Ymunodd Corryn Bioechnologies â Phrifysgo Abertawe ym mis Awst 2023.
Mae'r cwmni'n datblygu dull newydd o drin clwyfau cronig a chymhleth gan ddefnyddio llwyfan deunyddiau Atgyweirio Meinwe Uwch (ATR) perchnogol. Mae'r tîm - a sefydlwyd gan gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe Dr Luke Burke a'r datblygwr cynnyrch profiadol, Dr Fabio Zomer Volpato - wedi datblygu cymhwysydd llaw sy'n gallu gwneud gorchuddion clwyfau nano a micro-ffibraidd mewn un cam yn uniongyrchol i gleifion. Wedi'i ddatblygu gyda thechnoleg arloesol, gall y cymhwysydd ddarparu amrywiaeth o ddeunyddiau gwisgo ar gyfer clwyfau mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Mae'r amrywiaeth o ddeunyddiau gwisg uwch yn ffurfio platfform ATR Corryn, sy'n cynnwys polymerau cludo gydag amseroedd atsugniad wedi'u teilwra rhwng 14 diwrnod a 12 mis, yn ogystal ag atsugniad yn syth. Mae pob deunydd ar y platfform hefyd wedi'i gyfuno'n llwyddiannus ag ychwanegion buddiol fel proteinau gwrthficrobaidd, cau clwyfau sy'n hyrwyddo colagenau, a chyfansoddion sy'n dynodi haint.
Mae'r dechnoleg arloesol yn cael gwared ar yr angen am unrhyw arbenigedd technegol wrth wneud ac adneuo'r deunydd. Gan ddefnyddio mecanwaith sbarduno sy'n cael ei ddal yn agos at wyneb y croen, mae'r dresin yn cael ei drosglwyddo i'r clwyf – sy'n egluro enw'r cwmni, Corryn - ac mae'n cymryd llai na deng munud i'w wneud.
Ar hyn o bryd, gyda chymorth ariannol gan fuddsoddiad ecwiti ac Innovate UK, mae Corryn yn datblygu’r ddyfais taenu, sydd ar Lefel Parodrwydd Technoleg (TRL) 6, ynghyd â’r llwyfan ATR. Mae wedi ehangu ei dîm ymchwil a datblygu, gan obeithio cyrraedd y treial clinigol Diogelwch a Defnyddioldeb Dynol Cyntaf i dreialu’r llwyfan trin clwyfau mewn lleoliad clinigol.
Gyda thîm yn tyfu a’r busnes yn datblygu’n gyflym, sefydlodd Corryn swyddfa yn adeilad ILS Prifysgol Abertawe, gan ddod â staff yn nes at academyddion ac ymchwilwyr y Brifysgol.
"Roeddem yn chwilio am swyddfa a labordy yn gyflym i gefnogi cynnydd cyflym ein tîm. Ar ôl gweithio gyda Phrifysgol Abertawe trwy arian grant EPSRC a phrosiect CALIN, roedd ILS yn ofod delfrydol i ni. Roedd y broses yn hawdd, yn syml ac yn gost-effeithiol, ac symudon ni i mewn o fewn mis i'n trafodaeth gyntaf. Mae bod ar y campws yn rhoi mynediad cyflym a hawdd i ofod labordy a gwybodaeth arbenigol, ac mae agosrwydd Ysbyty Singleton yn darparu'r amgylchedd gorau posibl ar gyfer sefydliad datblygu dyfeisiau meddygol fel Corryn." Luke D. Burke, Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr, Corryn Biotechnologies Ltd

