Astudiaeth Achos: Signalau Coluddion-Ymennydd yn Hybu Iechyd Gwybyddol mewn Dementia Parkinson

Mae ymchwil arloesol ym Mhrifysgol Abertawe yn archwilio'r cysylltiad hanfodol rhwng hormonau coluddion a swyddogaeth yr ymennydd - ymchwil a allai arwain y ffordd ar gyfer triniaethau newydd ar gyfer dirywiad gwybyddol mewn clefydau niwroddirywiol.

Mae Dr Jeff Davies , Athro Cyswllt yn Niwrobioleg Foleciwlaidd, yn arwain y ffordd i wella dealltwriaeth o sur mae hormonau sy'n rheoleiddio archwaeth yn effeithio ar gof, dysgu ac ymatebion imiwnedd yn yr ymenydd. Gyda chymorth gan Gronfa Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Feddygol, mae ei dîm nawr yn datbolygu therapïau sy'n bwriadu gwella gwybyddiaeth ac arafu cynnydd Dementia Parkinson.

Mae’r ymchwil yn berthnasol i salwch Parkinson gan fod cyfran fawr o bobl sydd â’r clefyd hefyd yn dioddef o dementia, sy’n gysylltiedig â cholli nerfgelloedd newydd yn yr ymennydd. Mae'r golled hon yn arwain at ostyngiad mewn cysylltedd celloedd nerfol, sy'n chwarae rhan hanfodol wrth reoleiddio swyddogaeth cof. Gall dirywiad gwybyddol yn y cleifion hyn fod yn arbennig o heriol i'w drin, ac mae therapïau cyfredol yn cynnig rhyddhad cyfyngedig yn unig. Mae ymchwil Dr Davies yn mynd i’r afael â chyfrannwr a anwybyddir yn aml at y dirywiad hwn: echel yr ymennydd-coluddion.

Mae un hormon yn benodool, ghrelin, wedi dal sylw'r tîm. Fe'i gelwir yn aml yn "hormon newyn," mae ghrelin yn cael ei gynhyrchu yn y stumog ac mae'n chwarae rhan sefydledig wrth ysgogi archwaeth. Ond mae astudiaethau diweddar wedi dangos ei fod yn gwneud llawer mwy, megis rheoleiddio genedigaeth celloedd ymennydd newydd (niwrogenesis), modiwleiddio llid, a chefnogi prosesau dysgu a chof.

Mae Dr Davies a’i dîm yn archwilio sut yr amharir ar weithrediad ghrelin mewn pobl â Dementia Parkinson. Maent wedi canfod bod lefelau ghrelin yn aml yn cael eu hamharu yn y cleifion hyn, a allai gyfrannu nid yn unig at newidiadau archwaeth a phwysau ond hefyd at waethygu swyddogaeth wybyddol a niwro-llid.

Mae'r gwaith hwn yn gam addawol tuag at fynd i'r afael â bioleg gymhleth clefyd niwroddirywiol. Drwy ganolbwyntio ar yr echelin coluddion-ymennydd, mae Dr Davies a'i dîm yn agor drws therapiwtig newydd a allai ategu triniaethau presennol a chynnig gobaith i'r rhai sy'n byw gyda dirywiad gwybyddol.

Dr Jeff Davies o Brifysgol Abertawe

Discover more from The National Institute for Sport & Health

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading