Mae Anatomy, sy'n aelod o NISH, yn helpu busnesau fferyllol a gwyddorau bywyd wella'r ffordd maen nhw'n hyfforddi eu timoedd ac ymgyyslltu â gweithwyr gofal iechyd. Mae'r cwmni wedi'i leol yn Ne Cymru ac yn datblygu apiau rhyngweithiol, efelychiadau cwsmeriaid, rhithffurfiau AI sy'n siarad a technoleg gemau i wneud hyfforddiant yn fwy ymgysylltiol a realistig.
Yn ddiweddar, cysylltodd cwmni fferyllol o'r 20 uchaf ag Anatomy i wella hyfforddiant gallu ar gyfer ei dimau masnachol a meddygol. Defnyddiodd y cwmni blatfform a fesurodd a oedd tasgau wedi'u cwblhau, ond roeddent am fynd ymhellach i ddeall pa mor dda y roedd ei dimau'n ymgysylltu â chwsmeriaid ac yn perfformio yn ystod sgyrsiau.
Gwelodd y cwmni gyfle i fynd i'r afael â'r her gyda thechnoleg chwarae rôl Anatomy, TrainBox.ai. Cydweithiodd Anatomy'n agos â'r tîm i ddatblygu rhaglen o efelychiadau AI gan ddefnyddio cynnwys ei hun sydd nawr yn galluogi gweithwyr i ymarfer sgyrsiau gyda rhithffurfiau AI sy'n ymateb fel cwsmeriais go iawn.
Yn dilyn pob efelychiad, mae'r platfform yn creu adroddiad adborth yn seiliedig ar fframwaith cymhwysedd y cwmni, gan dynnu sylw at yr hyn a aeth yn dda a lle gallai unigolion wella. Gwelodd y peilot cychwynnol, a oedd yn cynnwys 85 o ddefnyddwyr, gyfradd fabwysiadu o 94% a chynnydd o 47% mewn ymgysylltiad o'i gymharu â phlatfform blaenorol y cwmni. Roedd yr adborth yn arbennig o gadarnhaol ynghylch pa mor realistig oedd y rhuthffurfiau yn siarad a pha mor agos yr oedd eu hymatebion yn adlewyrchu sgyrsiau cwsmeriaid go iawn.
Yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot, mae'r cwmni bellach yn bwriadu cyflwyno'r platfform i'w dîm byd-eang, ar draws cannoedd o ddefnyddwyr ac mewn chwe iaith wahanol. Yn y pen draw, gall timau sydd wedi'u paratoi'n well gael sgyrsiau mwy gwybodus gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan helpu i sicrhau bod ganddyn nhw'r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i gefnogi gofal cleifion.

Mae TrainBox.ai yn defnyddio fframweithiau cymhwysedd y cwmni, gwybodaeth am gynhyrchion a phroffiliau cwsmeriaid i greu efelychiadau wedi'u teilwra. Mae ei rhithffurfiau AI yn ymateb i ddefnyddwyr mewn amser real, yna mae'r platfform yn dadansoddi'r sgyrsiau ym mhob cyfarfod efelychiedig i roi adborth ar ba mor dda y mae unigolion yn dangos y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt.
Mae'r rhan fwyaf o dechnoelg hyfforddi yn canolbwyntio ar gwblhau yn hytrach na gallu, ond drwy asesu'r hyn y mae pobl yn ei ddweud mewn bywyd go iawn a sut maen nhw'n ymgysylltu wrth siarad, mae technoleg Anatomy yn helpu sefydliadau i nodi bylchau mewn gwybodaeth a sgiliau, yn hytrach na dangos pa fodiwlau hyfforddi sydd wedi'u cwblhau yn unig.
Mae gweithio ar brosiect o'r raddfa hon yn gam arwyddocaol i Anatomy, gan ddangos y gall ddarparu technoleg AI gymhleth mewn partneriaeth â busnesau byd-eang. Mae hefyd yn dangos sut y gall cwmni technoleg lleol ddatblygu atebion gyda'r potensial i gael eu defnyddio gan sefydliadau ledled y byd.
Mae'r tîm nawr yn cynnal sgyrsiau pellach ar draws y sectorau fferyllol a gwyddorau bywyd, yn ogystal ag ysbyty hyfforddi fawr yng Nghaerdydd. Maen nhw'n archwilio sut allai AI sgyrsiol gael ei ddefnyddio mewn meysydd eraill, gan gynnwys hyfforddi efelychu, rheolaeth, datblygu a masnachol meddygol.
Fel cwmni wedi'i leoli yn Ne Cymru ac aelod o NISH, mae Anatomy yn awyddus i weithio gyda mwy o fusnesau i fabwysiadu dull gwahanol o hyfforddi, wrth gyflwyno''r dechnoleg hon i sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt.



