Prifysgol Abertawe a Vodafone yn cryfhau eu partneriaeth drwy gytundeb cydweithredu newydd

Mae aelodau o'n Sefydliad, Prifysgol Abertawe a Vodafone, wedi datblygu eu cydweithrediad ymhellach drwy lofnodi cytundeb cydweithredu newydd a thrwy brydlesu swyddfeydd yn Sefydliad Gwyddor Bywyd arloesol y Brifysgol.

Mae'r carreg filltir ddiweddaraf hon yn adeiladu ar eu partneriaeth wreiddiol a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023, sydd eisoes yn creu buddion sylweddol ar gyfer Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.

Bydd Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yn elwa o fuddsoddiad sylweddol gwerth £29 miliwn, a gyflymir gan berthynas sy'n tyfu rhwng Vodafone a Phrifysgol Abertawe. Mae cyswllt uniongyrchol rhwng y cydweithrediad hwn a'r gwaith arloesol sy'n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Abertawe, gan sefydlu'r ardal fel hyb ar gyfer trawsnewid digidol a datblygu rhanbarthol. Disgwylir y bydd y bartneriaeth yn cynnig cyfleoedd cyffrous i fusnesau lleol, darparwyr gofal iechyd a'r gymuned ehangach.

Fel rhan o'r weledigaeth hirdymor, mae'n bosibl y bydd Vodafone yn defnyddio llawr uchaf adeilad modern Prifysgol Abertawe yn Lôn Sgeti pan gaiff ei agor yn 2026. Rhennir uchelgais i feithrin cydweithio ar draws y byd academaidd, byd diwydiant ac ar y cyd â rhanddeiliaid lleol, gan sbarduno datblygiadau mewn iechyd, technoleg a mentergarwch.

Mae'r cytundeb parhaus yn cynnwys gwaith Vodafone ar y cyd â Phrifysgol Abertawe i fynd i'r afael ag eithrio digidol drwy ddarparu 3,000 o gardiau SIM y bydd y Brifysgol yn eu rhoi i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig yn yr ardal leol. Mae'r cwmni hefyd yn bwriadu cydweithio ag academyddion a byrddau iechyd lleol ar ymchwil feddygol arloesol, gan sefydlu'r rhanbarth fel arweinydd yn y maes.

Vodafone is also committed to deepening relationships with local health boards and small businesses through NISH. By collaborating with us, the company aims to unlock new opportunities for innovation and growth, supporting the digital health and business ecosystems in the region.

Yr Athro Keith Lloyd, Cyfarwyddwr y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon ac Iechyd: 

"Mae ein partneriaeth gyda Vodafone yn enghraifft o sut gall y byd academaidd a byd diwydiant gydweithio i gael effaith drawsnewidiol. Yn ogystal â chyflymu buddsoddiad yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe, mae'r cydweithrediad hwn hefyd yn creu ecosystem fywiog sy'n denu busnesau ac yn cefnogi datblygu rhanbarthol. Rydym yn falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â Vodafone i sbarduno arloesedd sydd o fudd i'r gymuned a thu hwnt." 

Ychwanegodd Claire Harris, Pennaeth Busnesau Bach, Canolig a Mentergarwch yn Vodafone:

 "Rydym yn edrych ymlaen at ehangu ein cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe. Gyda'n gilydd rydym yn buddsoddi mewn ymchwil ac arloesi sy'n torri tir newydd yn ogystal â dyfodol y rhanbarth. Drwy feithrin cysylltiadau cryf â byrddau iechyd lleol, busnesau a'r gymuned ehangach, ein nod yw creu effaith gadarnhaol barhaol ar dirwedd economaidd a thechnoleg y rhanbarth."

Bydd y swyddfeydd newydd yn denu busnesau newydd i'r ardal, gan atgyfnerthu ymhellach enw da Abertawe fel dinas ddynamig a blaengar. Wrth i'r cydweithrediad ddatblygu, disgwylir y bydd yn darparu buddion economaidd a chymdeithasol sylweddol, gan wella apêl y rhanbarth fel cyrchfan ar gyfer arloesi a buddsoddi.

Discover more from The National Institute for Sport & Health

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading