Gweithio gyda Vodafone Busnes i gyflwyno 5G+ gwell

Bydd cyflwyno 5G Vodafone cyflym a 4G dibynadwy yn helpu i ddarparu gwasanaethau addysg a gofal iechyd ar y ddau gampws.

Mae Prifysgol Abertawe nawr yn defnyddio Vodafone 5G+ cyflymach (a elwir hefyd yn 5G Standalone neu 5G SA) fel rhan o'n partneriaeth Swansea Bay City Deal gyda Vodafone Business, cangen fenter VodafoneThree.

Diolch i ddiweddariadau ar y rhwydwaith - gan gynnwys 4G Vodafone gwell ar Gampws Singleton a Champws y Bae - mae pobl sy'n gweithio, astudio neu ymweld â'r Brifysgol nawr yn mwynhau cyflymderau data cyflymach, yn ogystal â galwadau llais mwy dibynadwy ac o ansawdd gwell.

Bydd cyflwyno Vodafone 5G+ yn cefnogi 'lab byw' y Brifysgol, gan gynnwys ei hymchwil ar ddyfeisiau a synwyryddion iechyd, ffitrwydd a llesiant.

Meddai'r Athro Keith Lloyd, Cyfarwyddwr y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon ac Iechyd: “Mae'r cysylltedd 5G gwell ar draws campysau Prifysgol Abertawe yn cyflwyno cyfleoedd cyffrous, yn enwedig ar gyfer ein hymchwil iechyd, lles a chwaraeon.

“Mae rhwydweithiau cyflymach a mwy dibynadwy yn golygu y gallwn gasglu a dadansoddi data mewn amser real, gan alluogi arloesedd mwy effeithiol. Yn ogystal â bod o fudd i ymchwil, mae gan yr uwchraddiad hwn y potensial i wella gofal cleifion, gan gefnogi monitro o bell a gwasanaethau iechyd digidol.”

Meddai Shali Thilakan, Cyfawrwyddwr Gwerthiannau Busnes VodafoneThree: “Mae Vodafone 5G+ yn darparu manteision cysylltedd diddiwedd, gan gynnig rhwydwaith pwerus i fusnesau y gellir ei adeiladu o amgylch eu hanghenion.

“Mae Prifysgol Abertawe bellach mewn sefyllfa wych i ddechrau manteisio’n llawn ar hyn ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd yn parhau i gefnogi’r campysau a’n cwsmeriaid sy’n gweithio, astudio neu ymweld yno.”

Daw'r newyddion wrth i VodafoneThree barhau i fuddsoddi ar draws ardal ehangach Abertawe, gyda Vodafone 5G+ bellach ar gael i fwy na 75% o boblogaeth y ddinas.

Mae uwchraddio rhwydweithiau ledled Abertawe hefyd yn rhoi mynediad i gwsmeriaid Vodafone a Three i'r sylw gorau sydd ar gael, heb unrhyw gost ychwanegol.

Discover more from The National Institute for Sport & Health

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading