Ymwelodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Llywodraeth y DU, Jo Stevens AS, â'n Canolfan Efelychu a Dysgu Trochol (SUSIM) yr wythnos hon i weld ein gwalth arloesol. Tynnodd yr ymweliad sylw at sut mae efelychu a thechnoleg trochi yn dod â thechnoleg chwaraeon a thechnoleg iechyd at ei gilydd i hyrwyddo perfformiad athletaidd, adsefydlu a lles y cyhoedd.
Yn ystod yr ymweliad, gwelodd yr Ysgrifennydd arddangosiadau rhyngweithiol gan ddefnyddio efelychiadau trochol SUSIM. Roedd rhain yn cynnwys senarios hyfforddi ffyddlondeb uchel wedi'u hanelu at atal anafiadau, rhaglenni adsefydlu rhyngweithiol, a phrotocolau gwella perfformiad sy'n cyfuno deallusrwydd artiffisial, olrhain symudiadau, a realiti rhithwir.
Pwysleisiodd yr ymweliad ein huchelgais i ddod â chwmnïau technoleg chwaraeon, arloeswyr technoleg feddygol, timau clinigol, ymchwilwyr o'r radd flaenaf a sefydliadau chwaraeon ynghyd – gan greu ecosystem sy'n ysgogi twf economaidd ac yn gwella canlyniadau iechyd ar draws y rhanbarth.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae gan brifysgolion Cymru hanes gwych o gynhyrchu ymchwil sydd â manteision masnachol, sy'n tyfu ein heconomi ac sy'n creu swyddi medrus iawn â chyflog da.
“Mae’r gwaith arloesol mewn chwaraeon ac iechyd ym Mhrifysgol Abertawe yn hynod drawiadol, ac rydw i wrth fy modd bod buddsoddiad Llywodraeth y DU ym Margen Ddinesig Bae Abertawe yn helpu i adeiladu rhwydwaith i gyflawni’r arloesedd hwnnw.”
Dywedodd yr Athro Charlotte Rees, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe: “Rydym wrth ein bodd yn croesawu’r Ysgrifennydd Gwladol a dangos sut mae efelychu trochol yn trawsnewid technolegau chwaraeon ac iechyd. Ein gweledigaeth yw cysylltu’r meddyliau mwyaf disglair ar draws technoleg, academia, iechyd a chwaraeon – gan chwalu rhwystrau a chyd-greu atebion sy’n gwella perfformiad athletaidd ac yn cefnogi lles gydol oes. Mae’r ymweliad hwn yn atgyfnerthu ein safle fel canolfan flaenllaw ar gyfer arloesi yng Nghymru, a thu hwnt.”
Mae SUSIM, gyda'i gyfres o ystafelloedd efelychu ac amgylcheddau trochol gwerth £7 miliwn, yn darparu lleoliad deinamig i staff y GIG, ymarferwyr chwaraeon a thechnolegwyr greu prototeipiau a phrofi datblygiadau mewn cyd-destunau byd go iawn. O glinigau adsefydlu rhithwir i senarios meddygol efelychiedig wrth ochr y cae, mae'r cyfleuster yn galluogi arbrofi cynnar a chydweithio traws-sector.
Fel cydweithrediad, mae NISH yn dwyn ynghyd ffigurau blaenllaw o fyd chwaraeon elitaidd, gofal iechyd, addysg a thechnoleg i greu ecosystem sy'n cael ei yrru gan arloesedd. Drwy gysylltu'r sectorau allweddol hyn, mae'r Sefydliad yn cyflymu datblygiad atebion arloesol mewn meysydd fel gwella perfformiad, adsefydlu ar ôl anafiadau ac iechyd cymunedol. Drwy ei bartneriaethau a'i harbenigedd a rennir, mae'r rhaglen yn llunio dyfodol technolegau chwaraeon ac iechyd, gan sbarduno twf economaidd a chanlyniadau iechyd cadarnhaol ledled Cymru a'r DU.

