Mae MyRounders yn gynghrair rownderi cymdeithasol ar gyfer pobl 16 oed a hŷn ledled Cymru. Maent yn cynnal cynghreiriau cymysg a cynghreiriau menywod yn Abertawe a thu hwnt, gan groesawu cyfranogwyr o bob cefndir, gallu a lefel ffitrwydd. Maent yn canolbwyntio'n gryf ar fwynhad, cysylltiad a bod yn actif mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol.
Daeth y syniad ar gyfer MyRounders o gydnabod yr angen am gyfleoedd hwyliog ac heb bwysau i oedolion fod yn actif. Roedd llawer o bobl eisiau mwynhau symud heb ofynion chwaraeon cystadleuol. Profodd rownderi, gyda'i apêl hiraethus, ei symlrwydd a'i natur gymdeithasol, i fod yn ddewis perffaith.
Ers lansio yn 2022, mae MyRounders wedi cael effaith syfrdanol. Mae cyfranogwyr yn adrodd mwy o hyder, cyfeillgarwch newydd a brwdfrydedd newydd dros weithgarwch corfforol. I lawer, mae'r profiad yn mynd y tu hwnt i'r gêm ei hun, ac yn dod â theimlad o lesiant, perthyn a chysylltiad cymunedol.
Un o brif heriau MyRounders yw newid canfyddiadau am chwaraeon. Mae nifer o oedolion yn cysylltu cyfranogiad â chystadleuaeth neu brofiadau blaenorol yn yr ysgol, a all wneud ail-ymgysylltu'n frawychus. Mae MyRounders yn gweithio i herio'r ymdeimlad hwn, gan arddangos y gall chwaraeon fod yn hamddenol, croesawgar a chynhwysol. Yn aml, annog pobl i gymryd y cam cyntaf yw'r rhan anoddaf - ond unwaith iddynt wneud hynny, maen nhw'n gyflym yn profi''r awyrgylch cadarnhaol, cymdeithasol sy'n diffinio pob gêm.
Mae aelodaeth o'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon ac Iechyd wedi chwarae rhan werthfawr wrth gefnogi cenhadaeth MyRounders. Trwy NISH, mae MyRounders wedi cysylltu â phartneriaid o'r un anian sy'n rhannu ymrwymiad i wella iechyd a lles trwy symudiad hygyrch. Mae'r rhwydwaith yn darparu mewnwelediad arbenigol, cyfleoedd ar gyfer cydweithio, ac amgylchedd cefnogol sy'n annog arloesedd a thwf cymunedol.
Mae ffocws NISH ar ymarfer ac effaith sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cyd-fynd yn agos ag uchelgeisiau MyRounders. Mae'r tîm bellach yn archwilio sut y gall cydweithio â NISH helpu i fesur a deall canlyniadau lles chwaraeon cymdeithasol yn well - gan gryfhau model MyRounders a dangos sut y gall gweithgareddau syml a hwylus wneud gwahaniaeth ystyrlon i iechyd cymunedol.
Wrth edrych ymlaen, mae MyRounders yn awyddus i ddatblygu prosiectau cydweithredol gydag aelodau eraill o NISH. Mae meysydd posibl yn cynnwys ymchwil gymunedol, mentrau iechyd a lles, a digwyddiadau ar y cyd sy'n hyrwyddo gweithgaredd cynhwysol. Drwy rannu syniadau a gweithio gyda'i gilydd, gallant ehangu mynediad at chwaraeon cymdeithasol a helpu mwy o bobl i brofi manteision symud ledled Cymru a gyrru cynnydd tuag at genedl iachach a mwy egnïol.
Gyda dros 370 o dimoedd nawr yn chwarae dros 38 o gynghreiriau yng Nghymru, mae MyRounders wedi adeiladu cymuned llewyrchus sy'n canolbwyntio ar hwyl, cyfeillgarwch a chynwysoldeb.
“Gall gêm syml, gymdeithasol wneud gwahaniaeth fawr i lesiant a chynhwysiad, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i dyfu ein heffaith gyda chefnogaeth NISH” – Amy Phillips, MyRounders
Gall unrhyw un gymryd rhan - os ydynt yn dychwelyd i'r gêm ar ôl blynyddoedd neu'n rhoi cynnig arni am y tro cyntag. Gall timoedd gofrestru ar-lein, a gall unigolion gofrestru i ymuno drwy gael eu paru â grwpiau lleol i'w helpu i gychwyn arni. Mae'r holl offer sydd ei angen yn cael ei ddarparu, gan gadw popeth yn syml, yn gymdeithasol ac yn gynhwysol.




