Dull Newydd i Ganfod Namau ar y Galon yn Gynnar

Mae Prifysgol Abertawe yn cydweithio â chwmni newydd Americanaidd Bloom Standard, ei bartneriaid rhyngwladol a meddygon pediatrig ym Mongolia i ddatblygu dyfais feddygol newydd i wella diagnosis cynnar o fabanod sy'n cael eu geni gyda nam ar y galon.

Mae'r cydweithrediad hwn yn dod ag arbenigedd arloesol Prifysgol Abertawe ynghyd, gydag Athro Cyswllt Gwyddoniaeth Gofal Iechyd Emma Rees a'i chydweithiwr Dr Natalie de Mello yn cydweithio â Bloom Standard wrth i'r cwmni ddatblygu'r ddyfais.

Y nod cyffredin yw gwella diagnosis cynnar o namau ar y galon cynhenid, cyflwr sy'n effeithio ar bobl ledled y byd. Ar hyn o bryd, mae'r diffygion calon hyn fel arfer yn cael eu canfod gan ddefnyddio darnau mawr a drud o offer ac mae angen arbenigedd mewn amgylcheddau ysbytai. Gall hyn fod yn her pan fydd babanod yn cael eu geni mewn ardaloedd mwy anghysbell neu mewn lleoliadau lle mae adnoddau gofal iechyd yn fwy cyfyngedig.

Gweledigaeth Bloom Bision yw datblygu peiriant uwchsain hunan-yrru llawer llai y gellir ei ddefnyddio gan unrhyw un mewn lleoliadau mwy anghysbell. Y nod yw i'w ddyfais ffod yn rhan o'r llwybr sgrinio presennol a gwella'r gallu i ganfod namau ar y galon llawer yn gynharach yn ystod plentyndod.

I Emma, roedd y bartneriaeth â Bloom Standard yn addas iawn. Gyda 30 mlynedd o brofiad mewn profion diagnostig cardiaidd, llwyddodd i ddod ag arbenigedd clinigol i'r prosiect, ochr yn ochr â chefnogaeth seilwaith arloesi Prifysgol Abertawe a'r arbenigedd ehangach sydd ar gael ar draws y Brifysgol. Y weledigaeth gyffredin yw cydweithio i wneud gwahaniaeth i bobl yng Nghymru ac yn fyd-eang.

Mae'r Academi Iechyd a Lles yn cynnig labordy sganio calonnau arbenigol i gefnogi'r gwaith, yn ogystal â chyfle i bartneriaid yn y diwydiant i sefydlu eu swyddfeydd a labordai ochr yn ochr ag academyddion. Mae'r cydleoli hyn yn cynnig proses arloesi mwy effeithlon drwy ddod ag arbenigedd o'r diwydiant a'r byd academaidd ynghyd mewn un lle. Mae'r prosiect hefyd yn cefnogi ymchwilydd PhD, gydag ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu'r ddyfais a dulliau newydd o weithredu'r ymchwil.

Bydd y gwaith hwn yn cefnogi datblygiad y ddyfais bresennol a darparu dysgu y gellir ei gymhwyso i gwmnïau eraill yn y dyfodol. Mae'r cydweithrediad hwn yn dangos sut y gall cyfuno arbenigedd clinigol, ymchwil academaidd a phrofiad yn y diwydiant helpu i gefnogi datblygiad technolegau meddygol i ddatrys heriau gofal iechyd yng Nghymru ac ar draws y byd.

Discover more from The National Institute for Sport & Health

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading