Astudiaeth Achos: Trawsnewid Integreiddio Data Gofal Iechyd ac Ymgysylltu â Chleifion

National Network for Innovation in Sport & Health event

Mae SymlConnect yn gwmni technoleg gofal iechyd sy'n creu meddalwedd hawdd ei ddefnyddio i helpu gweithwyr meddygol proffesiynol i symleiddio eu gwaith a chasglu gwybodaeth cleifion yn fwy effeithlon. Gall cleifion ddarparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer monitro a gofal ataliol yn hawdd.

Mae SymlConnect yn unigryw yn ei allu i drosglwyddo data yn ddiogel rhwng gwahanol systemau, gan ei gwneud hi'n hawdd i feddygon a chleifion rannu gwybodaeth. Gellir addasu'r system hon ar gyfer gwahanol anghenion meddygol, bydd yn arbed amser ac arian trwy flaenoriaethu anghenion cleifion a gellir ei defnyddio ar gyfer gwahanol feysydd clinigol. Mae'r tîm yn cydweithio'n agos â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, academyddion, a chleifion i sicrhau bod mewnbwn arbenigwyr a defnyddwyr yn dylanwadu ar y dechnoleg.

Ers 2010, mae swyddfa SymlConnect wedi’i leoli ar Gampws Singleton Prifysgol Abertawe, lle datblygodd y tîm system ar gyfer cyfnewid data diogel rhwng systemau gofal iechyd gwahanol. Dylanwadwyd ar y penderfyniad hwn i leoli’r cwmni yma gan y gefnogaeth a gawsant gan y brifysgol a Llywodraeth Cymru.

Mae cynnyrch cyntaf SymlConnect ar gyfer y farchnad gofal sylfaenol yn symleiddio casglu data cleifion trwy ddulliau digidol, boed yn y clinig neu gartref. Mae'n integreiddio'n ddi-dor â systemau clinigol presennol, gan awtomeiddio mewnbynnu data a chodio. Mae'r system yn darparu dadansoddiadau craff ar gyfer dehongli ymatebion cleifion yn gyflym ac adrodd ar lefelau ymateb a gwybodaeth goll. Mae'r nodweddion allweddol yn cynnwys:

  1. Integreiddiad di-dor â systemau clinigol presennol ar gyfer ffeilio ymatebion cleifion yn awtomatig
  2. Negeseuon swmp ac amserlennu aseiniadau holiadur
  3. Protocolau llwybr y gellir eu haddasu gan gyfeirio cleifion ac anfon ymatebion awtomatig
  4. Adroddiadau dangosfwrdd wedi'u teilwra ar gyfer rheolaeth
  5. Gwybodaeth gynorthwyol er mwyn blaenoriaethu cleifion ac adrodd ar drothwy

Yn hanesyddol, mae'r GIG wedi cael trafferth gyda chasglu data papur hen ffasiwn, gan arwain at aneffeithlonrwydd, colli data, a gofal gwael i gleifion. Mae SymlConnect yn cynnig atebion mewn dau brif faes:

  1. Symleiddio tasgau gweinyddol – gan arbed amser a chostau i bractisau’r GIG – drwy ddigideiddio’r broses o gasglu data cleifion, galluogi dadansoddi prydlon a chamau gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth
  2. Ymgysylltu â chleifion trwy eu dyfeisiau symudol, hwyluso rhannu gwybodaeth yn amserol, gwella profiad cleifion, a lleihau’r angen am ymgynghoriadau wyneb yn wyneb

Mae SymlConnect yn canolbwyntio ar sicrhau rhaglenni peilot mewn practisau meddygon teulu yng Nghymru i roi systemau monitro o bell ar waith ym maes gofal sylfaenol. Bydd y systemau hyn yn defnyddio nodweddion adrodd a yrrir gan AI i nodi a mynd i'r afael ag anghenion parhaus cleifion trwy ddadansoddi data presennol. Trwy dynnu sylw at gleifion sydd mewn perygl, nod SymlConnect yw cefnogi timau clinigol i reoli cyflyrau cronig hirdymor a monitro cyffredinol yn fwy effeithiol.

Gan edrych ymlaen, mae SymlConnect yn bwriadu ehangu i'r farchnad gofal eilaidd a datblygu systemau gofal iechyd digidol annibynnol ychwanegol.

“Roedd bod yn yr un adeilad â’n hymgynghorwyr yn ein helpu i adeiladu’r berthynas ac roedd pawb wedi elwa. Mae ein profiad cyffredinol wedi bod yn un o ragoriaeth a chydweithio. Daeth SymlConnect yn aelod o’r Tîm Cynnig Cymorth o dan rheolaeth Dr David Ford, a helpodd i hybu ymwybyddiaeth a gweithgareddau yn y camau cychwynnol… ac rydym yn dal i elwa o’u cefnogaeth.
– Neil Sutton, Rheolwr Datblygu Busnes SymlConnect

Discover more from The National Institute for Sport & Health

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading