Trawsnewid Addysg Gofal Iechyd: Rhaglen Efelychu Prifysgol Abertawe

Mae Rhaglen Efelychu Prifysgol Abertawe yn chwyldroi addysg drwy ddarparu cyfoeth o gyfleoedd i fyfyrwyr, partneriaid iechyd gofal, cymunedau lleol a busnesau rhyngwladol. Fel esiampl o ymchwil ac arloesi, mae'r rhaglen yn parhau i ehangu ei hôl troed byd-eang trwy bortffolio trawiadol o gydweithrediadau ar draws pob sector.

Er mwyn sicrhau dysgu a throchi teg, mae Prifysgol Abertawe wedi ailgreu ei hystafelloedd efelychu SUSIM poblogaidd ar Gampws Caerfyrddin y brifysgol, gan fabwysiadu rhaglen aml-safle. Mae’r model hwn yn integreiddio systemau efelychu blaengar a llywodraethu ar y cyd, gan wella ansawdd a hygyrchedd dysgu, ymchwil ac arloesi ar draws sectorau.

Mae rhaglen SUSIM yn blaenoriaethu diogelwch a pharodrwydd dysgwyr. Rhagflaenir pob gweithgaredd efelychu gan friff gynhwysfawr i sicrhau diogelwch corfforol, seicolegol ac amgylcheddol. Mae dysgwyr hefyd yn elwa ar arbenigedd tîm efelychu craidd y brifysgol, staff academaidd, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o fyrddau iechyd lleol, gan feithrin amgylchedd addysgol cefnogol a chydweithredol.

Trwy wreiddio efelychu mewn addysg gofal iechyd, mae SUSIM yn arfogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol â sylfaen gadarn mewn egwyddorion perfformiad uchel, diogelwch, a chydweithio rhyngbroffesiynol. Mae'r ganolfan yn canbolbwyntio ar wella cyfathrebu, cryfhau gwaith tîm, a hyrwyddo profiadau dysgu ar y cyd ar draws disgyblaethau gofal iechyd amrywiol.

Mae trafodaethau ar ôl y broses efelychu hefyd yn rhan annatod o raglen SUSIM. Mae'r sesiynau tywys hyn yn cynnig man diogel i gyfranogwyr fyfyrio ar eu gweithredoedd, cymryd rhan mewn trafodaethau tryloyw, a nodi meysydd i'w gwella. Mae'r cam hanfodol hwn yn sicrhau bod gwersi a ddysgwyd yn ystod efelychu yn cael eu trosglwyddo'n effeithiol i ymarfer proffesiynol, gan feithrin diwylliant o broffesiynoldeb, empathi, a chyfathrebu agored.

Mae Rhaglen Efelychu SUSIM Prifysgol Abertawe yn siapio dyfodol addysg gofal iechyd, gan rymuso'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol gyda'r sgiliau, y wybodaeth, a'r gwerthoedd sydd eu hangen i ragori mewn maes sy'n esblygu'n barhaus.

Am ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan yn y rhaglen:

Discover more from The National Institute for Sport & Health

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading