Symud ar Gyfer Iechyd Meddwl

Wrth feddwl am fanteision cadw'n heini, rydym ni fel arfer yn meddwl am fanteision iechyd corfforol yn gyntaf. Rydyn ni'n gwybod bod hyn yn gwneud ein cyhyrau'n gryfach, ein calonnau'n iachach ac yn lleihau ein risg o gyflyrau iechyd hirdymor. Ond mae manteision iechyd meddwl symud yn haeddu sylw hefyd, gan ei fod effeithio'n fawr ar sut rydym ni'n teimlo.

Mae ymchwil o hyd yn dangos cysylltiad rhwng ymarfer corff rheolaidd a iechyd meddwl gwell. Mae astudiaethau hefyd yn dangos bod lefelau uwch o ymarfer corff yn gysylltiedig â gwell hwyliau, gwell gwsg a lefelau is o bryder ac iselder.

Er nad yw ymarfer corff yn cymryd lle cymorth iechyd meddwl proffesiynol, mae'n gallu bod yn rhan fawr o edrych ar ôl ein hiechyd meddwl ac atal rhai cyflyrau.

Gall cadw'n heini fod mor syml â cherdded gyda ffrindiau, garddio ar y penwythnos, beicio gyda'r teulu, dawnsio neu gymryd egwyliau wrth eistedd am gyfnod hir. Gall y syniad o ymarfer corff deimlo fel peth arall i ffeindio amser i'w wneud ar ddiwrnod prysur, a gall y natur ddwys, gystadleuol sy'n aml yn gysylltiedig iddo wneud iddo deimlo'n frawychus a chyfyngedig.

Gall y ffordd mae ymarfer corff yn effeithio ar yr ymennydd a'r corff fod yn gadarnhaol iawn, drwy ryddhau cemegolion sy'n rheoleiddio hwyliau a straen, a gall symud yn rheolaidd wella ansawdd cwsg a lefelau egni. Gall y newidiadau corfforol hyn ddylanwadu ar sut rydym ni'n teimlo, meddwl ac ymdopi â heriau bob dydd.

Ond mae'r manteision yn mynd tu hwnt i'r corff. Mae bod yn actif yn rhoi ymdeimlad o lwyddiant, yn rhoi strwythur i ni, yn rhoi egwyl o'r gwaith, sgriniau a phwysau eraill yn ein bywydau. Gall bod yn yr awyr agored, newid ein hamgylchedd a chanolbwyntio ar weithgaredd hefyd roi amser gwerthfawr i ni ymlacio ein hymennydd.

I nifer ohonom ni, mae cysylltiad cymdeithasol yn fantais bwysig arall. Mae chwaraeon tîm, gwersi ymarfer corff, grwpiau cerdded a gweithgareddau cymunedol yn dod â phobl at ei gilydd ac yn creu cyfleoedd i ddatblygu perthnasoedd a theimlo cysylltiad i bobl eraill. Mae hyn yn gysylltiedig i iechyd meddwl da, a gall cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn gyda phobl eraill leihau unigrwydd a chreu ymdeimlad o berthyn.

Gall negeseuon am wthio mwy, hyfforddi'n fwy aml neu wella'n gyson weithio i rai pobl, ond mae hefyd yn gallu teimlo'n frawychus neu'n anhygyrch. Os yw symud wastad yn cael ei gysylltu â pherfformiad, gallai pobl golli allan ar y manteision ehangach. Felly mae darganfod gweithgaredd hwyl i fod ynrhan o fywyd bob dydd yn gwneud hi llawer yn haws i gadw'n heini dros amser. Gallai hynny olygu chwarae mewn tîm, nofio gyda ffrindiau, rhedeg amser cinio, dawnsio, neu gerdded i'r gwaith, y peth pwysig yw dod o hyd i rywbeth sy'n gweithio i chi ac sy'n gynaliadwy.

Discover more from The National Institute for Sport & Health

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading