Mynd i'r Afael â'r Bylchau Rhyw mewn Gofal Cyfergydion

Sefydlwyd Concussion Toolkit ar ôl profiad personol. Dioddefodd cyd-sefydlwr Pippi Heath gyfergyd yn y Brifysgol, ac wrth iddi frwydro trwy adferiad dryslyd ac ynysig, dechreuodd edrych yn fanylach ar yr ymchwil sy'n sail i ganllawiau cyfergyd prif ffrwd. Roedd y wybodaeth ddysgodd hi yn peri pryder mawr. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, siaradon ni â Millie Puddephatt am waith Concussion Toolkit i wella gofal ac ymchwil ynghylch yr anafiadau hyn a'u gwneud yn fwy gynhwysol ac ymatebol i rywedd.

Dywedwch wrthym ni am Concussion Toolkit a pham gafodd ei sefydlu…

Datgelodd meta-ddadansoddiad o 171 o astudiaethau cyfergyd chwaraeon fod 80.1% o'r cyfranogwyr yn wryw, a bod 40.4% o'r astudiaethau wedi eithrio menywod yn gyfan gwbl. Ac eto mae'r ymchwil hon yn sail i ganllawiau cyfergyd sydd wedi'u dosbarthu ar draws pob lefel o chwaraeon ac sy'n aml yn cael eu trin fel rhai cyffredinol.

Er eu bod yn cael eu tangynrychioli mewn ymchwil, mae tystiolaeth gynyddol bod menywod yn:

  • Adrodd cyfraddau uwch o gyfergyd mewn chwaraeon
  • Dioddef o symptomau mwy difrifol
  • Mynd trwy gyfnodau adfer hirach

Ar yr un pryd, anaml y mae canllawiau prif ffrwd ar gyfergyd yn cydnabod gwahaniaethau rhywedd o ran symptomoleg, amserlenni adfer, neu fecanweithiau anafiadau.

Pa rwystrau sy'n hwynebu menwyod wrth dderbyn diagnosis neu gymorth?

Gall canlyniadau'r bwlch hwn fod yn ddinistriol. Os yw menywod yn fwy tebygol o brofi symptomau hirfaith neu fwy difrifol, ond yn cael eu rheoli yn unol â phrotocolau a ddatblygwyd yn bennaf ar samplau gwrywaidd, efallai y byddant mewn mwy o berygl o ddychwelyd i chwarae yn rhy gyflym, profi syndrom ail-effaith a chael niwed niwrolegol hirdymor.

Mae hefyd ddealltwriaeth gyfyngedig o sut mae gyfergyd yn rhyngweithio â chylchred y mislif. Mae ymchwil sy'n dod i'r amlwg yn awgrymu y gall amrywiadau hormonaidd ddylanwadu ar dueddiad ac adferiad. Gall gorgyffwrdd rhwng symptomau mislif (megis blinder, cur pen, newidiadau mewn hwyliau) a symptomau gyfergyd arwain at oedi neu fethu diagnosis.

Sut ydych chi'n datrys hwn?

Mae Concussion Toolkit yn cymryd dull sy'n seiliedig ar rywedd. Mae hyn yn golygu:

  • Integreiddio tystiolaeth ar wahaniaethau rhyw a gender i addysg prif ffrwd ar gyfergyd
  • Tynnu sylw at wahaniaethau posib mewn amserlenni adfer a chyflwyno symptomau
  • Darparu canllawiau sy'n benodol i fenywod sy'n dilysu profiadau byw sydd yn aml yn cael eu hanwybyddu
  • Cynnig profion sylfaenol ac offer olrhain symptomau sy'n galluogi athletwyr i gofnodi cam cylchred y mislif a defnydd atal cenhedlu hormonaidd, gan helpu i greu darlun cliriach o iechyd ymennydd unigol yn ystod y mis

Mae angen mwy o ymchwil. Ond mae agwedd y tîm wastad wedi bod 'beth allwn ni ei wneud i helpu nawr?’

Sut yw Concussion Toolkit yn cydweithio â menywod gyda phrofiadau byw?

Mae profiadau byw wrth wraidd ein proses dylunio. Nid ydyn ni'n dod o gefndiroedd meddygol traddodiadaol. Mae ein arbenigedd mewn ymchwil rhyng-ddisgyblaethol, dylunio sy'n seiliedig ar ddefnyddwyr a gweithredu. Mae hyn yn ein galluogi i:

  • Gynnal ymchwil manwl gydag athletwyr
  • Gyd-ddylunio adnoddau ynghyd â menywod sydd wedi dioddef o gyfergyd
  • Brofi deunyddiau mewn amgylchedd bywyd go iawn ac ailadrodd yn seiliedig ar adborth
  • Sicrhau bod canllawiau’n ymarferol, yn berthnasol yn ddiwylliannol ac yn ddilysu’n emosiynol

Rydyn ni hefyd yn ymgorffori ac yn ehangu adnoddau iechyd menywod eraill sy'n bodoli eisoes. Nid yw hyn yn ymwneud â chystadlu, mae'n ymwneud ag adeiladu ecosystem gryfach.

