Rydym yn edrych i weithio gyda chwmnïau, elusennau a sefydliadau a all ddarparu hyfforddiant cymorth cyntaf a sesiynau ymwybyddiaeth i glybiau chwaraeon lleol.
Rydym ni am roi'r wybodaeth a'r hyder i bobl sy'n rhan o chwaraeon cymunedol i ymateb os bydd rhywun yn mynd yn sâl neu'n cael ei anafu yn ystod gêm neu sesiwn hyfforddi. Gall hynny olygu cymorth cyntaf sylfaenol, adnabod argyfwng neu ddechrau CPR wrth aros am gymorth pellach.
Hoffem ni glywed gan sefydliadau sy'n darparu sesiynau ymarferol a diddorol i glybiau chwaraeon a'u cymunedau, gyda chyfleoedd yn cwmpasu meysydd fel:
- Cymorth cyntaf sylfaenol ac ymwybyddiaeth argyfwng
- CPR a defnyddio diffibriliwyr
- Ymateb i ddigwyddiadau ar ochr y cae
- Cydnabod pryd mae rhywun angen cymorth meddygol brys
Os yw eich sefydliad yn darparu cymorth cyntaf, CPR neu hyfforddiant debyg a hoffech chi weithio gyda ni i gefnogi clybiau chwaraeon lleol, hoffem glywed gennych chi.

