Mae adeiladu pencadlys y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon ac Iechyd (NISH), canolfan arloesol newydd sy'n ymroddedig at ddatblygi iechyd, chwareaon a thechnoleg wedi cyrraedd carreg filltir bwysig gyda'r seremoni gorffen yn digwydd ar Lôn Sgeti.
Bydd y prif gyfleuster, pedwar llawr, 2000m2 ym mynedfa Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn dod â phartneriaid cyhoeddus, preifat ac academaidd ynghyd i greu ecosystem arloesol, y cyntaf o'i bath - wedi'i ddylunio i wella iechyd cyhoeddus, chwaraeon elît a chymunedol, ac ysgogi twf economaidd ar draws y rhanbarth a thu hwnt. Bydd yr adeilad yn agor yn 2027.
Dan arweiniad Prifysgol Abertawe a chefnogaeth Bargen Ddinesig Bae Abertawe, Cyngor Abertawe a byrddau iechyd lleol, nod NISH yw cyflymu twf technoleg chwaraeon, technoleg feddygol ac arloesedd gofal iechyd yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe drwy ddod ag arbenigedd lleol, cenedlaethol ac rhyngwladol ynghyd.
Mae'r Sefydliad yn cefnogi cwmnïau deillio a chwmnïau sy'n tyfu drwy ddeori a gweithgarwch ymchwil a datblygu a galluogi mynediad at ddata, arbenigedd a chyfleusterau i wella datblygiad cynnyrch. Mae ganddo hefyd y nod o ddatblygu twf academaidd rhanbarthol drwy greu swyddi a buddsoddiad, a gwella iechyd y cyhoedd gan gefnogi arloesedd ataliol ac adsefydlu.
Fel angor Parc Gwyddoniaeth ac Arloesi ehangach, bydd NISH yn lle ar gyfer datblygu, treialu ac uwchraddio technolegau newydd mewn amgylcheddau byd go iawn. Mae ef mewn sefyllfa unigryw i lenwi bylchau'r DU yn yr isadeiledd technoleg chwaraeon canolog.
Bydd yr adeilad pedwar llawr newydd yn cynnwys:
- Mannau i weithio mewn partneriaeth a chydweithredu
- Academi Iechyd a Lles
- Ystafelloedd efelychu chwaraeon o'r radd flaenaf
- Ystafelloedd arloesi a deori
- Cyfleusterau ymchwil a chyfryngau arloesol
Bydd yr adnoddau hyn yn mynd law yn llaw ag ecosystem ehangach o bartneriaid a chyfleusterau cyfagos, gan gynnwys Ysbyty Singleton, Prifysgol Abertawe, St Helens, canolfannau hyfforddiant elît, a mannau gwyrdd megis Parc Singleton a Bae Abertawe.
Meddai'r Athro Keith Lloyd, Cyfarwyddwr NISH: "Mae gweld adeilad NISH yn cyrraedd y cam pwysig hwn yn gyffrous iawn i ni. Bydd lle i ymchwilwyr, busnesau, gweithwyr gofal iechyd a'r gymuned chwaraeon gydweithio a throi syniadau yn effaith go iawn. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu partneriaid newydd drwy'r drws."
Y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Pwyllgor Corfforaethol ar y Cyd De-orllewin Cymru“Mae’r garreg filltir hon yn gam arwyddocaol arall ymlaen i Abertawe a rhanbarth ehangach De-orllewin Cymru. Bydd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon ac Iechyd yn cryfhau ein henw da am arloesi, yn creu cyfleoedd newydd i fusnesau ac ymchwilwyr, ac yn helpu i ysgogi buddsoddiad, swyddi medrus a thwf economaidd ar draws y rhanbarth.
“Dyma’r union fath o brosiect cydweithredol sy’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd partneriaid yn cydweithio i sicrhau manteision hirdymor i’n cymunedau a’n heconomi.
“Mae’n elfen bwysig arall o barc gwyddor chwaraeon, yn dilyn creu cyfleusterau newydd ym meysydd chwarae Brenin Siôr V, maes chwaraeon criced newydd, y stadiwm cymunedol wedi’i adnewyddu yn St Helen’s a threfniadau newydd ar gyfer Pwll Cenedlaethol Cymru.”
Richard Jones, Cyfarwyddwr Willmott Dixon: "Mae cyrraedd y garreg filltir hon yn dyst i ymroddiad ac arbenigedd pawb sy'n rhan o'r prosiect. Bydd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon ac Iechyd yn creu cyrchfan unigryw lle gellir datblygu, profi a throsi syniadau yn fuddion go iawn. Rydym yn falch o fod yn chwarae ein rhan wrth ddarparu cyfleuster a fydd yn helpu i gryfhau enw da Abertawe fel canolfan ragoriaeth a chreu cyfleoedd i genedlaethau'r dyfodol."
Gellir cyflwyno cais nawr i rentu gofod swyddfa, a cheir opsiynau aelodaeth rithwir hefyd. Rhagor o wybodaeth.




