Sefydlwyd Haemair yn 2005 gan beirianwyr oedd wedi colli perthnasau agos i glefyd yr ysgyfaint, ac mae’r cwmni wedi bod yn aelod ers y dechrau.
Aeth y cwmni ati gyda'r weledigaeth o greu dyfais a fyddai'n ocsigeneiddio gwaed yn uniongyrchol i ychwanegu at gapasiti gweddilliol yr ysgyfaint mewn unigolion sy'n dioddef o glefyd yr ysgyfaint. Y nod yw darparu dewisiadau amgen gwell yn lle trawsblaniadau ysgyfaint er mwyn cyflawni canlyniadau gwell a chynyddu argaeledd organau trawsblannu.
Ar ôl denu dros £3miliwn o fuddsoddiad, prif gymhelliant y tîm yw helpu dioddefwyr clefyd yr ysgyfaint a’u teuluoedd ac mae ei dechnoleg wedi cael patent ledled y byd.
Mae’r dechnoleg arloesol wedi’i chydnabod gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac mae Haemair wedi derbyn grantiau o dros £2 filiwn.
Yn dilyn eu llwyddiant cychwynnol, tyfodd Haemair y busnes gan recriwtio tîm dawnus o wyddonwyr a pheirianwyr ifanc sy'n rhannu eu gweledigaeth. Symudodd y tîm i Brifysgol Aberawe yn 2012 i elwa ar ymchwil blaenllaw'r Brifysgol mewn rheoleg gwaed. Mae deall y ffactorau sy'n pennu'r tebygolrwydd o geulo gwaed yn hanfodol bwysig wrth ddylunio dyfeisiau sy'n ymwneud â gwaed, felly mae Haemair yn elwa o gael mynediad at y sgiliau unigryw a adeiladwyd yn Abertawe trwy'r cydweithrediad rhwng Ysgol Beirianneg ac Ysgol Feddygaeth y Brifysgol.
Mae'r gwasanaethau a'r arbenigedd ar y campws wedi galluogi'r tîm i ganolbwyntio ar ddylunio a datblygu dyfeisiau meddygol - gan gynnwys ocsigenydd, sef dyfais glanhau gwaed a phwmp gwaed curiad y galon - ac i ddangos y dyfeisiau i ddarpar gwsmeriaid a buddsoddwyr.
Mae Haemair bellach yn gweithio gydag arbenigwyr Prifysgol Abertawe ar nifer o brosiectau, gan gynnwys astudiaeth Partneriaeth SMART Llywodraeth Cymru i wella dyluniadau cynnyrch, ac mae ganddo nifer o batentau yn gysylltiedig â'i gynhyrchion.
“Mae gweithredu o'r campws wedi dod â manteision mawr i ni. Rydyn ni’n cydweithio â staff y Brifysgol yn yr adrannau microsgopeg a delweddu ac yn manteisio o gyngor gan arbenigwyr ar y campws. Mae cyfleusterau’r labordy yn ein galluogi i arbrofi gyda gwaed a meinweoedd dynol, ac mae'r nwyddau traul priodol sydd ar gael yn y storfeydd yn rhoi mynediad ar unwaith i ni i ddeunydd. Rydyn ni’n defnyddio gwasanaethau tafladwy bioberyglon ac rydyn ni’n elwa'n fawr o fod yn yr un cyfleuster â chwmnïau o'r un anian ac arbenigwyr biocemeg.” - Vicki James, Cyfarwyddwr Technegol — Vicki James, Cyfarwyddwr Technegol

