Cyfle i Ddatblygu Eich Potensial Arweinyddol yn y Sectorau Chwaraeon, Iechyd a Llesiant

Mae rhaglen Gwobr Lefel 3 Arweinyddiaeth a Rheolaeth ILM Prifysgol Abertawe nawr ar agor am geisiadau – cyfle datblygu proffesiynol ar gyfer pobl sy'n gweithio yn y sectorau Chwaraeon, Iechyd a Llesiant.

Mae'r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer rheolwyr iau, oruchwylwyr neu arweinwyr awyddus o amryw eang o sefydliadau - o brifysgolion, cynghorau lleol, ac elusennau, i gwmniau bach a busnesau yn yr ecosystem iechyd a llesiant.

Mae cyfranogwyr yn cynnwys gweithwyr o adrannau chwaraeon prifysgolion, timoedd yn y cyngor, ac aelodau NISH.

Drwy gymysgedd o ddosbarthiadau meistr, dysgu profiadol, ac ymarfer myfyriol, bydd cyfranogwyr yn:

  • Darganfod offer a strategaethau arwain cyfredol
  • Dysgu sut i ymgysylltu ac ysggogi pobl yn effeithiol
  • Datblygu'r sgiliau i gynllunio a rhoi newid ar waith
  • Gwella perfformiad a chynhyrchiant sefydliadol
  • Creu cynllun datblygu arwain personol

Bydd cyfranogwyr sy'n cwblhau dau aseinaid yn ennill Gwobr Lefel 3 Arweinyddiaeth a Rheolaeth ILM, sydd wedi'i hachredu gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth a'i chydnabod gan y Swyddfa Safonnau Datblygiad Proffesiynol Parhaus am hyd at 40 awr o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (yn amodol ar bresenoldeb).

  • Cost: Rhad ac am ddim
  • Hyd: 7 mis
  • Amserlen: Tua un diwrnod y mis (9am–4pm)
    • Dyddiadau: Chwef 5, Maw 5 & 19, Ebr 16, Mai 14, Meh 11, Gorff 9 2026
  • Lleoliad: Swansea University, Singleton Campus

Os yw cyfranogwr yn colli sesiwn achlysurol, gall opsiynau amgen ar Teams neu Zoom gael eu trefnu - ond mae presenoldeb llawn yn cael eu annog yn gryf.

Ceisiadau'n cael eu derbyn tan 31 Hydref 2026.

Discover more from The National Institute for Sport & Health

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading