Siaradon ni ag Ellie Lake, Swyddog Cyfranogiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) a seren Dinas Abertawe, am sut mae cyfranogiad yn cynyddu ac mae pêl-droed yn dod yn fwy hygyrch yng Nghymru. Yma, mae Ellie yn rhannu ei barn hi ar rôl pêl-droed wrth gefnogi iechyd a lles, pwysigrwydd cyfleoedd gydol oes i gymryd rhan yn y gêm, a sut all cydweithio, data ac arloesi gadw mwy o bobl yn actif.
Sut olwg sydd ar gyfranogiad mewn pêl-droed yng Nghymru heddiw, a sut mae hyn wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf?
Mae nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn pêl-droed yn cynyddu'n gyflym ledled Cymru ym mhob fformat o'r gêm. Lansiodd FAW strategaeth Ein Cymru 5-mlynedd yn 2021 i gael mwy na 120,000 o chwaraewyr cofrestredig erbyn 2026. Cyrhaeddwyd y garreg filltir hon ym mis Mai 2026, gan weld cynnydd o 56% o'i gymharu â'r man dechrau yn 2021, gyda 76,000 o chwaraewyr cofrestredig.
Efallai mai'r cynnydd mwyaf nodedig wedi bod o ran gêm y menywod a'r merched. Ynghyd â'r strategaeth Ein Cymru, lansion ni'r strategaeth Ein Cymru: I Hi, gyda tharged o 20,000 o ferched yn chwarae erbyn 2026. Rydw i mor falch o ddweud bod hyn wedi’i ragori y llynedd yn ystod Twrnamaint Ewro’r Merched, pan wnaeth Cymru ymddangos am y tro cyntaf ar y llwyfan rhyngwladol yn y twrnamaint mawr cyntaf.
Rydyn ni hefyd wedi gweld cynydd enfawr mewn meysydd eraill o'r gêm. Mae fformatau hamddenol fel pêl-droed cerdded a phêl-droed cyn-filwyr wedi cynyddu o naid i naid, yn ogystal â Phêl-droed Anabledd, gyda rhifau'n cynyddu o 173 o chwaraewyr i dros 7,500 o chwaraewyr.
Wrth i ni ddechrau strategaeth 10-mlynedd newydd, y nod nesaf yw 160,000 o chwaraewyr cofrestredig. Ynghyd â chroesawu chwaraewyr newydd, mae ffocws mawr ar gadw chwaraewyr a gwirfoddolwyr, wrth sicrhau bod llywodraethu a chefnogaeth oddi ar y cae yn gywir hefyd.
Ond nid yw popeth wedi bod yn gadarnhaol, gyda gostyngiadau mewn cyfranogiad ar draws rhai grwpiau oedran. Rydym yn gweld bod cyfranogiad merched yn eu harddegau yn arbennig o heriol i'w lywio, gyda gostyngiadau yn y grwpiau oedran dan 14–dan 16. Rydym yn mynd i'r afael â hyn drwy raglenni cyfranogiad penodol i FAW, fel y rhaglen BE.FC, sy'n ceisio mynd i'r afael â hyn a darparu rhagor o gyfleoedd i ferched barhau i chwarae. Mae partneriaid FAW fel Game On hefyd yn gwneud llawer o waith i gefnogi ni yn y maes hwn.
Mae'r dyfodol yn ddisglair ar draws pob fformat o bêl-droed ar hyn o bryd!
Mae manteision corfforol cadw'n heini'n hysbys iawn, ond pa rôl all cymryd rhan mewn gweithgaredd ei chwarae wrth gefnogi iechyd a lles ehangach?
Ar draws Cymru, mae gennym lawer o wahanol fformatau o bêl-droed. Un fformat newydd sydd wedi'i gyflwyno eleni yw pêl-droed Parkinson's. Yn FAW, gweithion ni gyda chymdeithasau lleol a'r elusen Sport Parkinson’s i ddarparu £13,000 o gyllid i wyth darparwr gwahanol i gynnig pêl-droed Parkinson’s ledled Cymru.
