Mae Chris Batchelor yn Gymrawd Trosglwyddo Technoleg ym Mhrifysgol Abertawe, yn arbenigo mewn datblygu a diraddio haenau, a dadansoddi microplastigion. Am y 5 mlynedd diwethaf, mae Chris wedi bod yn cyfuno ymchwil arloesol mewn haenau, diraddio, a dadansoddi microplastigion â chystadleuaeth lefel uchel mewn Jiwdo a Jiu-jitsu Brasil..
Dechreuodd daith Chris i chwaraeon yn gynnar. Yn blentyn, ymunodd â Chlwb Jiwdo Bury, ac esblygodd gweithgaredd plentyn yn gais gystadleuol difrifol.
Ar ôl ail-ddechrau Jiwdo yn oedolyn, ehangodd Chris ei sgiliau, gan ddechrau Jiu-jitsu Brasil i ategu ac ehangu ei dalent.
Mae ei lwyddiannau hyd hyn yn cynnwys:
- Sawl gorffeniad podiwm ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Cymru
- Aelod cyfredol o Dîm Jiwdo Cymru
- Enillydd medal aur yng Nghystadleuaeth Pwysau Agored Gi y Meistri Cenedlaethol (Jiu-jitsu Brasil)
- Enillydd uwch-frwydr Polaris Uprising
Mae'r cerrig milltir hyn yn adlewyrchu blynyddoedd o ymdrech barhaol a chynnydd strategol.
Yn hytrach nag un foment ddiffiniol, daeth trawsnewidiad Chris tuag at gystadleuaeth elitaidd o awydd i herio'i hun. Roedd yn hyfforddi'n rheolaidd gydag ymarferwyr lefel uchel, gan ei amlygu i'r safonau gofynnol ar y brig. Gwthiodd y profiadau hynny, ynghyd ag ymrwymiad i welliant parhaus, Chris i ddilyn amgylcheddau cystadleuol.
Mae cydbwyso ei rol academaidd llawn-amser gyda chwaraeon elît yn cynnwys cynllunio a disgyblaeth gofalus, ac mae amserlen wythnosol Chris yn ddwys:
- 3–4 sesiwn cryfder a chyflyru
- 6–7 sesiwn technegol a sbario
Er mwyn i hyn weithio, mae'n strwythuro ei ddiwrnod yn fanwl – hyfforddiant cryfder yn gynnar yn y bore cyn gwaith, a sesiynau ymarfer corff technegol gyda'r nos.
Mae cefnogaeth yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal y drefn hon. Mae Chris yn rhoi clod i'w wraig fel ei gefnogwr mwyaf, ochr yn ochr â hyfforddwr Cryfder a Chyflyru ymroddedig a maethegydd sy'n arbenigo mewn athletwyr sy'n reslo. Mae'r tîm hwn yn ei alluogi i ganolbwyntio ar berfformiad heb gael ei orlethu gan gynllunio.
I ymdopi â heriau meddyliol cystadlu ar lefel uchel, mae Chris yn canolbwyntio ar reoli beth mae'n gallu - cyflawni ei gynllun yn hytrach na phoeni am ei wrthwynebwr. Un strategaeth effeithiol iawn mae'n ei defnyddio yw Effaith Batman, techneg seicolegol lle mae athletwyr yn mabwysiadu hunan arall i lywio sefyllfaoedd dirdynnol gyda mwy o hyder.
Roedd y dull hwn yn ddefnyddiol yn ystod ei brif gêm yn nigwyddiad Polaris Uprising yn 2025, lle perfformiodd o flaen torf lawn. Drwy ddefnyddio sbardunau meddyliol a chanolbwyntio ar ei berfformiad ei hun, llwyddodd i ymateb i'r achlysur a chanolbwyntio ar y gêm.
O ran chwaraeon, nod Chris yw parhau i ddatblygu ei sgiliau a chystadlu mewn digwyddiadau lefel uchel lle bo'n bosibl. Yn broffesiynol, mae'n bwriadu parhau â'i ymchwil mewn dadansoddi microplastigion wrth ennill profiad mewn darlitho a goruchwylio myfyrwyr doethurol.
I'r bobl sydd am ddilyn chwaraeon elitaidd ochr yn ochr â swydd llawn-amser, mae Chris yn cynnig cyngor cadarn: cydbwysedd yw'r allwedd.
"Mae gwneud amser i'ch teulu a ffrindiau yn hanfodol, nid yn ddewisol. Mae gor-flino yn risg go iawn, ac mae rhwydwaith cymorth cryf yn gallu gwneud gwahaniaeth fawr wrth gynnal perfformiad a llesiant hirdymor."
Mae Chris yn pwysleisio pwysigrwydd tîm a hyfforddwyr sydd â diddordeb gwirioneddol yn eich datblygiad fel athletwr.
Mae'n diolch i Dragons Academy am ei gynnydd yn Jiwdo, yn enwedig wrth lwyddo ei radd Dan a'i lwyddiant mewn cystadlaethau. Yn debyg, mae ei gynnydd yn Jiu-jitsu Brasil ac mewn ymgodymu wedi'i lunio gan yr amgylchedd hyfforddi yn Nails Fight Centre.




