Arloesi mewn Chwaraeon a Lles: Camau Mawr yn rhanbarth Bae Abertawe

Cynhalion ni drafodaeth banel yng Nghynhadledd 4theRegion yn Arena Abertawe.

Mae'r gynhadledd yn un bwysig ac effeithiol iawn yn Abertawe, gan roi busnesau a sefydliadau lleol y cyfle i gysylltu a dysgu am adnewyddu yn y ddinas.

Fel rhan o'r digwyddiad, cynhalion ni drafodaeth banel am bwysigrwydd buddsoddi a gwerthfawrogi arloesi mewn chwaraeon a lles ledled y rhanbarth a thu hwnt.
Ein panel o arbenigwyr:

  • Kate Williams, Pennaeth Partneriaethau Strategol a Datblygu Partneriaeth Chwaraeon Gorllewin Cymru
  • Yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe yn y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesi Chwaraeon ac Iechyd
  • Yr Athro Cyswllt Joanne Davies, Pennaeth Efelychu ym Mhrifysgol Abertawe
  • Siôn Charles, Pennaeth Strategaeth a Chynllunio Gwasanaethau ARCH

Trafodon ni sut all meithrin arloesedd mewn technoleg chwaraeon a thechnoleg feddygol yn ysgogi twf economaidd, yn gwella iechyd y cyhoedd, ac yn meithrin cydnerthedd cymunedol.

Archwiliodd yr Athro Keith Lloyd y cysylltiadau cymhleth rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl: “does dim iechyd heb iechyd meddwl,” tra tynnodd Kate Williams sylw at bwysigrwydd cael pobl i symud mwy, heb y pwysau a all fod yn gysylltiedig â’r gair chwaraeon.

Discover more from The National Institute for Sport & Health

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading