3-5pm, 23 Ebrill 2026 | Hwb Llawr 5, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe
Mae TARIAN yn darparu sesiynau ymwybyddiaeth seiber deniadol, wedi'u llywio gan dimoedd gorfodi'r gyfraith, er mwyn meithrin dealltwriaeth ymarferol, cryfhau hylendid seiber, a'ch grymuso i adnabod ac ymateb i fygythiadau sy'n dod i'r amlwg.
Rydyn ni'n edrych ymlaen at gynnal sesiwn a fydd yn rhoi cipolwg ar y byd go iawn ynghyd â dysgu rhyngweithiol, felly byddwch chi'n gadael gyda gwybodaeth ymarferol sy'n berthnasol i dirwedd ddigidol heddiw.
Ystafell Ddianc Seiber
Ymarfer trochol lle byddwch chi'n camu i rôl ditectif i lywio senario seiber sy'n gysylltiedig â'r heddlu. Gan weithio mewn timau, byddwch chi'n datrys heriau sy'n atgyfnerthu egwyddorion sylfaenol hylendid seiber, o adnabod ymdrechion gwe-rwydo i ddeall ymddygiadau diogel yn ymarferol. Bydd yr holl bropiau a deunyddiau yn cael eu darparu, gan greu amgylchedd dysgu deniadol ac ymarferol.
Seiber mewn Chwaraeon ac Iechyd
Cyflwyniad sy'n tynnu sylw at dueddiadau a risgiau seiber cyfredol yn y sectorau chwaraeon ac iechyd o safbwynt gorfodi'r gyfraith. Byddwn yn archwilio fectorau ymosod cyffredin, gwendidau ymddygiadol, a phryderon sy'n dod i'r amlwg ac sy'n effeithio ar fyfyrwyr, staff a sefydliadau. Byddwch yn cael dealltwriaeth glir o sut mae bygythiadau seiber yn esblygu a chanllawiau ymarferol ar liniaru risgiau yn yr amgylcheddau hyn.

