Mae trin canser y pancreas yn parhau i fod yn un o'r heriau mwyaf mewn oncoleg. Er bod llawer o gyffuriau canser modern yn gryf iawn, gallant fod yn ansefydlog yn y corff, cronni mewn meinweoedd iach, neu achosi sgîl-effeithiau sylweddol, gan gyfyngu ar eu heffeithiolrwydd. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn gweithio i fynd i'r afael â'r her hon trwy blatfform cyflenwi cyffuriau arloesol a gynlluniwyd i helpu triniaethau i gyrraedd tiwmorau yn fwy effeithiol.
Wedi'i arwain gan Yr Athro Lewis Francis, Arweinydd Academaidd a Chyd-Ddyfeisiwr Rhaglen Nanoronynnau MRC Abertawe, ynghyd â Dr Kadie Edwards, Swyddog Ymchwil, Datblygu ac Arloesi a Chyd-Ddyfeisiwr, mae'r tîm wedi datblygu Nanoport, platfform perchnogol o nanoronynnau polymerig sy'n gallu cario ystod eang o asiantau therapiwtig. Mae'r dechnoleg wedi'i chynllunio i amddiffyn cyffuriau wrth iddynt gael eu danfon, gwella targedu i safleoedd clefydau, a lleihau gwenwyndra oddi ar y targed.
Gyda chefnogaeth gan gyllid MRC IAA , mae'r ymchwilwyr nawr yn datblygu'r genhedlaeth nesaf o fformwleiddiadau Nanoport ar gyfer canser y pancreas. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar oresgyn un o rwystrau mwyaf arwyddocaol yr afiechyd: sicrhau bod meddyginiaethau yn callu treiddio a chyrraedd y tiwmor yn effeithiol.
Mae'r tîm yn addasu Nanoport i ddarparu therapïau canser newydd addawol, gan gynnwys atalyddion KRAS, tra'n datblygu eiddo deallusol newydd o amgylch y fformwleiddiadau hyn ar yr un pryd. Ochr yn ochr ag optimeiddio a phrofi perfformiad, mae'r prosiect yn cynhyrchu'r dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi datblygiad clinigol yn y dyfodol a chyfleoedd ariannu ar raddfa fwy.
Y nod yn y pen draw yw nodi prif ymgeisydd triniaeth a all symud ymlaen tuag at gymhwysiad clinigol, gan osod y sylfaen ar gyfer therapïau mwy effeithiol a thargedig ar gyfer cleifion canser y pancreas.
Mae Dr Kadie Edwards yn egluro:“Nod ein technoleg Nanoport patent yw datrys hyn trwy ddarparu triniaethau'n uniongyrchol i'r tiwmor.”
The Nanoport platform has the potential to improve the delivery and effectiveness of next-generation cancer therapies, supporting the development of targeted treatments for one of the most difficult cancers to treat while creating valuable new intellectual property and future commercial opportunities.

