Mannau Clinigol I'w Llogi ar Gampws Prifysgol Abertawe

Mae ein Hacademi Iechyd a Llesiant modern yn cynnig mannau clinigol i'w llogi ar Gampws Singleton Prifysgol Abertawe, gyda chyfleusterau hyblyg a fforddiadwy wedi'u teilwra at eich anghenion.

P'un a ydych yn ddarparwr gofal iechyd sydd am ehangu eich gwasanaethau, cynnal ymchwil neu gydweithio ar brosiectau arloesol, mae'r mannau hyn wedi'u dylunio i'ch helpu i gyrraedd eich nodau.

Ystafelloedd triniaeth
Mae'r ystafelloedd triniaeth yn cynnig amgylchedd lle caiff heintiau eu rheoli a gellir ymgymryd ag amrywiaeth o archwiliadau a thriniaethau gyda mynediad at blinthiau clinigol, cyfleusterau golchi dwylo a TG.

Ymchwil glinigol
Dylunwyd ein mannau yn arbennig ar gyfer gweithwyr iechyd gofal proffesiynol, ac mae'r cyfleusterau modern yn amgylchedd ddelfrydol ar gyfer amryw o ymgynghoriadau.

Ystafelloedd ymgynghori
Mae'r ystafelloedd hyn wedi'u dylunio i gefnogi ymchwil gymhwysol a threialon clinigol drwy ddarparu amgylchedd ddiogel i gasglu data.

Mannau dysgu hyblyg
Mannau dysgu hyblyg i wella dysgu mewn amgylchedd glinigol. Mynediad at gleifion "go iawn" sydd wrth wraidd addysg feddygol.

Mae hefyd gan yr Academi dderbynfa agored fawr a llefydd agos i ymwelwyr barcio.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch yr Academi ar 01792518600 neu anfonwch e-bost at Emma ar e.oliver@swansea.ac.uk.

Discover more from The National Institute for Sport & Health

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading