Mae ein partneriaid yn ARCH (Cydweithrediad Rhanbarthol Dros Iechyd) wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol, gan amlygu'r gwaith maent yn ei wneud i wella iechyd unigolion sy'n byw yn Ne-Orllewin Cymru.
Mae'r Adolygiad yn dathlu cyflawniadau gweithio mewn partneriaeth ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Phrifysgol Abertawe.
Ymhlith yr uchafbwyntiau yw'r gwaith y mae ei rhanddeiliaid a phartneriaid wedi’u cyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf ar draws ei feysydd blaenoriaeth rhanbarthol: Trawsnewid Gwasanaethau'r GIG; Gweithlu, Addysg a Sgiliau; Ymchwil, Mentergarwch ac Arloesedd
Cydweithrediad trawsnewidiol hirdymor yw ARCH, sy'n anelu at wella iechyd, cyfoeth a llesiant pobl rhanbarth De-Orllewin Cymru. Mae ganddynt bortffolio uchelgeisiol o waith rhanbarthol, wedi ei ddarparu drwy rhaglenni gwaith, fel yr amlinellir yng Nghynllun datblygu Portffolio ARCH, ac wedi ei ategu yn nogfen 'Cymru Iachach' Llywodraeth Cymru.
Mar ARCH yn defnyddio dull rhanbarthol cydgysylltiedig i sicrhau newid ystyrlon i fynd i'r afael â phwysau gwasanaeth, i gyflwni breuder y gweithlu ac i yrru economi wyddor bywyd fywiog.

