Datblygu prawf agos at y claf ar gyfer C-peptid

Mae Grŵp Ymchwil Diabetes Prifysgol Abertawe wedi datblygu profiad eang mewn profion sy'n ymwneud â diabetes dros nifer o flynyddoedd, gyda chefnogaeth labordy achrededig gan y Safon Arfer Clinigol a Labordy Da .

Mae'r wybodaeth arbenigol hon wedi arwain at gydweithrediadau â chwmnïau fferyllol, dyfeisiau meddygol a diagnostig, gan gynnwys perthynas hirdymor ag Invitron, cwmni bach yn Nhrefynwy sy'n arbenigo mewn datblygu profion sensitif iawn.

Gyda'i gilydd, mae Prifysgol Abertawe ac Invitron wedi llwyddo i gael gyllid gan Innovate UK i ddatblygu prawf agos at y claf ar gyfer C-peptid, protein bach sy'n cael ei gyd-secretu ag inswlin o'r pancreas ac sydd o ddiddordeb mewn ymchwil a gofal diabetes. Disgwylir i'r galw am brofion C-peptid gynyddu wrth i therapïau newydd ar gyfer atal diabetes math 1 gael eu datblygu.

Ar hyn o bryd, mae angen anfon sampl gwaed i labordy ei dadansoddi er mwyn mesur C-peptid, ac mae canlyniadau'n cymryd hyd at ychydig o ddyddiau. Mae'r cydweithrediad yn datblygu dyfais gludadwy a all ddefnyddio sampl gwaed pigo bys a darparu canlyniad mewn tua 10 munud.

Fel rhan o'r prosiect, mae tîm Yr Athro Steve Luziowedi bod yn profi cywirdeb y ddyfais. Hyd yn hyn, mae'r canlyniadau wedi bod yn ddigon canologol i'r tîm symud ymlaen i dreial clinigol gyda tua 70 o gyfranogwyr yn y Gyfleuster Ymchwil Glinigol ar y Cyd ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae'r cydweithrediad ag Invitron yn helpu i ddatblygu prawf C-peptid sy'n gofyn am sampl gwaed bach ac yn gallu darparu canlyniadau llawer yn gyflymach na'r dull presennol.

Gallai'r gwaith hefyd gefnogi datblygiad triniaethau diabetes yn y dyfodol, gan fod disgwyl i brofion C-peptid ddod yn fwyfwy berthnasol ochr yn ochr â dulliau newydd i atal diabetes math 1.

Discover more from The National Institute for Sport & Health

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading