Mae dau raddedig rhagorol o Brifysgol Abertawe nawr yn arwain timoedd perfformio o fewn clybiau pêl-droed Lloegr o'r radd flaenaf: Chelsea FC a West Ham United FC.
Astudiodd Tom Taylor a Jordan Smith ar gyfer gradd BSc mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Abertawe, ac yna radd Meistr trwy Ymchwil mewn Gwyddor Chwaraeon.
Mae gan Tom Taylor swydd allweddol yn arwain y tîm gwyddor perfformiad yn Chelsea. Mae'r rôl hon yn cynnwys dylunio proffilio athletwyr sy'n seiliedig ar ddata, optimeiddio strategaethau llwyth hyfforddi, ac integreiddio systemau profi ffisiolegol – gan ddod ag arloesiadau a ddatblygwyd gan y Brifysgol yn uniongyrchol i'r amgylchedd hyfforddi elitaidd.
Meddai: “Roedd astudio Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe’r wedi gosod sylfaen ar gyfer fy ngyrfa mewn chwaraeon proffesiynol.Rhoddodd y darlithoedd ddealltwriaeth gadarn o'r wyddoniaeth sy’n sail i berfformio a daeth y sesiynau labordy â phethau'n fyw ynghyd â gwella ein sgiliau ymarferol.
Ar ôl cwblhau fy ngradd, parheais i astudio yn Abertawe am radd MSc trwy ymchwil, dan oruchwyliaeth yr Athro Kilduff, ar y cyd â lleoliad blwyddyn o hyd gyda West Ham Utd.Fe wnaeth hyn ganiatáu i mi ganolbwyntio o ddifri ar heriau perfformiad penodol ym maes pêl-droed proffesiynol. Drwy gymorth fy MSc, fe alluogodd hynny i mi ddatblygu atebion perfformiad pwrpasol”.
Mae Jordan Smith wedi ymgymryd â rôl arweinyddiaeth strategol yn West Ham United, gan gyfarwyddo protocolau cryfder a chyflyru a fframweithiau dadansoddi perfformiad ar draws holl weithgareddau'r tîm cyntaf. Mae eu gwaith yn cysylltu labordai ymchwil a methodolegau perfformiad uchel Abertawe yn ddi-dor â'r dechnoleg ddiweddaraf ym maes paratoi athletau'r Uwch Gynghrair.
Meddai: “Fe wnaeth fy amser yn Abertawe gryfhau fy awydd i weithio mewn chwaraeon elît. Rhoddodd y radd y sgiliau damcaniaethol ac ymarferol i mi lwyddo yn y maes hynod gystadleuol hwn. Drwy gydol fy amser yno rhoddodd yr adran a'r staff bwyslais mawr ar bob elfen ar ddatblygu gyrfa. Wrth gael lleoliad gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe, daeth hyn â phob dim yn fyw. Mae'r gefnogaeth rydw i wedi'i chael drwy gydol fy ngyrfa gan staff allweddol yn dangos pa mor angerddol y mae nhw am barhau i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o Wyddonwyr Perfformiad".
Datblygodd y ddau sgiliau a hyfforddiant yn amgylchedd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff trylwyr Abertawe, sy'n enwog am ei bartneriaethau arloesol, ei ymchwil ddwfn, a'i leoliadau gwaith yn y diwydiant. Mae eu hesgyniad i rolau arweinyddiaeth mewn dau o glybiau blaenllaw Lloegr yn tanlinellu effaith drawsnewidiol trosi arloesedd academaidd yn berfformiad chwaraeon elitaidd.
Mae'r penodiadau hyn yn dangos llwyddiant ymchwil gymhwysol a lleoliadau diwydiant Abertawe sy'n grymuso graddedigion i yrru arloesedd o fewn sefyllfaoedd chwaraeon proffesiynol.
Rhagor o wybodaeth am y rhaglenni sydd ar gael yn Abertawe:

