Trawsnewid Dyfodol Rygbi Menywod

Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym ni wedi croesawu cam sylweddol ymlaen yn natblygiad rygbi menywod a merched yng Nghymru, gan sefydlu Canolfan Datblygu Chwaraewyr (PDC) Menywod a Merched newydd. Mae'r fenter hon, a arweinwyd gan Undeb Rygbi Cymru (URC) a'i bartneriaid academaidd a rhanbarthol, yn cynrychioli buddsoddiad nodedig yn nyfodol talent rygbi benywaidd elitaidd yng Nghymru.

Mae hon yn un o dair Chanolfan Datblygu Chwaraewyr URC, a grewyd i gefnogi datblygiad chwaraewyr benywaidd potensial-uchel yng Nghymru a'u helpu i gyflawni eu huchelgais a thaith i fod yn chwaraewyr rygbi elitaidd. Mae'r canolfannau wedi'u lleoli'n strategol yng Ngorllewin Cymru (Prifysgol Abertawe), Dwyrain Cymru (Prifysgol Fetropolitan Caerdydd), a Gogledd Cymru (Rygbi Gogledd Cymru ym Mharc Eirias). Byddant yn rhoi mynediad i chwaraewyr â photensial uchel at amgylchedd hyfforddi proffesiynol a pherfformiad uchel, ac maent wedi'u cynllunio i rymuso a chodi chwaraewyr rygbi benywaidd sydd â dyheadau i gystadlu ar y lefel ryngwladol elitaidd.

Nod y rhaglen hon yw darparu hyfforddiant a choetsio lleol o ansawdd uchel i chwaraewyr benywaidd cyn-elitaidd rhwng 16 a 25 oed sydd â photensial uchel. Gyda fframweithiau cymorth wedi'u teilwra ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth, bydd y canolfannau yn gweithredu fel cerrig camu hanfodol i athletwyr sy'n anelu at gyrraedd yr Her Geltaidd, Uwch Gynghrair Allianz, ac yn y pen draw, timau cenedlaethol Cymru. Mae'r rhaglen wedi'i gwreiddio mewn athroniaeth sy'n rhoi'r chwaraewr yn gyntaf, gan sicrhau datblygiad cyfannol sy'n integreiddio cefnogaeth academaidd, galwedigaethol a phersonol ochr yn ochr â hyfforddiant chwaraeon elitaidd.

Fel rhan o'r cydweithrediad arloesol hwn, bydd pob canolfan datblygu chwaraewyr yn nodi a datblygu 25–35 o athletwyr benywaidd mwyaf addawol Cymru bob blwyddyn, gan gydweithio gyda'i hymrwymiadau clwb, ysgol, coleg neu brifysgol. Mae'r canolfannau wedi'u gosod i ddarparu hyfforddiant penodol i rygbi a fframwaith amlddisgyblaethol cadarn wedi'i gynllunio i gefnogi sbectrwm llawn datblygiad ac iechyd chwaraewyr.

Bydd y Ganolfan Datblygu Chwaraewyr yn:

  • Cydnabod a meithrin chwaraewyr benywaidd â photensial uchel, gan eu darparu gyda llwybr perfformio sy'n cefnogi eu datblygiadau fel athletwyr ac unigolion.
  • Paratoi chwaraewyr at ofynion rygbi elitaidd, ar legel clwb (e.e. yr Her Geltaidd a'r Uwch Gynghrair Allianz) ac ar lwyfan y byd gan gynrychioli Cymru.
  • Creu llwybr clir a chefnogol at anrhydeddau rhyngwladol, gan sicrhau bod chwaraewyr yn barod i gyfrannu at dîm Cymru sy'n ennill yn nhwrnameintiaid byd-eang mawr.
  • Integreiddio dyheadau addysgol o fewn taith datblygu'r athletwr, gan gefnogi gyrfaoedd deuol trwy ymgysylltu strwythuredig â dysgu academaidd a galwedigaethol.

Tynnodd yr Athro Keith Lloyd, Cyfarwyddwr y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd Chwaraeon ac Iechyd, sylw at arwyddocâd y fenter ar gyfer chwaraeon ac addysg yng Nghymru:

“Rydym yn gyffrous i fod yn partneru ag URC a’r Gweilch i sefydlu Canolfan Datblygu Perfformiad ar gyfer Rygbi Menywod yn Ne-orllewin Cymru. Mae hyn yn ategu ein gwaith ehangach o drawsnewid chwaraeon; rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd perfformiad uchel a chynhwysol a fydd yn meithrin y genhedlaeth nesaf o dalent rygbi elitaidd.”

Mae creu'r canolfannau hyn yn enghraifft o strategaeth chwaraewr-yn-gyntaf Undeb Rygbi Cymru ac yn tanlinellu'r ymrwymiad i ddatblygu gêm y menywod ledled Cymru. Bydd y rhaglen yn darparu systemau hyfforddi a chefnogi cyson o ansawdd uchel sy'n adlewyrchu safonau proffesiynol y tîm cenedlaethol.

Mynegodd Siwan Lillicrap, Rheolwr Llwybrau Undeb Rygbi Cymru a chyn gapten Cymru, bwysigrwydd y datblygiad hwn:

“Mae hwn yn arloesol i rygbi menywod yng Nghymru. Mae'n llwybr clir o botensial i berfformio, gan roi cyfle gwirioneddol i ferched ifanc ledled y wlad freuddwydio'n fawr a chyflawni ar y lefel uchaf.”

Rydym yn cydnabod y fenter hon fel enghraifft o sut y gall dulliau cydweithredol, rhyngddisgyblaethol ysgogi newid ystyrlon mewn chwaraeon. Drwy ymgorffori datblygiad athletwyr o fewn ecosystemau academaidd a rhanbarthol, bydd y canolfannau hyn yn cynhyrchu chwaraewyr elitaidd ac yn gwasanaethu fel labordai byw ar gyfer arloesedd mewn iechyd, lles a pherfformiad athletwyr.

Wrth i'r gêm menywod barhau i fod yn fwyfwy boblogaidd a llwyddiannus, mae'r canolfannau hyn yn dangos ymrwymiad beiddgar i degwch, cyfle a rhagoriaeth mewn chwaraeon yng Nghymru.

Discover more from The National Institute for Sport & Health

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading