Gofynnon ni i Dr Natalie De Mello, Arweinydd Menter, Partneriaethau ac Arloesi Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, am y cwrs Meistr newydd yn Rheoli Uwch (Technolegau Gofal Iechyd) i ddysgu am y cwrs unigryw, wedi'i greu ar gyfer arweinwyr uchelgeisiol sydd am gyfieithu datblygiadau gwyddonol a thechnolegol i atebion effeithiol to support health and wellbeing.
Beth wnaeth ysbrydoli'r rhaglen?
Cafodd dadansoddiad bylchau ei wneud i ddeall ble roedd angen hyfforddiant neu gymwysterau, ac un o'r meysydd hyn oedd technolegau gofal iechyd. Gydag ond llond llaw o gyrsiau ledled y wlad yn mynd i'r afael â'r bwlch hwn, dyma'r cyntaf o'i fath yng Nghymru. Felly, mae'n bwysig i'r sector bio-arloesi cryf yng Nghymru fod y bwlch hwn yn cael ei gau.
Cynlluniwyd y cwrs i ddiwallu'r galw cynyddol am sgiliau arwain, arloesi a rheoli strategol yn y sectorau gwyddorau bywyd a biodechnoleg.
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Mae'r cwrs ar agor i bobl sy'n gweithio mewn:
- Gofal iechyd a gofal cymdeithasol
- Gwyddorau byw
- Bio-beirianneg
Mae'r modiwlau arbenigol yn golygu gall myfyrwyr ddatblygu sgiliau rheoli ac arwain uwch sy'n cael eu defnyddio i greu gwerth cynaliadwy a chyflawni canlyniadau effeithiol.
Beth yw strwythur y cwrs?
Cynhelir y cwrs rhan-amser dros ddwy flynedd, gan ddechrau gyda modiwlau craidd MBA yn y flwyddyn gyntaf ac yn symud ymlaen i gynnwys arbenigol mewn gwyddorau bywyd ac arloesi yn yr ail flwyddyn. Mae prosiect ymchwil wedi'i integreiddio i'r ddwy flynedd astudio, gan ganiatáu i fyfyrwyr gymhwyso eu sgiliau newydd mewn ymchwil i brosiect neu faes ymchwil parhaus sy'n berthnasol i'w cyflogwr neu gwmni lleol.
Mae'r rhaglen hon yn amlddisgyblaethol, a fydd yn cael ei dysgu ar y ddwy gampws: Singleton a'r Bae.
Pa fodiwlau dylai myfyrwyr eu disgwyl?
Yn ystod y cwrs, bydd myfyrwyr yn manteisio o:
- Mewnbwn gan ymgynghorwyr yn y diwydiant
Bydd cynrychiolwyr o'r GIG, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a sefydliadau partner mewn iechyd digidol, biodechnoleg a diwydianau dibynadwy eraill yn helpu i ddatblygu modiwlau a sesiynau. Bydd hyn yn sicrhau bod eich dysgu yn unol â blaenoriaethau'r sector, anghenion datblygu'r gweithlu, ac ymarferion arloesi cyfredol. - Darlithoedd a gwersi gan westeion
Mae arweinwyr uwch, arloeswyr, entrepreneuriaid ac ymarferwyr o sefydliadau'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yn cyfrannu at fodiwlau yn ystod y cwrs. Mae hyn yn rhoi safbwyntiau go iawn a chyfleoedd i chi dyfu eich rhwydwaith proffesiynol. - Prosiect mawr capfaen
Bydd hyn yn cael ei lunio ar y cyd â sefydliadau allanol, a fydd yn cynnig heriau byd go iawn i chi weithio arnynt. Mae hyn yn cryfhau perthnasedd, dilysrwydd ac effaith eich ymchwil. - Mynediad at Ysgol Reoli £22miliwn Prifysgol Abertawe
Sefydliad busnes addysg mwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr. Bydd hefyd gennych fynediad at gyfleusterau blaenllaw Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, oherwydd natur amlddisgyblaethol y cwrs.
Beth sy'n gwneud i'r rhaglen yn unigryw?
Mae'r modiwlau wedi'u curadu mewn ymateb i'r dadansoddiad bylchau ac yn canolbwyntio ar y camau damcaniaethol ac ymarferol sydd eu hangen i drosi syniadau arloesi agored yn atebion profedig, sy'n wybodus i ddefnyddwyr a fydd yn gwella bywydau'r boblogaeth.
Beth yw'r gofynion mynediad?
Bydd pob ymgeisydd yn cael ei ystyried ar ei rinweddau a phrofiadau ei hun, ac anogir ceisiadau gan fyfyrwyr gydag amryw eang o gymwysterau.
Pa gyfleoedd gyrfa y gallai hyn arwain atynt?
Cynlluniwyd y cwrs i adeiladu sgiliau arwain, arloesi, sy'n eich gwneud yn barod am yrfa, os ydych yn berson profedig neu'n gobeithio dod yn arweinydd. Bydd myfyfwyr yn datblygu hyder a meddwl strategol a fydd eu hangen i arwain newid mewn sefydliadau cymhleth.
Trwy gydol y rhaglen, byddwch chi'n cryfhau sgiliau mewn:
- Arwain a rheoli arloesedd
- Meddwl strategol a gwneud penderfyniadau
- Creadigrwydd ac entrepreneuriaeth
- Rheoli newid a thrawsnewid
- Cyfathrebu a dylanwadu proffesiynol
Mae graddedigion o gyrsiau MSc Rheolaeth Uwch Prifysgol Abertawe wedi mynd ymlaen i weithio mewn rolau arwain, strategaeth, arloesi ac ymgynghoraeth yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yn y DU a thu hwnt. Mae nifer wedi ennill dyrchafiadau neu symud i swyddi arbenigol neu reoli ers astudio ar y cwrs. Rydym yn disgwyl i fyfyrwyr llwyddiannus ar y cwrs hwn fod yn addas iawn i ddatblygu i rolau fel:
- Prif Swyddog Technoleg
- Pennaeth Ymchwil, Datblygu ac Arloesi
- Rheolwr Prosiect mewn materion rheoleiddio neu dreialon clinigol
Sut all ddarpar fyfyrwyr ymgeisio?
Gellir ymgeisio yma. Byddwn i'n argymell ymgeisio'n gynnar, oherwydd gallai'r cwrs gau yn gynnar os yw'r llefydd yn llenwi.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cwrs neu am gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at n.demello@swansea.ac.uk

