Gofynnon ni i Dr Tegwen Malik, Arweinydd Strategol Chwaraeon Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, am y cwrs Meistr newydd yn Rheolaeth Uwch (Chwaraeon Busnes ac Arweinyddiaeth) to find out more about the unique course, tailored for sporting professionals and enthusiasts.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y rhaglen?
Yr hyn a sbardunodd y fenter hon oedd y bwlch yn y farchnad a nodwyd o ran rhaglen rheoli chwaraeon. Deilliodd hyn yn ôl i'r prosiect Campuses Bargen Ddinesig Bae Abertawe , a amlygodd angen yn y farchnad a oedd yn cyd-fynd ag anghenion penodol y sector chwaraeon drwy greu "datrysiadau addysg a hyfforddi pwrpasol".
Ymgorfforwyd hyn wedyn yn strategaeth dysgu ac addysgu chwaraeon Prifysgol Abertawe i wella sgiliau gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y sector yn ogystal ag athletwyr sy'n meddwl am fywyd y tu hwnt i gystadleuaeth egnïol.
Cynlluniwyd y rhaglen hon i roi'r offer i athletwyr a gweithwyr proffesiynol yn y sector chwaraeon i ragori oddi ar y cae.
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Mae'r cwrs wedi'i greu'n benodol ar gyfer y dysgwr proffesiynol. Mae'n berffaith ar gyfer:
- Unigolion sy'n gweithio mewn sefydliadau chwaraeon sydd am ddatblygu eu gyrfaoedd
- Athletwyr neu hyfforddwyr proffesiynol neu led-broffesiynol presennol neu flaenorol sy'n paratoi ar gyfer mentrau ôl-ymddeol
- Unrhyw un sy'n ceisio adeiladu gyrfa yn y sector chwaraeon
Cynlluniwyd y cwrs i roi’r wybodaeth i ddysgwyr sy’n gweithio mewn (neu’n dymuno gweithio mewn) sefydliadau chwaraeon i’w grymuso i wella eu rolau neu chwilio am gyfleoedd newydd. Bydd pob dysgwr yn ennill y wybodaeth hon, ni waeth a oes ganddynt unrhyw gymwysterau ffurfiol mewn rheolaeth neu arweinyddiaeth.
Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer athletwyr proffesiynol/lled-broffesiynol sy'n meddwl am ddatblygu eu sgiliau rheoli ac entrepreneuraidd (fel sefydlu eu busnes eu hunain yn ystod/ar ôl eu gyrfa chwaraeon) fel ffordd ragweithiol o roi'r sgiliau a'r offer angenrheidiol iddynt ar ôl ymddeol o chwaraeon proffesiynol.
Beth yw strwythur y cwrs?
Darperir y rhaglen yn rhan-amser dros ddwy flynedd, gan ei gwneud yn hyblyg i weithwyr proffesiynol. Mae'n cyfuno dysgu ar-lein gydag elfennau fel gweithdai wyneb yn wyneb, gan alluogi myfyrwyr i gydbwyso eu hastudiaethau ag ymrwymiadau eraill.
Bydd y cwrs hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio, dysgu gan eraill yn y sector a rhannu arfer gorau. Mae'r cwrs yn rhoi cyd-destun ac ystyr i'r gwaith y mae dysgwyr eisoes yn ei wneud gan ddefnyddio sefyllfaoedd bywyd go iawn.
Pa fodiwlau dylai myfyrwyr eu disgwyl?
Mae'r flwyddyn gyntaf yn cynnwys modiwlau rheoli craidd allweddol i greu dealltwriaeth sylfaenol gryf. Yna bydd myfyrwyr yn symud ymlaen i fodiwlau chwaraeon-benodol i gwmpasu gweithredu entrepreneuraidd (ac intrapreneuraidd), arweinyddiaeth yn ogystal â rheoli gweithrediadau cynaliadwy ar gyfer chwaraeon.
