Wedi'i ysgrifennu ar gyfer Diwrnod Diabetes y Byd, ysgrifenwyd y blog hwn gan yr Athro Richard Bracken, ymchwilydd blaenllaw mewn ffisioleg ymarfer corff ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei waith yn canolbwyntio ar ddeall sut all ffordd o fyw, gweithgaredd corfforol a thechnoleg wella canlyniadau iechyd i bobl sy'n byw gyda diabetes.
Mae ymarfer corff rheolaidd yn un o'r dulliau mwyaf pwerus i bobl sy'n byw gyda diabetes. Mae'n cefnogi iechyd corfforol a meddyliol, ond mae'n gofyn am gynllunio a dealltwriaeth ofalus.
Manteision Ymarfer Corff Rheolaidd
I unigolion sy'n byw gyda diabetes, nid yn unig yw ymarfer corff yn fuddiol, mae'n hanfodol. Mae ymarfer corff rheolaidd yn cynnig tair mantais fawr:
- Gwell Reolaeth o Glwcos yn y Gwaed: Mae ymarfer corff yn cynyddu sensitifrwydd inswlin ac yn galluogi cyhyrau i ddefnyddio glwcos yn fwy effeithiol. Mae hyn yn helpu i ostwng lefelau HbA1c siwgr gwaed yn uniongyrchol a hirdymor.
- Lleihad Mewn Risgiau Cardiofasgwlaidd: Mae ymarfer corff yn gostwng pwysedd gwaed, yn gwella proffiliau colesterol, ac yn cefnogi rheolaeth pwysau - ac mae hyn i gyd yn hanfodol ar gyfer lleihau'r risg o glefyd y galon a strôc, sy'n fwy cyffredin mewn pobl gyda diabetes.
- Llesiant Gwell: Mae ymarfer corff yn cynyddu egni, yn gwella cwsg, yn lleihau straen, ac yn gwella iechyd meddwl cyffredinol, gan helpu unigolion i deimlo eu bod mewn rheolaeth well o'u cyflwr.
How the Body Responds Differently to Exercise with Diabetes
The biggest difference between someone with diabetes and someone without diabetes lies in how blood sugar is regulated during activity. In people without diabetes, hormones like glucagon and adrenaline automatically adjust to keep blood sugar stable. For those with diabetes, especially those using insulin, this self-regulation is impaired, meaning they must manually balance insulin doses.
- Gall ymarfer corff erobig, fel rhedeg neu feicio, arwain at hypoglycemia (siwgr gwaed isel) wrth i gyhyrau gymryd glwcos yn gyflym.
- Gall ymarfer corff anerobig neu ddwysedd uchel, fel sbrintio neu godi pwysau trwm, achosi hyperglycemia (siwgr gwaed uchel) oherwydd rhyddhau hormonau straen. Mae hyn yn gwneud monitro glwcos yn y gwaed cyn, yn ystod ac ar ôl gweithgaredd yn hanfodol ar gyfer diogelwch a pherfformiad.
Y Mathau Gorau o Ymarfer Corff ar gyfer Pobl â Diabetes
Mae gwahanol fathau o ymarfer corff yn effeithio ar glwcos yn y gwaed mewn ffyrdd unigryw:
| Math o Ymarfer Corff | Prif Effaith ar Glwcos yn y Gwaed | Math o Ddiabetes | Ystyriaethau Allweddol |
| Erobig (e.e. cerdded yn gyflym, loncian, beicio) | Lleihau glwcos yn y gwaed (yn defnyddio glwcos fel tanwydd) | Math 1 a Math 2 | Yn gwella sensitifrwydd i inswlin ond gall achosi hypoglycemia |
| Anerobig/dwysedd uchel (e.e. codi pwysau trwm, sbrintio, HIIT) | Cynyddu glwcos yn y gwaed dros dro (oherwydd hormonau straen yn rhyddhau glwcos sydd wedi'i storio) | Math 1 | Yn gallu achosi hyperglycemia, mae angen dosio inswlin gofalus ar ôl |
| Hyfforddiant Gwrthiant (Cryfder) | Adeiladu màs cyhyrau, sy'n gwella sensitifrwydd inswlin hirdymor ac amsugno glwcos | Math 1 a Math 2 | Yn achosi hyperglycemia mewn Math 1 ond yn adeiladu cyhyrau ac yn cefnogi rheolaeth glwcos yn y gwaed hirdymor ar gyfer y ddau fath |
| Hyfforddiant Cyfunol (Aerobig a Gwrthiant) | Gwella rheolaeth o glwcos yn y gwaed ac iechyd cardiofasgiwlaidd | Math 2 | Mwyaf effeithiol ar gyfer lleihau HbA1c dros amser |
Rheoli Risgiau a Goresgyn Ofn
Yr ofn o hypoglycemia yw'r rhwystr mwyaf i ymarfer corff mewn diabetes, yn enwedig ymhlith defnyddwyr inswlin. Gall ymarferion dwys hefyd godi lefelau glwcos neu, mewn achosion prin, arwain at getoasidosis diabetig (DKA) os yw lefelau inswlin yn rhy isel.
