arloesol o ofalu am gleifion dros y ffin.
Yn dilyn trafodaeth arbenigol, bydd y tîm ymchwil yn gweithio gydag Uned Treialon Abertawe cynnal adolygiad systematig a meta-ddadansoddiad. Bydd hyn yn adeiladu sylfaen dystiolaeth gadarn o effeithiolrwydd ymyriadau methiant y galon ac yn nodi bylchau sydd angen ymchwil yng Nghymru.
Mae un elfen hollbwysig o'r prosiect yn ymwneud â chyfoethogi data gofal iechyd a gesglir yn rheolaidd o fewn banc data SAIL. Ar hyn o bryd, gall ymchwilwyr archwilio nifer y sganiau calon a gyflawnir ar gyfer amheuaeth o fethiant y galon, ond nid oes digon o ddata i archwilio math neu ddifrifoldeb methiant y galon. Mae hyn yn cyfyngu ar gywirdeb ymchwil methiant y galon ar lefel y boblogaeth. Er mwyn goresgyn y mater hwn, mae'r grŵp yn profi a yw'n bosibl echdynnu a chysylltu data mesur sgan calon o Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gyda data iechyd gofal arall o Fanc Data SAIL. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys partneriaeth agos â Dr Benjamin Dicken, Cardiolegydd yn BIPBC, a Dr Libby Ellis, arweinydd Gwyddor Data ar gyfer y Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol. Nod yr ymchwilwyr yw datblygu model newydd ar gyfer echdynnu data a chysylltiadau a allai wella ymchwil methiant y galon yn sylweddol yng Nghymru a thu hwnt.
Ar ddiwedd y rhaglen flwyddyn, bydd y tîm yn cyhoeddi dogfen consensws yn amlinellu arferion gorau a blaenoriaethau ymchwil ar gyfer gofal methiant y galon yng Nghymru. Bydd y ddogfen hon yn sylfaen ar gyfer ceisiadau am gyllid ar raddfa fawr yn y dyfodol er mwyn ysgogi ymchwil ac arloesi cydweithredol ledled Cymru.
Drwy feithrin cydweithrediad rhwng prifysgolion, byrddau iechyd, a darparwyr gofal iechyd cymunedol, mae’r fenter hon yn cyd-fynd â’n cenhadaeth i ysgogi arloesiadau gofal iechyd effeithiol sy’n gwella canlyniadau cleifion.

