2-4pm | Dydd Iau 27 Chwefror | Ystafell Mall Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe
Mewn partneriaeth â Vodafone, rydym yn gyffrous i gynnal digwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd sy'n ymchwilio i esblygiad 5G, ei rôl wrth hyrwyddo technoleg, a'r buddion diriaethol a ddaw yn ei sgil i'n rhanbarth.
Bydd arbenigwyr o ddiwydiant a'r byd academaidd yn mynd i'r afael â heriau iechyd ac amgylcheddol, gan ddangos sut mae 5G yn cael effaith gadarnhaol ar ein rhanbarth.
Bydd y siaradwyr hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithredu parhaus rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat i drosoli technoleg yn llawn - gan wella canlyniadau iechyd, lles a gofal cymdeithasol cymunedol wrth ysgogi twf ar draws y meysydd hollbwysig hyn.
Mae'r digwyddiad yn dilyn y cyhoeddiad bod Prifysgol Abertawe yn gweithio gyda Vodafone i ddarparu labordi ymchwil 5G ar ddau gampws y Brifysgol, Ysbytai Singleton a Threforys, a rhannau o'r ddinas. Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi gan raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinessig Bae Abertawe.
“Mae’r Rhaglen Seilwaith Digidol yn falch o gefnogi dyheadau prosiect Campuses ac yn falch iawn o fod wedi dyfarnu grant o £1.5m i’r prosiect o’i Chronfa Arloesedd 5G. Bydd y cyllid yn cyflymu’r amgylchedd ymchwil ac arloesi ar gyfer iechyd a gwyddorau bywyd, er mwyn datblygu atebion uwch i’r heriau presennol y mae’r sector yn eu hwynebu.” – Rebecca Llewhellin, Rheolwr Prosiect, Rhaglen Seilwaith Digidol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y seilwaith, dewch draw a gofynnwch i'r arbenigwyr!