Sut yw Concussion Toolkit yn codi ymwybyddiaeth?

Rydym ni'n gweithio'n bennaf gyda phrifysgolion a chwaraeon llawr gwlad, lle gall cymorth meddygol fod yn anghyson ac yn aml yn cael ei ddibynnu arno fywaf.

Mae ein pecyn cymorth ei hun yn offeryn digidol holistig sy'n seiliedig ar rywedd ac wedi'i gyd-gynllunio. Cafodd ei ddatblygu trwy ymchwil ryngddisgyblaethol ac mewn cydweithrediad â myfyrwyr-athletwyr, clinigwyr a chyfranwyr profiad byw. Yn hytrach na chanolbwyntio'n llwyr ar ddychwelyd i chwarae, mae'r pecyn cymorth yn cefnogi dychwelyd i ddysgu, lles, ac iechyd yr ymennydd yn yr hirdymor. Rydym ni'n gweithio gyda sefydliadau ar sail un-i-un i adeiladu eu hofferyn pwrpasol i weithio gyda'u symptomau a'u hadnoddau dynol a'u cryfhau.

Ochr yn ochr â'r Pecyn Cymorth, rydym ni'n cyflwyno gweithdai rhyngweithiol i athletwyr, hyfforddwyr ac adrannau chwaraeon. Mae'r sesiynau hyn yn:

  • Uwchsgilio unigolion i gydnabod ac adfer o gyfergyd
  • Tynnu sylw at ymchwil sy'n dod i'r amlwg am wahaniaethau rhyw a gender o ran cyfergyd
  • Pwysleisio amrywioldeb unigol a phwysigrwydd adferiad personol
  • Pwysleisio creu diwylliannau o gymorth a mynd i'r afael â stigma

Pa wahaniaethau sydd eu hangen mewn polisiau ac ymchwil iechyd menywod?

Mwy o dryloywder: Dylai canllawiau meddygol nodi'n glir y sail ymchwil y mae wedi'i hadeiladu arni, gan gynnwys cyfansoddiad y sampl. Heb hyn, gall pobl ddilyn canllawiau nad ydynt yn gwbl berthnasol iddynt heb yn wybod iddynt.

Rhagor o gyllid i ymchwil anafiadau menywod: Ni ellir cywiro degawdau o ymchwil androcentrig heb fuddsoddiad bwriadol.

Cydweithrediad rhyngddisgyblaethol: Mae cyfergyd chwaraeon yn aml yn cael ei drîn fel mater clinigol cul. Mewn gwirionedd, mae'n eistedd ar groesffordd sawl system. Mae angen cydweithio bwriadol rhwng clinigwyr, gwyddonwyr chwaraeon, endocrinolegwyr, seicolegwyr, ymchwilwyr gweithredu, cymdeithasegwyr, ac athletwyr eu hunain.

Dull systemau cyfan: Mae rheoli cyfergyd yn aml yn methu oherwydd bod systemau wedi'u rhannu'n dameidiog (efallai na fydd eu hyfforddwr yn ei ddeall; efallai na fydd eu hadran academaidd neu eu cyflogwr yn ei ddarparu ac ati). Mae dull system gyfan yn golygu dylunio cefnogaeth cyfergyd ar draws yr amgylchedd cyfan y mae athletwr yn gweithredu ynddo.

Sut all eraill fod ynr han o hwn?

Mae nifer o ffyrdd i unigolion a sefydliadau gefnogi'r gwaith hwn:

Archwilio eich protocolau cyfredol:  Who was the research behind your guidance based on? Does our protocol acknowledge potential sex and gender differences? Do we have clear academic or workplace adjustment pathways?

Ymgorffori addysg a chanllawiau ar gyfergyd mewn rolau presennol: Rather than adding entirely new systems, consider how concussion awareness can be integrated into your existing infrastructure, e.g. safeguarding training, coach development programs, athlete induction sessions, wellbeing check-ins etc.

Cefnogi ymchwil a mentrau gan fenywod: This may mean collaborating, amplifying, mentoring, or redirecting funding toward work that centres underrepresented populations. Structural imbalance in research will not correct itself without deliberate support.

Rhannu profiadau byw (os yw'n ddiogel): personal stories shift culture in ways statistics cannot.

Bod yn fwriadol wrth gaffael a chytuno a bartneriaethau: When selecting consultants, providers or collaborators, ask: Whose experiences informed this work? Does this organisation demonstrate inclusive methodology? Who might be unintentionally excluded?

Rydyn ni'n aml yn dweud bod cyfergyd yn anaf anweledol. Ond i nifer o fenywod, mae'r systemau o amgylch cyfergyd yn eu gwneud yn fwy anweledol byth.

Nid yw hwn am gael gwared ar ganllawiau meddygol cyfredol. Mae hwn am eu cryfhau, eu gwneud yn fwy tryloyw, yn fwy cynhwysol, a sicrhau eu bod yn adlewyrchu pobl go iawn.

Mae chwaraeon menywod yn tyfu'n gyflym. Mae rhaid i'n hymchwil, polisiau a strategaethau gweithredu gyda hwn.