Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cynrychioli buddsoddiad arloesol o tua £1.26 biliwn erbyn 2033, wedi’i ysgogi gan bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus, a’r sector preifat ar draws Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro. Mae'r fenter drawsnewidiol hon yn creu rhanbarth lle mae busnesau'n ffynnu, trigolion yn cael mynediad at addysg a sgiliau o ansawdd uchel, a thros 9,000 o gyfleoedd swyddi sy'n talu'n dda yn cael eu gwireddu.
Fel prosiect allweddol yn y rhaglen hon, mae ein Rhwydwaith yn chwarae rhan hanfodol wrth ail-lunio De-orllewin Cymru i fod yn ganolbwynt arloesi a chydweithio mewn technolegau meddygol, iechyd, chwaraeon a llesiant.
Edrych Ymlaen at 2025
Yn 2025, byddwn yn parhau i hyrwyddo ein cenhadaeth o feithrin arloesedd a thwf economaidd. Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol:
- Canolfan Arloesedd Lon Sgeti: Bydd y gwaith o baratoi’r safle yn dechrau, gan osod y sylfaen ar gyfer cyfleuster blaengar a fydd yn cefnogi datblygu a phrofi technoleg iechyd a chwaraeon
- Canolfan Rheoli Ysbyty Morriston: Bydd y broses ddylunio a thendro ar gyfer y cyfleuster modern hwn yn mynd rhagddi, gan wella ymhellach allu’r rhanbarth i arloesi mewn gofal iechyd
- Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd Chwaraeon ac Iechyd: Byddwn yn ehangu ein rhwydwaith deinamig, gan greu cymuned fywiog o bobl broffesiynol sy'n ymroddedig at wella technoleg iechyd
Prosiectau Trawsnewid ar draws y Rhanbarth
Rydym yn falch o fod yn rhan o Fargen Ddinesig ehangach Bae Abertawe, a gyflawnodd gynnydd rhyfeddol yn 2024 ac sy’n rhagweld cerrig milltir pellach yn 2025. Mae rhai o’r uchafbwyntiau allweddol yn cynnwys:
- Canol Ddinas Abertawe: Bydd agor 71/72 Ffordd y Brenin yn creu lle ar gyfer 600 o swyddi technoleg a digidol, tra bydd Matrics Arloesedd PCYDDS yn cysylltu’r byd academaidd a diwydiant i feithrin busnesau newydd a chydweithio.
- Pentre Awel: Bydd y cyfleuster hwn o safon fyd-eang yn agor yn 2025, gan gyfuno ymchwil feddygol, deori busnes, addysg a hamdden i hybu ffyrdd iachach o fyw.
- Arena Abertawe: Gan ddathlu ei thrydedd flwyddyn, bydd yr arena yn croesawu ei 750,000fed gwestai gyda pherfformiadau gan artistiaid enwog a digwyddiadau amrywiol.
Cynnydd Rhanbarthol yn Gyrru Effaith Economaidd
Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe hefyd yn darparu buddion trawsnewidiol ar draws ei wyth prif brosiect arall, gan gynnwys:
- Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel: Nod cynlluniau ar gyfer cyfleuster SWITCH yw datgarboneiddio’r diwydiant dur a metelau, tra bod Canolfan Dechnoleg y Bae yn croesawu tenantiaid newydd.
- Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer: Launching a £7 million Supply Chain Fund to integrate renewable technologies into homes, creating a sustainable future.
- Seilwaith Digidol: Gwella cysylltedd ar gyfer cartrefi a busnesau ledled ardaloedd gwledig a threfol, gan ysgogi mewnfuddsoddiad.
- Rhaglen Sgiliau a Thalent: Cefnogi dros 25 o brosiectau peilot, gan gynnwys cyflwyno cwricwlwm Destination Renewables ledled y DU, i sicrhau bod gan y gweithlu sgiliau ar gyfer y dyfodol.
Gweledigaeth Cydweithredol ar gyfer y Dyfodol
Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn trawsnewid De-orllewin Cymru ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer ffyniant hirdymor. Fel piler canolog y fenter hon, rydym yn falch o gyfrannu at y weledigaeth gyffredin hon, gan feithrin arloesedd a chydweithio a fydd yn gadael etifeddiaeth barhaus am genedlaethau i ddod.
Mynegodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, ei optimistiaeth: “Mae cynnydd y Fargen Ddinesig yn ystod 2024 wedi bod yn wych wrth i ni barhau i adeiladu, tyfu a buddsoddi yn ne-orllewin Cymru. Mae'n fraint cael bod yn rhan o'r daith wych hon sy'n trawsnewid de-orllewin Cymru er gwell ac rwy'n edrych ymlaen at bethau cyffrous i ddod."