Gellir rheoli'r risgiau hyn drwy:
- Addysg: Gweithio gyda darparwyr gofal iechyd i ddatblygu cynlluniau unigol ar gyfer addasu inswlin, cymryd carbohydradau, ac ystodau glwcos gwaed diogel yn ystod ymarfer corff.
- Ymchwil a Thechnoleg: Gall dyfeisiau modern fel Monitriaid Glwcos Parhaus a phympiau insiwlin automataidd ragweld ac atal amrywiadau glwcos peryglus.
Gwneud i Chwaraeon yn Gynhwysol
Mae hyfforddwyr a gweithwyr proffesiynol ffitrwydd yn chwarae rhan hanfodol wrth greu amgylcheddau cynhwysol i athletwyr â diabetes:
- Dysgu'r Pethau Sylfaenol: Deall y gwahaniaethau rhwng Math 1 a Maeth 2 diabetes, gan adnabod arwyddion o siwgr gward isel neu uchel a gwybod y triniaethau brys.
- Annog Dialog Agored: Dylai athletwyr deimlo'n ddiogel i oedi, profi, neu drîn symptomau wrth hyfforddi.
- Cynllunio Ymlaen Llaw: Sicrhau bod citiau carbohydradau a glwcagon brys ar gael, ac addasu hyfforddiant yn seiliedig ar ddata glwcos amser real.
Rôl Technoleg
Mae technoleg yn trawsnewid rheolaeth diabetes, yn enwedig mewn chwaraeon. Mae Monitoriaid Glwcos Parhaus yn darparu adborth amser real a data tueddiadau, gan helpu athletwyr i weithredu cyn i lefelau glwcos ddod yn anniogel. Mae Pympiau Inswlin a Systemau Cyflenwi Awtomataidd yn galluogi dosio hyblyg, lleihau inswlin cyn gweithgaredd i atal siwgr gwaed isel, ac adfer swyddogaeth arferol ar ôl ymarfer corff. Mae'r datblygiadau hyn yn grymuso pobl sydd gyda diabetes i hyfforddi'n hyderus, gan leihau ofn a chynyddu perfformiad.
Cynnydd a Bylchau mewn Ymwybyddiaeth
Mae dealltwriaeth y cyhoedd o ymarfer corff wrth reoli diabetes wedi gwella'n sylweddol, yn enwedig ar gyfer diabetes Math 2. Ond mae bylchau gwybodaeth o hyd, yn enwedig o ran addasu inswlin, amseru bwyta carbohydradau, a rheoli ofn hypoglycemia. Mae rhwystrau economaidd-gymdeithasol hefyd yn cyfyngu ar fynediad at arweiniad personol a thechnoleg uwch.
Troi Gwyddoniaeth i Weithredaeth
Mae trosi ymchwil yn gyngor ymarferol yn cynnwys tair cam allweddol:
- IntegreiddioTrosi data cymhleth yn ganllawiau clir, ymarferol (e.e. Mae angen cerdded am 30 munud y dydd i leihau eich siwgr gwaed hir-dymor).
- Integration: Diweddaru Canllawiau Ymarfer Clinigol a hyfforddiant ar gyfer timoedd gofal iechyd.
- Unigoleiddio: Helpu pob person i gymhwyso'r egwyddorion hyn yn ddiogel yn eu ffordd o fyw.
Anghenion Ymchwil Parhaol
Er yr holl gynnydd, mae llawer o gwestiynau’n parhau:
- Pam bod unigolion â'r un math o ddiabetes yn ymateb yn wahanol i ymarfer corff?
- Beth yw'r cyfuniadau gorau o ymarfer corff a maeth ar gyfer gwahanol boblogaethau?
- Sut allwn ni integreiddio technoleg newydd orau i reolaeth ddyddiol?
Mae angen mwy o astudiaethau hirdymor ar raddfa fawr, yn enwedig ar gyfer grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol fel plant, oedolion hŷn, a menywod beichiog â diabetes.
Awgrym Arbennig
Monitrwch eich glwcos yn y gwaed yn agos (cyn, yn ystod ac ar ôl ymarfer corff), gan addasu'r cymeriant inswlin neu garbohydradau yn rhagweithiol.
Mae ymchwil yn dangos bod lleihau inswlin sylfaenol 50–80% cyn gweithgaredd aerobig (trwy ddefnyddio pwmp) neu fwyta carbohydradau cyn ymarfer corff (i'r rhai sy'n cael pigiadau) yw'r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal hypoglycemia.
Edrych Ymlaen
Fel rhan o gydweithrediad rhyngwladol rhwng gwyddonwyr, clinigwyr, a phobl sy'n byw gyda diabetes, mae ein tîm yn parhau i fireinio canllawiau consensws byd-eang ar gyfer ymarfer corff diogel, defnyddio monitiaid glwcos parhaus yn ystod gweithgareddau, a dosbarthu inswlin awtomataidd.
Mae'r nod yn syml: gwneud gweithgarwch corfforol yn ddiogel a grymuso pob person â diabetes - gan drawsnewid ofn yn rhyddid trwy wybodaeth, technoleg a symudiad.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am ein hymchwil ym Mhrifysgol Abertawe neu gydweithio â'n hacademyddion, clinigwyr neu gwmnïau ar waith yn y dyfodol, rhowch wybod i ni isod.

