Archwilio Dyfodol Perfformiadau Chwaraeon Trwy Efelychu

Mae ein Canolfan Efelychu a Dysgu Trochol (SUSIM) ym Mhrifysgol Abertawe yn helpu i lywio'r genhedlaeth nesaf o ddatblygu athletwyr drwy archwilio sut all technoleg efelychu drawsnewid paratoi, perfformio a llesiant athletwyr.

Wrth wraidd yr ymchwil arloesol hon yw Kieran Hayes, myfyriwr PhD sy'n archwilio sut all SUSIM gael ei addasu o'i rôl sefydledig mewn addysg gofal iechyd i gefnogi perfformiadau chwaraeon.

Yn draddodiadol, mae SUSIM – un o osodiadau technoleg wal trochi mwyaf y byd – wedi cael ei ddefnyddio i ail-greu amgylcheddau gofal iechyd cymhleth, gan alluogi bron i 4,000 o fyfyrwyr meddygol a gweithwyr proffesiynol i ddatblygu sgiliau technegol ac anhechnegol mewn sefyllfaoedd realistig, dan bwysau uchel cyn eu rhoi ar waith mewn ymarfer clinigol. Trwy'r bartneriaeth hon rhwng NISH a Phrifysgol Abertawe, mae'r ymchwilwyr bellach yn archwilio sut y gellir cymhwyso'r un dechnoleg o fewn chwaraeon.

Yn ôl yr Athro Jo Davies, Pennaeth Efelychu ym Mhrifysgol Abertawe, mae'r prosiect yn cynrychioli esblygiad naturiol arbenigedd y Brifysgol mewn dysgu gydag efelychu.

Mae'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd wedi meithrin profiad helaeth mewn addysg trochi, perfformiad tîm a hyfforddiant efelychu. Drwy gydweithio â NISH, mae'r egwyddorion hynny bellach yn cael eu hymestyn i chwaraeon a lles, gan greu cyfleoedd newydd ar gyfer ymchwil, addysg ac arloesedd rhyngddisgyblaethol.

Tra bod y dechnoleg wedi cael ei defnyddio'n flaenorol i ail-greu wardiau ysbysty, adrannau brys a senarios digwyddiadau mawr i baratoi gweithwyr gofal iechyd ar gyfer ymarfer yn y byd go iawn, rydym ni nawr yn cyfieithu'r realaeth seicolegol hon i helpu athletwyr baratoi at ofynion cystadlaethau elît.

Drwy amlygu athletwyr i amgylcheddau realistig cyn iddynt ddod ar eu traws mewn cystadlaethau, nod yr ymchwil yw deall yn well sut y gall efelychu trochol wella paratoad, gwella perfformiad a meithrin hyder mewn sefyllfaoedd heriol.

Y bwriad yw i SUSIM fod yn blatfform cydweithredol lle gall arbenigwyr o'r byd gofal iechyd, gwyddor chwaraeon a thechnoleg gydweithio i ddatblygu agweddau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wella perfformiadau a llesiant.

Mae'r ymchwil hon yn dechrau wrth nodi lle all efelychu trochol ychwanegu gwerth go iawn i ddatblygu athletwyr, gyda cham cyntaf y prosiect yn canolbwyntio ar ddeall y cymwysiadau mwyaf effeithiol ar gyfer yr ystafelloedd efelychu yn y byd chwaraeon. I sicrhau bod yr ymchwil yn mynd i'r afael ag anghenion y byd go iawn, mae Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff y Brifysgol wedi bod yn cydweithio'n agos â'r rhwydwaith eang o bartneriaid o fewn chwaraeon elît a'r diwydiant er mwyn blaenoriaethu'r meysydd lle bydd efelychu trochol yn cael yr effaith fwyaf.

Unwaith i'r cyfleoedd hyn gael eu nodi, mae ymchwil yn cychwyn ar werthuso sut mae amgylcheddau trochi yn dylanwadu ar ymddygiad, gwneud penderfyniadau a pherfformiad athletwyr mewn ffyrdd sy'n anodd eu cyflawni trwy ddulliau hyfforddi confensiynol.

Un o brif gryfderau'r dechnoleg yw ei gallu i ail-greu amgylcheddau chwaraeon a fyddai'n anhygyrch fel arall, megis lleoliadau cystadlaethau mawr, lleoliadau hyfforddi anghyfarwydd a sefyllfaoedd gemau pwysau uchel.

Drwy gyfuno arddangosfeydd rhyngweithiol mawr, tafluniad gweledol 270° a sain trochol, gellir cludo athletwyr i leoliadau cystadleuol realistig wrth barhau i berfformio symudiadau chwaraeon dilys a defnyddio eu hoffer arferol. Yna gall ymchwilwyr drin yr amgylchedd mewn amser go iawn, gan greu gwahanol senarios sy'n herio canfyddiad, gwneud penderfyniadau a pherfformiad o dan amodau newidiol.

Mae'r ystafelloedd efelychu'n cynnig amgylchedd cwbl drochol, gan ymgorffori waliau rhyngweithiol, arddangosfeydd gweledol panoramig, sain ofodol a hyd yn oed effeithiau amgylcheddol fel arogl. Mae ein hymchwil yn edrych ar sut y gellir cyfuno'r nodweddion hyn i greu manteision perfformiad ystyrlon i athletwyr.

Mae'r gwaith cydweithredol hwn yn cynrychioli cam cyffrous o ran cymhwyso technolegau efelychu profedig y tu hwnt i ofal iechyd. Drwy ddod ag arbenigedd mewn efelychu, gwyddor chwaraeon a datblygu athletwyr ynghyd, mae gan y prosiect y potensial i sefydlu dulliau newydd o hyfforddi sydd wedi'u seilio ar ymchwil ac yn canolbwyntio ar effaith yn y byd go iawn.

Wrth i'r ymchwil ddatblygu, bydd y canlyniadau'n llywio sut all technoleg trochol gael ei hintegreiddio i raglenni pefformio, gan gefnogi athletwyr, hyfforddwyr ac ymarferwyr gydag offer arloesi i baratoi unigolion ar gyfer amgylcheddau lle mae perfformiad ar ei fwyaf bwysig.

Os ydych chi'n gweithio mewn chwaraeon ac am rannu syniadau am sut i ddefnyddio'r dechnoleg, cysylltwch i glywed mwy am yr astudiaeth:

Discover more from The National Institute for Sport & Health

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading