Boed yn gyfrif camau, olrhain cwsg neu fonitro cyfradd curiad y galon, mae technoleg wisgadwy wedi dod yn rhan o fywyd bob dydd i filiynau o bobl.
Daeth rhwybeth a ddechreuodd fel arloesi perfformiadau athletwyr yn olrhain ffitrwydd syml, bob dydd ac mae bellach wedi esblygu i fod yn ecosystem gynyddol o ddyfeisiau sy'n addo ein helpu i ddeall ein hiechyd a'n lles yn well. Gall oriorau clyfar, olrheinwyr ffitrwydd a dyfeisiau monitro iechyd bellach ddarparu mewnwelediadau a fyddai unwaith wedi gofyn am offer arbenigol neu ymweliad â chlinig.
Ond wrth i'r dechnoleg ddod yn fwy soffistigedig, mae'n bwysig ystyried a yw dyfeisiau gwisgadwy yn ein gwneud ni'n iachach, neu ond yn rhoi mwy o wybodaeth i ni boeni amdani?
I lawer o bobl, mae technoleg wisgadwy weid newid y ffordd rydym ni'n meddwl am iechyd.
Yn hytrach na dibynnu ar fewnwelediadau achlysurol, gallwn ni nawr greu llun o'n harferion bob dydd dros wythnosau, misoedd a blynyddoedd. Gall patrymau nad oedd pobl yn sylwi arnynt, fel cyfnodau hir o anweithgarwch, cwsg anghyson neu newidiadau mewn lefelau gweithgarwch, ddod yn llawer haws i'w hadnabod. Ac mae'r ymwybyddiaeth gynyddol hon wedi profi i gael potensial sylweddol o ran gwella iechyd a lles hirdymor.
Pan fod pobl yn deall eu harferion yn well, maen nhw'n aml mewn gwell sefyllfa i wneud newidiadau cadarnhaol, ond ni fydd data yn gwella iechyd ar ei ben ei hun. Mae'r ffordd rydym yn ymateb i'r wybodaeth hon yn allweddol i wneud newidiadau cynaliadwy a gwella lles hirdymor.
Mewn sawl ffordd, mae technoleg wisgadwy yn gweithredu fel sbardun. Er enghraifft, gallai cyfrif camau annog person i fynd am dro yn ystod eu hegwyl ginio, gall olrhain cwsg dynnu sylw at bwysigrwydd trefn amser gwely gyson, a gall monitro gweithgaredd helpu pobl i gydnabod faint maen nhw'n symud drwy gydol y dydd. Mae hyn yn annog myfyrio, yn cefnogi newid ymddygiad ac yn helpu pobl i ymgysylltu'n fwy â'u lles eu hunain.
Ond fel gydag unrhyw dechnoleg, mae heriau yn codi gyda'r cyfleoedd. Gall dyfeisiau gwisgadwy gynhyrchu llawer iawn o wybodaeth, a gall fod yn ddeniadol canolbwyntio gormod ar rifau a thargedau bob dydd. Ond mae iechyd yn llawer mwy cymhleth nag unrhyw fetrig unigol.
Gall oriawr clyfar dangos faint o gamau sydd wedi cael eu cymryd, ond nid yw'n nodi'n llawn sut mae hyn yn newid hyder, cysylltiadau cymdeithasol, mwynhad neu ansawdd bywyd. Yr her i unigolion, darparwyr gofal iechyd a datblygwyr technoleg yw sicrhau bod y data yn cefnogi ymddygiad iachach heb fod y nod ei hunain.
I rai pobl, mae hefyd risg bod monitro parhaol yn creu straen ychwanegol. Gall targedau symud bob dydd, sgôr cwsg a metrigau parodrywdd fod yn ddefnyddiol, ond gallant hefyd arwain at deimladau o euogrwydd, pryder neu rwystredigaeth pan nad yw targedau yn cael eu cyflawni.
Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i dechnoleg iechyd ddod yn fwy integredig i fywyd bob dydd. Pan fydd pobl yn dechrau barnu eu lles yn bennaf trwy ddata, mae perygl y gall rhifau ddod yn bwysicach na phrofiad personol. Er enghraifft, gall dyfais nodi noson wael o gwsg, hyd yn oed pan fydd rhywun yn teimlo eu bod wedi gorffwys ac yn barod ar gyfer y diwrnod. Dros amser, gall gorddibyniaeth ar ddata danseilio hyder yn ein canfyddiadau ein hunain a chyfrannu at straen diangen.
Mewn perthynas iach gyda thechnoleg wisgadwy, mae data yn llywio penderfyniadau, nid yw'n eu diffinio. Gall metrigau ddarparu mewnwelediau gwerthfawr, ond dylsent gael eu gweld fel rhan o lun ehangach sy'n cynnwys iechyd meddwl, cysylltiad cymdeithasol, mwynhad ac ansawdd bywyd yn gyffredinol.
I sefydliadau sy'n gweithio yn y sectorau iechyd, llesiant a thechnoleg, mae hyn yn cyflwyno cyfleoedd cyffrous. Nid yw'r her i gasglu data yn unig nawr, ond i nodi cyfleoedd cyffrous i drosi'r wybodaeth i well ganlyniadau i unigolion a chymunedau.

