Ydych chi'n gwmni sydd â diddordeb mewn ymgysylltu â myfyrwyr/graddedigion Prifysgol neu eu cyflogi? Ydych chi'n chwilio am ffynhonnell newydd o syniadau ac arloesedd i gefnogi datblygu busnes?
Mae gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe fyfyrwyr sy'n astudio amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys y Gwyddorau Biofeddygol, Meddygaeth, Fferylliaeth ac Astudiaethau Cydymaith Meddygol. Mae llawer o'r myfyrwyr yn awyddus i ddysgu rhagor am weithio yn y diwydiant ac ennill profiad gwaith sy'n berthnasol i'w disgyblaeth.
Rydym yn chwilio am fynegiannau o ddiddordeb gan gwmnïau sy'n awyddus i gefnogi myfyrwyr mewn unrhyw rai o'r meysydd canlynol:
- Lleoliadau gwaith myfyrwyr (e.e., Blwyddyn y lleoliad gwaith, interniaethau, prosiectau ymchwil blwyddyn olaf, profiad gwaith/cysgodi pobl wrth eu gwaith)
- Addysg (e.e. rhoi sgyrsiau ar weithio yn y diwydiant)
- Darparu astudiaethau achos o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe
- Cyfrannu at/mynd i ffeiriau gyrfaoedd Prifysgol
- Cyfrannu problemau o'r ‘byd go iawn’ i fyfyrwyr eu datrys
Ein nod yw gwneud yn siŵr bod unrhyw weithgarwch o fudd i'r cwmni ac i'r myfyrwyr. Rydym hefyd ar agor i awgrymiadau gan gwmnïau ynghylch meysydd yn ogystal â'r uchod.
Diddordeb? Gadewch i ni wybod erbyn 15 Medi 2024.

