Cyfleoedd Ysgoloriaeth Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe

National Network for Innovation in Sport & Health base at Swansea University

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd tair ysgoloriaeth ymchwil PhD a ariennir yn llawn ar gael ar gyfer 2024/25. Bydd y prosiectau hyn yn cyd-fynd â phrosiect Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe (SBCD), sy'n rhan o NNIISH.

Mae'r Brifysgol wedi sicrhau rhagor o gyllid gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe drwy'r Gronfa Seilwaith Digidol er mwyn creu gwely profi 5G sy'n cwmpasu Campws Parc Singleton, Campws y Bae, ac ysbytai Singleton a Threforys. Bydd y cyfle'n creu amgylchedd ymchwil a datblygu unigryw drwy Barc Gwyddoniaeth ac Arloesi sy'n defnyddio technoleg a ‘labordy byw’ sy'n dod ag amrywiaeth o gyfleusterau, defnyddwyr a lefelau gweithgarwch ynghyd, lle gellir rhoi mentrau iechyd a lles ar waith, a'u treialu a'u hasesu mewn ffyrdd (ac ar raddfa) nas cyflawnwyd o'r blaen. Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Vodafone a Chyngor Abertawe yw'r prif bartneriaid.

Bydd y seilwaith 5G (10 safle macro at ei gilydd) yn hwyluso amrywiaeth eang o achosion defnyddio ymchwil ac arloesi sy'n cyd-fynd yn uniongyrchol â phwyslais NNIISH ar iechyd, lles a chwaraeon. Er enghraifft, bydd y seilwaith yn helpu i fonitro iechyd corfforol, lles meddyliol a rhyngweithiadau cymdeithasol (e.e. drwy dechnoleg wisgadwy, apiau dyfeisiau symudol a synwyryddion o bell) a bydd yn hwyluso asesiadau gwrthrychol o ymyriadau iechyd a lles ar raddfa fawr.

Mae'r Brifysgol nawr yn lansio tri phrosiect PhD a fydd yn defnyddio buddion 5G i helpu i ateb cwestiynau allweddol am iechyd a lles sy'n cyd-fynd ag amcanion NNIISH. 

Bydd hyn yn cynnwys defnyddio technoleg feddygol neu dechnoleg chwaraeon i ddarparu buddion i iechyd a lles y gellir eu hehangu ar gyfer grwpiau penodol yn y boblogaeth leol, yn ogystal ag annog ymagweddau gwyddor data a systemau clyfar sy'n ysgogi ymchwil, arloesi a gwelliannau ar draws iechyd, chwaraeon a'r byd academaidd. Bydd y gwaith yn rhoi pwyslais ar grwpiau sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol a defnyddio rhwydwaith 5G i gefnogi ymchwil ochr yn ochr ag arbenigeddau clinigol, gwasanaethau iechyd a ddarperir, a sefydliadau sy'n ymwneud â chwaraeon..

Mae ceisiadau ar gyfer y prosiectau hyn nawr ar gau.

Discover more from The National Institute for Sport & Health

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading