Gyda'r haf poeth iawn hyd yn hyn, mae addasu sut rydyn ni'n symud ac aros yn actif yn ystyriaeth iechyd cyhoeddus hynod bwysig. Nid oes angen i ni roi'r gorau i ymarfer corff, ond efallai bod angen i ni fod yn fwy ymwybodol o sut a phryd rydyn ni'n ei wneud.
Mae symud yn rheolaidd yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol i gefnogi iechyd corfforol a meddyliol, ond gall tymereddau uwch newid sut mae ein cyrff yn ymateb i ymarfer corff. Bydd deall y newidiadau hyn yn ein helpu i barhau i fwynhau manteision symud wrth leihau'r risg o salwch sy'n gysylltiedig â gwres. Felly yn hytrach na'i osgoi yn gyfan gwbl, dylem ni ganolbwyntio ar wneud penderfyniadau gwybodus sy'n blaenoriaethu ein hiechyd a llesiant.
Mae ein cyrff yn hynod effeithiol wrth reoleiddio tymheredd, gyda llif y gwaed yn cynyddu a chwys yn ffurfio i helpu i oeri ein hunain. Ond mewn amodau poeth neu llaith, mae'r mecanweithiau oeri naturiol hyn yn llai effeithiol, sy'n golygu bod yn rhaid i'r corff weithio'n galetach, hyd yn oed yn ystod gweithgareddau sydd fel arfer yn teimlo'n gyfforddus.
Wrth i'r tywydd gynhesu, gall pobl ddadhydradu'n gyflymach, teimlo'n flinedig yn gynt a chanfod bod gweithgareddau bob dydd angen mwy o ymdrech nag arfer. I rai, gan gynnwys oedolion hŷn, plant ifanc, menywod beichiog a phobl sy'n byw â chyflyrau iechyd hirdymor, gall y risgiau sy'n gysylltiedig â gwres fod hyd yn oed yn uwch. Mae deall y gwahaniaethau hyn yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i'r argyfwng hinsawdd ddylanwadu ar batrymau tywydd ledled y DU a thu hwnt.
Ni ddylai'r tywydd poeth atal pobl rhag bod yn actif gan fod symud yn rheolaidd yn un o'r ffyrdd gorau i gefnogi iechyd a llesiant hirdymor. Ond mae'n allweddol i adnabod y dylai symud edrych yn wahanol. Yn ystod cyfnodau o wres eithafol, bydd addasu ein harferion yn ein helpu i barhau i symud yn ddiogel, a allai olygu dewis rhannau llai poeth o'r diwrnod, lleihau dwyster y gweithgaredd neu ddefnyddio cysgod neu lefydd dan do lle bo'n bosibl.
Gall gwneud gweithgareddau corfforol yn gynnar yn y bore neu gyda'r noswaith, gwiso dillad ysgafn, yfed digon o ddŵr a chymryd egwyliau rheolaidd i gyd gefnogi cyfranogiad mwy diogel. Mae datblygu ymddygiadau cynaliadwy sy'n addasu at amgylcheddau sy'n newid yn bwysicach na chysondeb perffaith.
Gall salwch sy'n gysylltiedig â gwres ddatblygu'n gyflymach nag y mae llawer o bobl yn ei sylweddoli, ac ni ddylid anwybyddu teimlo'n anarferol o benysgafn, dryslyd, cyfoglyd neu flinedig wrth symud. Gall y symptomau hyn ddangos bod eich corff yn ei chael hi'n anodd rheoleiddio ei dymheredd a dylent eich annog i roi'r gorau i ymarfer corff, symud i rywle oerach a cheisio cefnogaeth briodol. Mae bod yn ymwybodol o'r arwyddion rhybuddio hyn yn arbennig o bwysig wrth ymarfer corff gyda phobl eraill, gan efallai na fydd unigolion bob amser yn adnabod symptomau sy'n datblygu ynddynt eu hunain.
Gall dyfeisiau gwisgadwy a phlatfformau iechyd digidol hefyd roi gwybodaeth amser real am dymheredd y corff, lefelau hydradiad ac ymdrech gorfforol, gan helpu unigolion i addasu eu harferion i'r amodau. Gall hyn gefnogi penderfyniadau iachus ynghyd â theimlad personol. Os yw gweithgaredd yn teimlo'n rhy heriol yn y gwres, mae'n bwysig gwrando ar eich corff, beth bynnag mae'r ddyfais yn ei awgrymu.
Drwy ddeall sut mae gwres yn effeithio ar ein cyrff, gwneud addasiadau synhwyrol a chreu amgylcheddau sy'n cefnogi gweithgareddau corfforol diogel, gallwn ni sicrhau bod symud yn hygyrch drwy gydol y flwyddyn.