Mae'r cyllid targedig hwn wedi caniatáu i glybiau fel Hwlffordd greu sesiynau pwrpasol ar gyfer pobl â chlefyd Parkinson's. Yn Hwlffordd, mae'r sesiynau wedi parhau i dyfu, gydag un chwaraewr a ddaeth i wylio ei gŵr bellach yn ymuno ei hun. Mae'r ddau ohonynt yn teimlo eu bod nhw'n gallu cymryd rhan mewn sesiwn gymdeithasol wych wrth gadw'n heini, sy'n enghraifft o sut y gall pêl-droed ddarparu cyfleoedd i bobl aros yn heini ac yn gysylltiedig.
Sut mae'r FAW yn gweithio i wneud pêl-droed yn fwy hygyrch a chynhwysol i bobl a allai draddodiadol wynebu rhwystrau i gymryd rhan?
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cynnig sawl fformat gwahanol o'r gêm i ddiwallu anghenion pawb. Ynghyd â'r fformatau gwahanol hyn, mae hefyd llwybr cyfranogiad sy'n cynnig pwyntiau mynediad ac ail-fynediad i'r gêm. Mae'r rhaglenni hyn yn caniatáu i bawb fwynhau pêl-droed anghystadleuol, gan greu cyfleoedd mwy hygyrch i bobl gymryd rhan, beth bynnag eu profiad neu eu gallu.
Rydym hefyd yn edrych i ddatblygu'r llwybr cyfranogiad ymhellach, gan fod ambell i fwlch. Mae angen mwy o gyfleoedd hamdden i oedolion, yn ogystal â datblygiad pellach o fewn llwybr y bechgyn. Mewn cymhariaeth, mae llwybr y menywod wedi'i ddatblygu llawer mwy, gan ddarparu cyfleoedd hyd at oedolaeth. Bydd datblygu'r meysydd hyn ymhellach yn ein helpu i sicrhau bod pwyntiau mynediad ac ail-fynediad clir i bawb, beth bynnag eu hoedran neu eu rhyw.
Mae addysg oddi ar y cae i wirfoddolwyr hefyd yn flaenllaw yn y cyrsiau rydym yn eu darparu, gan sicrhau bod sesiynau ac amgylcheddau clwb mor gynhwysol â phosibl. Mae hyn yn cynnwys cyngor ynghylch cyfleusterau cynhwysol, sesiynau wedi'u teilwra a chreu strwythurau clwb mwy cynhwysol.
Mae llawer mwy o waith i'w wneud o ran ymgysylltu â grwpiau lleiafrifol, er bod rhai enghreifftiau gwych o waith eisoes yn digwydd yn Abertawe. Mae prosiect pêl-droed a phêl-rwyd menywod yn cael ei gyflwyno ym Mosg Abertawe, gyda dros 65 o fenywod bellach yn ymgysylltu â'r prosiect. Mae hyn yn dangos pŵer dod â chyfleoedd yn uniongyrchol i gymunedau, yn hytrach na chyfeirio pobl at y ddarpariaeth sydd eisoes yn bodoli.

Pa mor bwysig yw rhoi cyfleoedd i bobl barhau i gymryd rhan mewn pêl-droed drwy gydol gwahanol gyfnodau o'u bywydau, yn hytrach na rhoi'r gorau iddi ar ôl plentyndod?
Mae bod yn rhan o bêl-droed yn golygu llawer mwy na chwarae yn unig. Mae yna nifer o gyfleoedd i wirfoddoli mewn pêl-droed a dod yn rhan o'r teimlad cymdeithasol a chymunedol sy'n dod gyda bod yn rhan o glwb. Rydym yn annog pawb i gymryd rhan yn eu clwb lleol, gan eu bod yn aml yn galon y gymuned leol.