Daw’r cwrs i ben gyda phrosiect sy’n canolbwyntio ar ymchwil wedi’i deilwra i ddiddordebau pob myfyriwr a gellir ei ddefnyddio’n ymarferol yn eu gweithle eu hunain. Mae hwn yn gyfle i ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth newydd a ddysgwyd ar gyfer prosiect y maent yn ymwneud ag ef yn y gweithle, neu gallent ganolbwyntio arno i’w helpu i sefydlu menter fusnes newydd.
Bydd darlithoedd a gweithdai yn cael eu cynnal gan academyddion busnes, siaradwyr gwadd a phobl sydd â chefndiroedd chwaraeon amrywiol.
Beth sy'n gwneud i'r rhaglen yn unigryw?
Yn wahanol i raglen Meistr draddodiadol, mae’r cwrs hwn wedi’i deilwra ar gyfer myfyriwr proffesiynol sydd â phrofiad bywyd a safbwyntiau unigryw personol i’w cyflwyno. Bydd y profiadau hyn yn cael eu harchwilio gan ddefnyddio cysyniadau damcaniaethol allweddol a addysgir ar y gwahanol fodiwlau a defnyddio hyn i archwilio a gwerthuso cymhwysiad ymarferol cynnwys y cwrs yn feirniadol. Caiff hyn ei wella ymhellach gydag astudiaethau achos go iawn ac offer ymarferol.
Mae'r cwrs yn gyfuniad o gysyniadau damcaniaethol a chymhwysiad ymarferol. Rydym yn defnyddio astudiaethau achos go iawn i ddod â theori yn fyw, ac mae ein cysylltiadau â’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn rhoi cyfleoedd rhwydweithio unigryw i fyfyrwyr.
Beth yw'r gofynion mynediad?
Dylai fod gan ymgeiswyr radd israddedig 2:1 (neu gyfwerth). Ond rydyn ni hefyd yn ystyried pobl sydd â chefndir chwaraeon-benodol perthnasol a phrofiad gwaith yn y sector. Bydd y sgiliau trosglwyddadwy sydd gan ddarpar fyfyrwyr y gellir eu defnyddio ar y cae ac oddi arno a'u cymhwyso i fusnes, arweinyddiaeth a rheolaeth yn cael eu hystyried.
Pa gyfleoedd gyrfa y gallai hyn arwain atynt?
Credwn y bydd graddedigion mewn sefyllfa dda i ymgymryd â rolau arweiniol o fewn sefydliadau chwaraeon, cyrff llywodraethu, neu hyd yn oed ddechrau eu mentrau eu hunain. Bydd y sgiliau a enillir hefyd yn drosglwyddadwy ar draws sectorau amrywiol, gan sicrhau ystod eang o gyfleoedd i fyfyrwyr. Bydd cyfle hefyd i rwydweithio gyda phobl broffesiynol eraill yn ystod y gweithdai a fydd yn cael eu cynnal fel rhan o'r rhaglen hon.
Sut all ddarpar fyfyrwyr ymgeisio?
Gellir ymgeisio drwy system ymgeisio Prifysgol Abertawe. Rydym yn argymell ymgeisio'n gynnar, oherwydd gallai'r cwrs gau yn gynnar os yw'r llefydd yn llenwi.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cwrs neu am gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at f.t.malik@swansea.ac.uk.
Unrhyw sylwadau eraill ar gyfer darpar ymgeiswyr?
Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i’r sector gyda’r cwrs yn cael ei ddatblygu mewn ymgynghoriad gyda a gan gyn-athletwyr proffesiynol (o wahanol gefndiroedd) ynghyd â gweithwyr proffesiynol o fewn y sector sydd wedi gweithio gydag Olympiaid, Paralympiaid a Phencampwyr y Byd. Yn ystod y broses ddatblygu, y thema allweddol a oedd yn dal i ddod i’r amlwg oedd bod gwir angen rhaglen o’r math hwn nid yn unig ar gyfer pobl sydd wedi’u hymgorffori mewn sefydliadau chwaraeon ond hefyd fel dyletswydd gofal ar gyfer ein hathletwyr i’w cefnogi a’u harfogi â sgiliau a gwybodaeth hanfodol ar ôl chwaraeon proffesiynol.