Mae hi mor bwysig cynnig amrywiad o gyfleoedd pêl-droed i bawb, er mwyn i bobl allu mwynhau'r gêm beth bynnag eu hoedran. Mae cadw'n heini yn hwyrach mewn bywyd wedi dangos ei bod yn gwella iechyd cardiofasgwlaidd a lleihau pwysedd gwaed, ynghyd â manteision cymdeithasol sy'n dod o fod yn rhan o dîm a chymuned.
Mae pêl-droed llawr gwlad werth £553 miliwn i Gymru, gan gynnwys £206 miliwn mewn arbedion gofal iechyd a bron i £84 miliwn mewn effaith economaidd o fuddion cymdeithasol. Mae hyn yn enfawr i ni fel cenedl ac yn amlygu'r werth ehangach y gall pêl-droed eu cael tu hwnt i'r cae.
Rydym yn ymdrechu i gwblhau ein llwybr cyfranogiad fel bod cyfleoedd i chwarae pêl-droed a bod yn rhan o bêl-droed ar gael gydol oes, gan sicrhau y gall pobl aros yn gysylltiedig â'r gêm ym mha bynnag ffordd sy'n gweithio iddyn nhw.
Pa rôl sydd gan dechnoleg, data ac arloesi wrth gynyddu cyfranogiad a helpu pobl gael y mwyaf allan o gadw'n heini?
Mae gan dechnoleg rhan enfawr o fewn chwaraeon erbyn hyn. Mae gan bawb oriawr glyfar sy'n dangos gwahanol fetreg, mae cyfryngau cymdeithasol yn rhoi syniadau hyfforddi newydd ac ymarfer corff i bobl, ac mae apiau fel Strava yn galluogi pobl olrhain eu gweithgareddau a chysylltu â phobl eraill. Mae gan dechnoleg y pwer i leihau rhwystrau a gwneud cyfranogiad yn fwy hygyrch.
Mae technoleg hefyd yn allweddol i Gymdeithas Bêl-droed Cymru wrth olrhain ffigurau cyfranogiad, sicrhau cydymffurfiaeth ar draws clybiau a nodi tueddiadau data. Gall hyn helpu i lywio mentrau a rhaglenni newydd, gan sicrhau ein bod yn ymateb i ble mae cyfranogiad yn gostwng ac yn edrych ar ffyrdd o ail-ymgysylltu â phobl. Rydym hefyd yn defnyddio llwyfannau digidol i helpu pobl i ddod o hyd i sesiynau sy'n addas ar gyfer eu hoedran, eu gallu, eu lleoliad a'u diddordebau, gan ei gwneud hi'n haws i rywun ddod o hyd i gyfle i gymryd rhan. Mae hyn yn arbennig o bwysig o fewn pêl-droed hamdden, lle efallai na fydd pobl eisiau ymrwymiad clwb traddodiadol neu gynghrair gystadleuol.
Mae arloesi drwy ddefnyddio fformatau gwahanol o'r gêm hefyd yn rhan fawr o'r dyfodol. Wrth i ni weld y meysydd hamddenol dyfu, gyda phêl-droed cerdded a gemau troi-lan-i-chwarae 5-bob-ochr a futsal yn tyfu, mae cyfranogiad yn tyfu ar draws y gêm ac yn rhoi mwy o gyfle i bobl ddewis sut maen nhw'n ymgyyslltu â phêl-droed.
Mae hefyd gyfle i ddefnyddio data i arddangos effaith ehangach cyfranogiad. Os allwn ni ddal faint o bobl sy'n chwarae yn ogystal â'r manteision corfforol, cymdeithasol a lles maen nhw'n eu hennill, gallwn ni greu achos cryfach am fuddsoddiad mewn pêl-droed llawr gwaelod yng Nghymru.
Beth yw eich nodau o ran cyfranogiad pêl-droed yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf?
Ein prif nod yw tyfu cyfranogiad wrth gadw pobl yn chwarae yn hirach. Mae strategaeth newydd FAW (2026-2036) yn gosod nod clir i dyfu o 120,000 i 160,000 o chwaraewyr cofrestredig, gan leihau'r nifer o bobl 12-17 oed yn gadael y gêm gan 50%.
Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni ddarparu mwy o ddewis a hyblygrwydd – gwahanol fformatau, mwy o gyfleoedd hamdden a llwybrau clir i bobl ymuno â phêl-droed, gadael ac ailymuno drwy gydol eu hoes. Mae hefyd angen i ni fuddsoddi yn y bobl, y clybiau a’r cyfleusterau sy’n gwneud cyfranogiad yn bosibl, gydag uchelgais am gyfleusterau pêl-droed o safon o fewn 15 munud i bob cymuned yng Nghymru.
Yn y pen draw, y nod yw creu “Un Gêm. Llawer o Lwybrau. Cyfleoedd Gydol Oes.” a sicrhau bod lle i bawb ym mhêl-droed Cymru.

Pa gyfleoedd sydd gan chwaraeon, iechyd gofal, academia a'r diwydiant i gydweithio i annog rhagor o bobl yng Nghymru i gadw'n heini?
Mae nifer o gyfleoedd i gydweithio yng Nhymru, ond nid ydym ni wastad yn defnyddio'r cyfleoedd hyn mor effeithiol â phosib.
Mae sefydliadau fel WIPAHS yn dod â Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol, sefydliadau addysg a Chwaraeon Cymru ynghyd i greu cymdeithas iachach gan ddefnyddio ymchwil a mewnwelediad i yrru newid gadarnhaol mewn chwaraeon. Yn FAW, mae hwn yn faes y gallwn ymgysylltu â hi yn fwy a gwneud mwy o ddefnydd o'r arbenigedd a'r ymchwil sydd ar gael.
Ond eto rydym ni'n ymgysylltu'n rheolaidd â Chwaraeon Cymru, Llywodraeth Cymru a'r sector iechyd cyhoeddus i sicrhau ein bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol ac yn cydweithio i ysgogi newid. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi FAW i fuddsoddi tua £9 miliwn bob blwyddyn mewn pêl-droed llawr gwlad, gan helpu i wella cyfleusterau a chynyddu cyfleoedd i gymryd rhan ledled Cymru. Gall y buddsoddiad hwn hefyd fod o fudd i chwaraeon eraill, gyda datblygiadau 3G a rennir yn ddiweddar ar gyfer pêl-droed a rygbi mewn mannau fel Llanymddyfri.
Mae enghreifftiau cryf o iechyd a chwaraeon yn cydweithio. Mae timoedd iechyd cyhoeddus a NERS yn gweithio gyda ni i greu llwybrau atgyfeirio i raglenni fel pêl-droed Parkinson's a phêl-droed cerdded, gan helpu pobl i symud o wasanaethau iechyd i gyfleoedd hygyrch i gadw'n heini.
Ar draws y sector ehangach, mae cyfle gwirioneddol i gryfhau'r partneriaethau hyn ymhellach. Dylem wneud gwell defnydd o'r arbenigedd, yr ymchwil, y data a'r rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli ledled Cymru, gan greu mwy o gyfleoedd i rannu dysgu a mynd i'r afael ag anweithgarwch ar y cyd. Gallai hyn olygu mwy o gydweithio â phrosiectau fel NISH i gael mynediad at y byd academaidd i ddeall beth sy'n gweithio, diwydiant ar gyfer arloesedd a thechnoleg, a phartneriaid iechyd i greu mwy o lwybrau i weithgarwch. Drwy ddod â sefydliadau ynghyd o amgylch blaenoriaethau cyffredin, gallwn wneud gwell defnydd o'r adnoddau sydd ar gael ac yn y pen draw gyrraedd mwy o bobl sy'n anweithgar ar hyn o bryd.

